Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
COFNOD PENDERFYNIADAU - 20 CHWEFROR, 2017 Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnod penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 20 Chwefror, 2017 yn gofnod cywir.
|
|
Cofnodion: Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth i gynyddu'r gost ar gyfer llogi'r neuadd chwaraeon lawn yng Nghanolfan Hamdden Llanelli a fyddai'n cyd-fynd â'r ffigwr chwyddiant o 2.2% a chanolfannau hamdden eraill ledled y Sir.
PENDERFYNWYD cymeradwyo cynnydd yn y gost logi'r neuadd chwaraeon lawn yng Nghanolfan Hamdden Llanelli o'r swm a gytunwyd sef £85 i £86.40.
|
|
CYMORTH ARIANNOL O'R GRONFA GRANT GANLYNOL: CRONFA CYLLID A DARGEDIR Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o'r Gronfa Cyllid a Dargedir yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:
Ymgeisydd Dyfarniad Cyngor Cymuned Llanon a Chlybiau Chwaraeon Gwendraeth Uchaf a'r Gymdeithas Gymunedol £20,000.00 CYCA £19,889.00 Canolfan y Mynydd Du mewn partneriaeth â Chyngor Cymuned Cwarter Bach £16,098.00 Ail Gyfle – Second Chance Ltd £9,000.00 G?yl Ddefaid Llanymddyfri £20,000.00
|
|
ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI Cofnodion: PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.
|
|
GWAREDU D?R WYNEB DWYRAIN CROSS HANDS Cofnodion: Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 5 uchod, na fyddid yn cyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu fusnes rhywun penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf). Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o niweidio'r ymgeiswyr ar hyn o bryd. Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad yn gofyn am awdurdod i ddynodi cyllid er mwyn cael gwared ar gyfyngiad datblygu yn Safle Cyflogaeth Strategol Dwyrain Cross Hands.
PENDERFYNWYD cymeradwyo grant o hyd at uchafswm o £20,000 yr un ar gyfer dau berchennog tir gwahanol sef NR Evans a JBCH er mwyn cyflymu'r brosesi o waredu d?r wyneb o'r system d?r budr a gosod y cysylltiad d?r budr yn Nwyrain Cross Hands.
|
|
CRONFA MENTRAU GWLEDIG SIR GAERFYRDDIN - HDG FARM SUPPLIES LTD Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoeddPENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 5 uchod, na fyddid yn cyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu fusnes rhywun penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf). Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o niweidio'r ymgeiswyr ar hyn o bryd. Bu'r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol yn ystyried cais gan HDG Farm Supplies Ltd am grant tuag at adeiladu adeilad newydd pwrpasol ar gyfer storio a dosbarthu yn Sanclêr a fyddai'n arwain at greu 5 o swyddi amser llawn ychwanegol. PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais canlynol am gymorth o'r Gronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:- Yr Ymgeisydd/Eiddo Y Dyfarniad HDG Farm Supplies Ltd / Tir yn Sanclêr £100,000.00
|