Agenda a chofnodion drafft

Cyfarfod Penderfyniadau Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adfywio a Hamdden - Dydd Mercher, 5ed Ebrill, 2017 10.00 yb

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

 

2.

CYMERADWYO A LLOFNODI HYSBYSIAD PENDERFYNIAD Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR YR 16EG MAWRTH 2017. pdf eicon PDF 107 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Mawrth, 2017 gan eu bod yn gywir.

 

 

3.

AMGUEDDFA TREF CAERFYRDDIN. pdf eicon PDF 185 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad yn manylu ar opsiynau ar gyfer dyfodol Amgueddfa Tref Caerfyrddin [a oedd wedi bod ar gau dros dro ers mis Tachwedd 2016 oherwydd pryderon am ddiogelwch y cyhoedd] ac yn sgil y ffaith bod yr Amgueddfa wedi methu asesiad Cynllun Sicrhau Ansawdd Atyniadau i Ymwelwyr (VAQAS) a nododd wendidau mawr o ran yr adeilad.  Roedd yr Asesiad hefyd wedi tynnu sylw at bryderon eraill hefyd ynghylch pa mor briodol oedd yr amgueddfa yn Amgueddfa Achrededig a'i lleoliad a'i gweithrediad presennol. 

 

PENDERFYNWYD dileu Amgueddfa Tref Caerfyrddin oddi ar y Cynllun Achredu Amgueddfeydd, a bod y casgliadau perthnasol yn cael eu  cynnwys yn rhan o ddatblygiad yr archifdy/llyfrgell newydd yng Nghaerfyrddin.

 

 

4.

POLISI AR GYFER DARPARU MEINCIAU COFFA MEWN MANNAU AGORED CYHOEDDUS. pdf eicon PDF 157 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Tynnwyd yr eitem hon yn ôl.]

 

5.

WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI CYNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL FARNU NAD YW'R EITEMAU GANLYNOL I'W CHYHOEDDI AM EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

 

 

6.

CRONFA MENTRAU GWLEDIG SIR GAERFYRDDIN - CAMBRIAN ICE CREAM.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif. 5 uchod, na fyddid yn cyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu fusnes rhywun penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o niweidio'r ymgeiswyr ar hyn o bryd.

 

Bu'r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol yn ystyried cais gan Cambrian Ice Cream am grant ar gyfer gwaith gosod ffitiadau mewnol yn uned 2, Canolfan Parry Thomas, Pentywyn, a fyddai'n creu 1.5 o swyddi amser llawn.

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais canlynol am gymorth o'r Gronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:-

Yr Ymgeisydd/Eiddo                                          Y Dyfarniad

Cambrian Ice Cream / uned 2, Canolfan Parry Thomas, Pentywyn   £11,838.38

 

 

7.

CRONFA MENTRAU GWLEDIG SIR GAERFYRDDIN - NATURE'S BEST CATERING.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif. 5 uchod, na fyddid yn cyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu fusnes rhywun penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o niweidio'r ymgeiswyr ar hyn o bryd.

 

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried cais gan Nature's Best Catering am grant ar gyfer gosod ffitiadau mewnol ar lawr uchaf Canolfan Parry Thomas, Pentywyn, a fyddai'n creu 9 o swyddi amser llawn.

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais canlynol am gymorth o'r Gronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:-

Yr Ymgeisydd/Eiddo Y Dyfarniad

Nature’s Best Catering / Canolfan Parry Thomas, Pendine              £42,974.78