Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adfywio a Hamdden - Dydd Mercher, 4ydd Mai, 2016 10.00 yb

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant.

 

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 18FED EBRILL 2016 pdf eicon PDF 201 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 18fed Ebrill, 2016 yn gofnod cywir.

 

3.

CRONFA DATBLYGU EIDDO MASNACHOL TRAWSNEWIDIADAU pdf eicon PDF 257 KB

Cofnodion:

Ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol adroddiad a fanylai ar gynigion gan yr Awdurdod i sicrhau cyllid o ddyraniad cyfalaf blynyddoedd ariannol 2016/2017 a 2017/2018 i ddarparu cymorth grant i ddatblygwyr eiddo masnachol er mwyn llenwi'r bwlch ariannol rhwng y costau adeiladu a gwerth yr eiddo masnachol wedi'i gwblhau ar y farchnad. Nod y cymhelliant a gynigid oedd rhoi hwb i'r cyflenwad o safleoedd busnes o safon uchel yn Sir Gaerfyrddin drwy gynnig cyllid tuag at unedau diwydiannol neu swyddfeydd o safon uchel.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r meini prawf a'r gweithdrefnau arfaethedig ar gyfer darparu Cronfa Datblygu Eiddo Masnachol ar gyfer Trawsnewid.

 

4.

CRONFA MENTER WLEDIG SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 332 KB

Cofnodion:

Ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol adroddiad a fanylai ar gynigion gan yr Awdurdod i sicrhau cyllid o ddyraniad cyfalaf blynyddoedd ariannol 2016/2017 a 2017/2018 i ddarparu cymorth grant i brosiectau cyfalaf ar gyfer mentrau gwledig y sir. Byddai'r Grant yn darparu cymorth i fentrau ac unig fasnachwyr ar gyfer datblygu safleoedd busnes newydd a phresennol, lle y byddai swyddi newydd yn cael eu creu o ganlyniad i'r prosiect.

Cynigiwyd y byddai Grantiau ar gyfer gwneud gwaith i'r eiddo ar gael i berchenogion y buddiant rhydd-ddaliad yn yr eiddo neu i ddalwyr prydles sydd i barhau am o leiaf bum mlynedd arall, nid 15 mlynedd fel y nodwyd yn yr adroddiad, sydd ar ôl ar adeg y cais.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar y newid uchod, gymeradwyo'r meini prawf a'r gweithdrefnau arfaethedig ar gyfer darparu Cronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin.

5.

CYMORTH ARIANNOL O GRONFA'R DEGWM pdf eicon PDF 392 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Gronfa'r Degwm yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:-

Yr Ymgeisydd                                                                             Y Dyfarniad

Capel Bethel                                                                                       £2,124.00

Eglwys yr Annibynwyr Bethania                                                         £3,000.00

Eglwys yr Holl Saint, Rhydaman                                                           £3,000.00*

Gwasanaethau Cymorth a Gwybodaeth ynghylch Canser                 £3,000.00

Clwb Cychod Tywi                                                                              £500.00

Capel Gellimanwydd                                                                           £3,000.00

Cymdeithas Rhieni, Athrawon a Ffrindiau Llandybïe                          £3,000.00

 

[*Yn amodol ar sicrhau'r holl gyllid perthnasol arall.]