Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Pwyllgor 2, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant.

 

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 30 MAWRTH 2016 pdf eicon PDF 228 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnod penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi ei gynnal ar 30 Mawrth 2016 gan ei fod yn gofnod cywir.

 

3.

MEINI PRAWF DIWYGIEDIG AR GYFER Y GRANT CANLYNOL: GRANT CRONFA'R DEGWM pdf eicon PDF 421 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad a fanylai ar y meini prawf diwygiedig a gynigiwyd ar gyfer Cronfa'r Degwm. Nodwyd bod y Meini Prawf ar gyfer Grantiau yn cael eu hadolygu'n rheolaidd i sicrhau bod y gronfa yn cael ei gweinyddu'n effeithiol a bod unrhyw newidiadau i bolisïau a gweithdrefnau corfforaethol yn cael eu cynnwys.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r meini prawf diwygiedig ar gyfer Cronfa'r Degwm.

 

 

4.

DYFARNU CYLLID AD-DALADWY I GEFNOGI ADFYWIO CANOL TREF LLANELLI pdf eicon PDF 283 KB

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad a roddai sylw i lwyddiant Is-adran Datblygu Economaidd Cyngor Sir Caerfyrddin (CSC) wrth sicrhau cyllid ychwanegol o £50,000 tuag at y cynllun benthyciadau o £700,000 a gymeradwywyd ar gyfer canol tref Llanelli, er mwyn lleihau nifer y safleoedd ac adeiladau gwag, segur a rhai nad ydynt yn cael eu defnyddio'n ddigonol, tra'n cefnogi arallgyfeirio yng nghanol tref Llanelli.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu'r cyllid ar yr amod ei fod yn cael ei hawlio'n llawn erbyn 25 Mawrth 2016, neu fel arall byddai wedi cael ei golli. Felly, argymhellwyd cymeradwyo'n ôl-weithredol fod y £50,000 ychwanegol yn cael ei dynnu i lawr a bod y cyllid hwn yn cael ei ychwanegu at y swm gwreiddiol i'w ddefnyddio at y diben a ddisgrifiwyd yn y llythyr cynnig.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r argymhelliad uchod.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau