Agenda a chofnodion drafft

Cyfarfod Penderfyniadau Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd - Dydd Gwener, 17eg Mawrth, 2017 10.00 yb

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd dim buddiannau yn y cyfarfod.

2.

CYFLWYNO DEISEB - ADEILAD HYLL AR SGWÂR PEN-Y-GROES pdf eicon PDF 216 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu’r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn amlinellu’r camau gweithredu arfaethedig i’w cymryd o ran Rhif 2 Stryd y Bont, Pen-y-Groes, sydd mewn safle amlwg ar Sgwâr Pen-y-Groes.

 

Nododd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol fod cyflwr presennol yr adeilad wedi arwain at gwynion dros y blynyddoedd diwethaf, gan breswylwyr lleol, Cyngor Cymuned Llandybie, a hefyd y Cynghorydd Sir lleol gan arwain at gyflwyno deiseb i’r Cyngor Sir ar 26 Mai 2016, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Yn ystod y cyfnod hwn, bu’r Awdurdod Lleol yn craffu ar yr adeilad ac yn ymchwilio iddo drwy ei swyddogaeth Gynllunio, a hefyd drwy ei swyddogaeth ym maes Tai a Diogelu’r Cyhoedd.

 

Nododd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol, yn dilyn trafodaeth ddiweddar â chynrychiolwyr yr ystâd, fod rhestr o waith wedi cael ei chyflwyno iddynt, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad a atodwyd. Amcangyfrif y gost ar gyfer y gwaith oedd £8,500.

 

Dywedwyd wrth yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol bod y swyddogion o’r farn mai’r opsiwn gorau o ran sicrhau gwelliant i’r adeilad a mynd i’r afael â phryderon y cyhoedd oedd dilyn yr argymhelliad a gyflwynwyd yn yr adroddiad. Fodd bynnag, dyma oedd y sefyllfa ar adeg cyflwyno’r adroddiad ac nid oedd yn atal ystyriaethau pellach o ran trefniadau eraill, yn dibynnu ar sut y byddai’r sefyllfa’n datblygu.

 

Dywedodd y Pennaeth Cynllunio hefyd wrth yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol ei bod wedi bod mewn cysylltiad â nifer o bartïon a diddordeb ar lefel leol (gan gynnwys y Cyngor Cymuned), er mwyn rhoi gwybod iddynt am y datblygiadau diweddaraf. 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r camau gweithredu arfaethedig, yn bennaf bod yr adeilad yn cael ei ddiweddaru yn unol â’r amserlen y cytunwyd arni, ac os na fyddai’r perchenogion yn ymgymryd â’r gwaith o fewn yr amserlen, bydd y Cyngor Sir yn cymryd ‘camau gweithredu uniongyrchol’ i gyflawni’r gwaith.

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR, COFNODION CYFARFOD PENDERFYNIADAU AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS DIOGELU’R CYHOEDD A’R AMGYLCHEDD, A GYNHALIWYD AR Y 19EG O FAI 2016 pdf eicon PDF 96 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau’r cyfarfod oedd wedi’i gynnal ar 19 Mai, 2016 yn gofnod cywir.