Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 8fed Mehefin, 2016 yn gofnod cywir.
|
|
POLISI SECONDIADAU DIWYGIEDIG. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried y fersiwn ddiwygiedig o'r Polisi Secondiadau. Eglurwyd bod y polisi wedi'i adolygu ddiwethaf yn 2008 a bod yr adolygiad diweddaraf wedi'i gynnal oherwydd bod angen sicrhau bod y polisi yn gyson â'r arferion da presennol.
Hefyd yr oedd nifer o faterion o bwys wedi dod i'r golwg yn ystod y misoedd diwethaf yr oedd angen rhoi sylw iddynt, gan gynnwys:-
- tanlinellu manteision secondiadau; - materion ynghylch dileu swydd yn achos gweithwyr parhaol sy'n cynnig am gontractau cyfnod penodedig; - sicrhau bod y polisi'n ymwneud â swyddi prosiectau; - rheoli swyddi dros dro sy'n troi'n swyddi parhaol.
Yr oedd y polisi wedi'i newid er mwyn rhoi sylw priodol i'r materion hyn.
PENDERFYNWYD, yn amodol ar gynnwys y newidiadau a nodwyd, gymeradwyo'r Polisi Secondiadau diwygiedig.
|