Lleoliad: Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd, - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 28 Gorffennaf, 2015 yn gofnod cywir.
|
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL AR Y GYMRAEG 2015-16. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i'r Adroddiad Blynyddol ar yr Iaith Gymraeg 2015-16, a fanylai ar y gwaith a wnaed gan y Cyngor mewn perthynas â'r iaith Gymraeg yn ystod y cyfnod hwnnw ac a luniwyd er mwyn cydymffurfio â threfniadau monitro Comisiynydd y Gymraeg.
Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn gosod dyletswydd ar Gynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol yng Nghymru, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol a Gweinidogion Cymru i gydymffurfio â'r Safonau mewn perthynas â'r Gymraeg.
Mae'r Safonau yn golygu na ddylai'r Gymraeg gael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg a rhaid iddynt hefyd hybu neu hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg. Mae hyn yn unol â'r ddwy egwyddor sy'n ffurfio'r sail ar gyfer gwaith Comisiynydd y Gymraeg:-
· yng Nghymru, ni ddylai'r Gymraeg gael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg; · dylai pobl yng Nghymru fod yn gallu byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg os ydynt yn dewis gwneud hynny.
Disodlodd fframwaith y Safonau gynlluniau iaith Gymraeg o 31 Mawrth, 2016 ymlaen a bydd y Safonau yn:-
· rhoi mwy o eglurder i sefydliadau ynghylch eu dyletswyddau mewn perthynas â'r Gymraeg; · rhoi mwy o eglurder i siaradwyr Cymraeg ynghylch y gwasanaethau y gallant ddisgwyl eu derbyn yn y Gymraeg; · sicrhau mwy o gysondeb o ran gwasanaethau Cymraeg ac yn gwella eu hansawdd.
Rhoddodd Comisiynydd y Gymraeg hysbysiad cydymffurfio i Gyngor Sir Caerfyrddin ynghylch Rheoliadau Safonau'r Gymraeg ar 30 Medi, 2015, sy'n mynnu bod y Cyngor yn cydymffurfio â'r rhan fwyaf o'r Safonau erbyn 31 Mawrth, 2016.
PENDERFYNWYD, yn amodol ar gynnwys y newidiadau a nodwyd, fod yr Adroddiad Blynyddol ar yr Iaith Gymraeg 2015-16 yn cael ei gymeradwyo i'w gyflwyno i Gomisiynydd y Gymraeg.
|