Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adfywio a Hamdden - Dydd Mercher, 16eg Medi, 2015 10.00 yb

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

Datganiadau o Fuddiannau Personol

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant.

 

 

2.

CYMERADWYO A LLOFNODI HYSBYSIAD PENDERFYNIAD Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 3YDD AWST 2015 pdf eicon PDF 195 KB

Cofnodion:

 

PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi ei gynnal ar 3ydd Awst 2015, gan ei fod yn gywir.

 

3.

Cais am wyro Cilffordd sydd ar Agor i Unrhyw Draffig, sef BOAT 57/42, sydd ar safle fferm Bryndias, Pinged, ac a wnaed o dan adran 117 o Ddeddf Priffyrdd (1980) am resymau diogelwch ac er diogelwch y cyhoedd. pdf eicon PDF 237 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried cais am wyro Cilffordd sydd ar Agor i Unrhyw Draffig, sef (BOAT) 57/42, sydd ar dir fferm Bryndias, Pinged, ac a wnaed o dan adran 117 o Ddeddf Priffyrdd (1980) a hynny am resymau diogelwch ac er diogelwch y cyhoedd. Dywedwyd bod y cais yn bodloni'r prawf yn adran 116 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (y byddai'r Gorchymyn Gwyro'n cael ei wneud o dani), sef y byddai'n fwy hwylus i'r cyhoedd gan y byddai'n dileu'r BOAT o gwrtil preswyl fferm Bryndias ac yn lleihau nifer y gatiau ar y llwybr o 5 i 3. Yr oedd y ddau wrthwynebiad a ddaethai i law wedi eu tynnu'n ôl yn ddiweddarach ar ôl cael esboniad pellach ac ar ôl newid rhywfaint ar y lled arfaethedig.

 

PENDERFYNWYD bod y cais yn cael ei gymeradwyo a bod yr Hysbysiad ynghylch Cais angenrheidiol yn cael ei roi gerbron Llys Ynadon perthnasol.

 

4.

WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI CYNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL FARNU NAD YW'R EITEMAU GANLYNOL I'W CHYHOEDDI AM EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 17 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 17 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

 

5.

GORCHMYNION GWAHARDD O RAN PEDWAR O SAFLEOEDD GWEITHIO MWYNAU SY'N SEGUR ERS AMSER MAITH

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ôl cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 4 uchod, na fyddid yn cyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig a fyddai'n datgelu bod yr Awdurdod yn bwriadu gwneud Gorchymyn neu Gyfarwyddyd o dan unrhyw Ddeddfiad (Paragraff 17 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

Yr oedd a wnelo'r prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys manylion am Orchmynion arfaethedig oedd i'w gwneud gan yr Awdurdod Cynllunio Mwynau er mwyn gwahardd ailgychwyn gweithio mwynau ar safleoedd penodol yn y Sir, yn amodol ar gadarnhad gan Lywodraeth Cymru. Byddai datgelu'r safleoedd arfaethedig ar yr adeg hon yn debygol o danseilio gweinyddu cyfiawnder ac felly, ar ôl pwyso a mesur, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth.

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad oedd yn argymell cyflwyno Gorchmynion Gwahardd ynghylch nifer o safleoedd gweithio mwynau oedd yn segur ers amser maith er mwyn peidio â pharhau â phatrymau cyflenwi hanesyddol ac anghynaliadwy ac er mwyn sicrhau bod y cyflenwad yn cael ei reoli mewn modd cynaliadwy, gan gadw'r ddysgl yn wastad rhwng ystyriaethau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol.

PENDERFYNWYD cyflwyno Gorchmynion Gwahardd ynghylch y safleoedd oedd dan sylw yn yr adroddiad er mwyn atal ailgychwyn cloddio a gweithio mwynau yn y mannau hynny.