Agenda a chofnodion drafft

Cyfarfod Penderfyniadau Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adfywio a Hamdden - Dydd Llun, 24ain Ebrill, 2017 10.00 yb

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, 3 Heol Spilman, Caerfyrddin - 3 Heol Spilman. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

 

2.

CYMERADWYO A LLOFNODI HYSBYSIAD PENDERFYNIAD Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR YR 5ED EBRILL 2017. pdf eicon PDF 111 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 5ed Ebrill, 2017 yn gofnod cywir.

 

 

3.

CYMORTH ARIANNOL O'R GRONFA GRANT GANLYNOL: GRANT CRONFA'R DEGWM. pdf eicon PDF 130 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Gronfa'r Degwm yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:

 

Ymgeisydd                                                                                      Dyfarniad

Neuadd Les Pen-y-banc                                                                  £3,000.00

Bowlio Tref Rhydaman                                                                     £1,702.19

Eglwys yr Annibynwyr Talacharn                                                     £3,000.00

Canolfan Gymunedol Llangadog                                                     £3,000.00

Neuadd Gyhoeddus ac Institiwt Brynaman                                     £3,000.00

Cymdeithas Parc Cyngor Cymuned Pontyberem                            £3,000.00

Eglwys y Plwyf, Llandybïe                                                                £3,000.00

Canolfan Gymdeithasol Alma                                                          £3,000.00

Prosiect Datblygu Tir Parc Llwyn Ty Gwyn                                      £3,000.00

G?yl Gerdd Llandeilo Fawr                                                              £3,000.00

 

 

4.

WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI CYNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL FARNU NAD YW'R EITEMAU GANLYNOL I'W CHYHOEDDI AM EU BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

 

 

5.

CRONFA DATBLYGU EIDDO MASNACHOL SIR GAERFYRDDIN- DOLAWEN CYF.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 4 uchod, na fyddid yn cyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu fusnes rhywun penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o niweidio'r ymgeiswyr ar hyn o bryd.

 

Ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol gais gan Dolawen Cyf am grant tuag at adnewyddu hen weithdy yn Heol y Ffowndri, Rhydaman er mwyn datblygu Canolfan Ragoriaeth ar gyfer Rhostio Coffi arbenigol. Byddai’r prosiect yn darparu 13 swydd yn ogystal â chreu 426 metr sgwâr o le cyflogaeth. 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais canlynol am grant o'r Gronfa Datblygu Eiddo Masnachol yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:-

Yr Ymgeisydd/Eiddo                                                     Y Dyfarniad

Dolawen Cyf / Heol y Ffowndri, Rhydaman              £194,710.05 [uchafswm]