Agenda a chofnodion drafft

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 (Adfywio), Neuadd y Sir, Caerfyddin - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 11 TACHWEDD 2016 pdf eicon PDF 101 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 11 Tachwedd, 2016 yn gofnod cywir.

 

3.

CRONFA DATBLYGU EIDDO SAFLE CYFLOGAETH STRATEGOL DWYRAIN CROSS HANDS pdf eicon PDF 192 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyried adroddiad a oedd yn cynnwys manylion y meini prawf ar gyfer Cronfa Datblygu Eiddo i annog y sector preifat i adeiladu adeiladau at ddibenion masnachol gyda'r prif nod o greu cyflogaeth ar Safle Cyflogaeth Strategol Dwyrain Cross Hands.

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cynllun a'r canllawiau arfaethedig ar gyfer y Gronfa Datblygu Eiddo sy'n benodol ar gyfer Safle Cyflogaeth Strategol Dwyrain Cross Hands.

 

4.

CYMORTH ARIANNOL O'R GRONFA GRANT GANLYNOL: CRONFA CYLLID A DARGEDIR pdf eicon PDF 139 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o'r Gronfa Cyllid a Dargedir yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol a'r rhai a bennwyd yn yr adroddiad:

 

Ymgeisydd                                                                                      Dyfarniad

Canolfan Cymunedol Menter Gymdeithasol Glanyfferi                      £20,000.00

 

5.

ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

 

6.

CRONFA MENTRAU GWLEDIG SIR GAERFYRDDIN- DEINTYDDFA EMLYN

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ôl cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 5 uchod, na fyddid yn cyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu fusnes rhywun penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o niweidio'r ymgeiswyr ar hyn o bryd.

Bu i'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyried cais gan Ddeintyddfa Emlyn am gymorth o'r Gronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin tuag at y costau o addasu Canolfan Ddydd diangen yng Nghastellnewydd Emlyn yn bractis deintyddol.

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais canlynol am gymorth o'r Gronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:-

Yr Ymgeisydd/Eiddo                                                     Y Dyfarniad

Deintyddfa Emlyn/canolfan ddydd diangen           £128,000.00

 

7.

CRONFA MENTRAU GWLEDIG SIR GAERFYRDDIN- TE GER Y MÔR

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Ar ôl cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif5 uchod, na fyddid yn cyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu fusnes rhywun penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o niweidio'r ymgeiswyr ar hyn o bryd.

Bu i'r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol ystyried cais gan Mrs T.W. Gray am gymorth gan Gronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin tuag at y costau o addasu uned yng Nghanolfan Parry Thomas, Pentywyn yn gaffi / ystafell de.

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais canlynol am gymorth o'r Gronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:-

Yr Ymgeisydd/Eiddo                                                                                Y Dyfarniad

Mrs.  T.W. Gray / uned yng Nghanolfan Parry Thomas, Pentywyn £12,559.47.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau