Lleoliad: Room 67, County Hall, Carmarthen
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd dim buddiannau personol yn y cyfarfod.
|
|
CYNLLUN CYFLAWNI GWASANAETH - IECHYD YR AMGYLCHEDD A THRWYDDEDU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried y Cynllun Cyflawni Gwasanaeth ar gyfer Iechyd yr Amgylchedd a Thrwyddedu a oedd yn amlinellu sylfaen gwaith adain Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd am 2016/17.
Yr oedd y Cynllun yn amlinellu nodau ac amcanion gwasanaeth y Cyngor gan gynnwys dolenni cyswllt i'r amcanion a'r cynlluniau corfforaethol. Yr oedd disgrifiad cryno o'r Cyngor yn cael ei gynnwys gan roi diffiniad o'r seilwaith, a'r strwythur economaidd a threfniadaethol. Hefyd yr oedd y Cynllun yn manylu ar gwmpas a gofynion Adain Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd.
Yr oedd y Cynllun wedi'i rannu'n adrannau a roddai fanylion meysydd penodol pob gwasanaeth a'r cynlluniau gwaith am y flwyddyn i ddod. Yr oedd hyn yn gyfle i danlinellu gwendidau a chryfderau’r timau perthnasol. Amlygwyd meysydd penodol a oedd mewn perygl ynghyd â'r rhai na allai'r Adain eu darparu bellach oherwydd yr adnoddau prin. Cafwyd manylion yr adnoddau, a oedd yn cynnwys costau staffio, gweinyddu, cyflenwadau a gwasanaethau, hyfforddiant ac ati gan gymharu blynyddoedd ariannol. Yr oedd yr adran olaf yn cynnwys gwybodaeth a manylion am asesiadau ansawdd ac yn dangos yr amrywiol ffyrdd yr oedd yr Adain yn sicrhau bod cysondeb, effeithlonrwydd a chymhwysedd.
PENDERFYNWYD cymeradwyo Cynllun Cyflawni Gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd a Thrwyddedu am 2016-17.
|
|
COFNOD PENDERFYNIADAU - 4YDD CHWEFROR 2016 Cofnodion: |