Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd - Dydd Llun, 21ain Medi, 2015 10.00 yb

Lleoliad: Room 67, County Hall, Carmarthen

Cyswllt: Mrs Michelle Evans Thomas  01267 224470

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd dim buddiannau personol yn y cyfarfod.

 

 

2.

DIOGELWCH MEWN MEYSYDD CHWARAE.

Cofnodion:

Hysbyswyd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol, yn dilyn y trychineb yn Stadiwm Ibrox, Glasgow yn Ionawr 1972 a'r ymchwiliad cyhoeddus a ddilynodd hynny, bod Deddf Diogelwch Meysydd Chwarae 1975 wedi cyflwyno system o ardystio diogelwch meysydd chwarae gan Awdurdodau Lleol. Roedd yn ofynnol i'r Awdurdod Lleol benderfynu capasiti diogel y maes, rhagnodi a gorfodi amodau a thelerau a ystyrir ganddo'n angenrheidiol neu'n hwylus ar gyfer sicrhau diogelwch rhesymol y gwylwyr ac ymgymryd ag archwiliad cyfnodol.

 

Mae Deddf Diogelwch Meysydd Chwarae 1975 yn diffinio maes chwarae fel a ganlyn:-

 

“A place where sport or other competitive activities takes place in the open air, and where accommodation has been provided for spectators, consisting of artificial structures or of natural structures artificially modified for the purpose.”

 

Roedd llawer o ddarnau eraill o ddeddfwriaeth a fyddai'n berthnasol i feysydd chwarae yn dibynnu ar y math o faes a'r gweithgarwch.  Yn ogystal, roedd yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon wedi llunio "The Guide to Safety at Sports Grounds” (“The Green Guide”) a oedd yn ddogfen ymgynghorol i'w defnyddio gan bersonau cymwys. Roedd gan reolwyr meysydd o'r fath y cyfrifoldeb pennaf dros ddiogelwch gwylwyr ac felly dylent weithredu'r argymhellion a geid yn y Canllaw Gwyrdd er mwyn sicrhau amodau diogel.

 

Ym mharagraff 31 o Adroddiadau Terfynol ymchwiliad yr Arglwydd Ustus Taylor i Drychineb Stadiwm Hillsborough argymhellodd y canlynol:-

 

“Er mwyn helpu'r Awdurdod Lleol i gyflawni ei swyddogaethau, dylai sefydlu Gr?p Ymgynghorol sy'n cynnwys aelodau priodol o'i staff ei hun, cynrychiolwyr o'r heddlu, o'r gwasanaethau tân ac ambiwlans ac o'r awdurdod adeiladu.  Dylai'r Gr?p Ymgynghorol ymgynghori â chynrychiolwyr y clwb yn rheolaidd.  Dylai cylch gwaith y Gr?p Ymgynghorol gynnwys yr holl faterion yn ymwneud â diogelwch torfeydd a dylai ei gwneud yn ofynnol i ymweld â'r maes a bod yn bresennol yn y gemau yn rheolaidd. Dylai'r Gr?p Ymgynghorol fod â chadeirydd o'r Awdurdod Lleol a chael gweithdrefnau effeithiol.  Dylid cofnodi ei benderfyniadau a dylai fod yn ofynnol iddo lunio adroddiadau rheolaidd i'w hystyried gan yr Awdurdod Lleol.” (cyfieithiad)

 

Roedd Gr?p Ymgynghorol Sir Gaerfyrddin ynghylch Diogelwch wedi cael ei sefydlu ers nifer o flynyddoedd a Rheolwr Iechyd yr Amgylchedd a Thrwyddedu oedd yn ei gadeirio ar hyn o bryd. Roedd cylch gwaith yn unol â'r hyn a argymhellwyd ac roedd cyfarfodydd â'r clybiau perthnasol yn cael eu cynnal yn rheolaidd.

 

Roedd gan yr Awdurdod Lleol rwymedigaeth statudol o dan:-

 

-         Deddf Diogelwch mewn Meysydd Chwarae 1975 (fel y'i diwygiwyd) i roi Tystysgrifau Diogelwch Cyffredinol ac Arbennig ar gyfer meysydd chwarae dynodedig (y rhai oedd â lle i fwy na 10,000 o bobl) – oedd yn cynnwys Parc y Scarlets a Ffos Las;

-         Deddf Diogelwch Tân a Diogelwch Mannau Chwaraeon 1987 Rhan III i roi tystysgrifau diogelwch ar gyfer Standiau Rheoledig (lle roedd stand dan do yn rhoi lle dan do i 500 o bobl neu ragor) – oedd yn cynnwys Waun Dew, Caerfyrddin.

 

Byddai'r Awdurdod Lleol yn cyfeirio meysydd chwarae oedd heb eu dynodi at y Canllaw Gwyrdd ynghylch gofynion rheoli.  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.

3.

CYNLLUN CYFLAWNI GWASANAETH - IECHYD YR AMGYLCHEDD A THRWYDDEDU. pdf eicon PDF 238 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn ei gwneud yn ofynnol i Adain Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd lunio Cynllun Cyflenwi Gwasanaethau. 

 

Roedd y Cynllun yn amlinellu nodau ac amcanion gwasanaeth y Cyngor gan gynnwys dolenni cyswllt i'r amcanion a'r cynlluniau corfforaethol.  Roedd disgrifiad cryno o'r Cyngor yn cael ei gynnwys gan roi diffiniad o'r seilwaith, a'r strwythur economaidd a threfniadol.  Hefyd roedd y Cynllun yn manylu ar gwmpas a gofynion Adain Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd.

 

Roedd y Cynllun wedi'i rannu'n adrannau a roddai fanylion meysydd penodol pob gwasanaeth a chynllun gwaith am y flwyddyn i ddod. Roedd hyn yn rhoi cyfle i amlygu lle roedd gwendidau a chryfderau o fewn y timau perthnasol.  Amlygwyd meysydd penodol a oedd mewn perygl ynghyd â'r rhai na allai'r Adain eu darparu bellach oherwydd yr adnoddau prin. Cafwyd manylion yr adnoddau oedd yn cynnwys costau staffio, gweinyddu, cyflenwadau a gwasanaethau, hyfforddiant ac ati gan gymharu blynyddoedd ariannol. Roedd yr adran olaf yn cynnwys gwybodaeth a manylion am asesiadau ansawdd ac yn dangos yr amrywiol ffyrdd roedd yr Adain yn sicrhau cysondeb, effeithlonrwydd a chymhwysedd.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Cynllun Cyflenwi Gwasanaethau yng nghyswllt Iechyd yr Amgylchedd a Thrwyddedu am 2015-16.

 

 

4.

DERBYN A LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD PENDERFYNIADAU'R AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS DIOGELU'R CYHOEDD A'R AMGYLCHEDD A GYNHALIWYD AR YR 22AIN GORFFENNAF, 2014. pdf eicon PDF 300 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau cyfarfod yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd, a oedd wedi ei gynnal ar 22ain Gorffennaf, 2014, yn gofnod cywir.