Agenda a chofnodion drafft

Cyfarfod Penderfyniadau Aelod y Cabinet dros Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (Dirprwy Arweinydd 12/01/22 - 05/05/22) - Dydd Gwener, 18fed Mawrth, 2022 9.15 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod

Cyswllt: Julie Owens 

Nodyn: Wedi'i symud o 08/03/22 

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 11 MAI 2021 pdf eicon PDF 279 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnod penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 11Mai, 2021 yn gofnod cywir.

3.

CODI TÂL DIBRESWYL 2022-23 pdf eicon PDF 340 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad oedd yn manylu ar effaith bosibl newidiadau ar daliadau am wasanaethau dibreswyl a'r angen i daliadau gynyddu yn Sir Gaerfyrddin er mwyn parhau i sicrhau'r incwm mwyaf posibl.

 

Er mwyn gweithio tuag at adennill costau yn llawn ar gyfer 2022-23, ac alinio cyfraddau ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru, cynigiwyd cynyddu taliadau dibreswyl am wasanaethau y codir tâl amdanynt fesul awr o £16.85 i £18.00 (6.8%) a chynyddu'r taliadau ar gyfer Gofal Dydd a Lleoli Oedolion o £16.50 i £17.60 (6.66%). 

 

Nodwyd bod graddfa'r taliadau ar gyfer 2022-23, yn y rhan fwyaf o achosion, yn sylweddol is na chost y ddarpariaeth, ond ni fyddai taliadau cynyddol o reidrwydd yn cynyddu incwm eleni oherwydd bod y swm y gall unrhyw un ei dalu yn cael ei reoli drwy gyfrwng "Cap" presennol Llywodraeth Cymru ac Asesiad Ariannol.  Fodd bynnag, cydnabuwyd y gallai fod cynnydd bach iawn mewn incwm o'r cynnydd chwyddiant a gymhwyswyd at y pecynnau gofal bach cost llawn.

 

PENDERFYNWYD bod Sir Gaerfyrddin yn cynyddu'r taliadau dibreswyl am wasanaethau y codir tâl amdanynt fesul awr o £16.85 i £18.00 (6.8%) a chynyddu'r taliadau am Ofal Dydd a Lleoli Oedolion o £16.50 i £17.60 (6.66%) mewn ymgais i adennill cymaint o refeniw â phosibl o fewn y rheolau a nodwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23, ac alinio cyfraddau ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru ac yn enwedig er mwyn symud yn agosach at Awdurdodau Lleol rhanbarthol. 

4.

TÂL SAFONOL GOFAL PRESWYL AWDURDODAU LLEOL AR GYFER 2022-2023 pdf eicon PDF 417 KB

Cofnodion:

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried argymhelliad mewn adroddiad bod y tâl safonol  am gartref gofal preswyl i bobl h?n gyda'r Awdurdod Lleol yn cael ei gynyddu o £654.06 i £718.56 am welyau prif ffrwd ac o £884.17 i £935.60 am welyau Dementia.

 

Nodwyd bod y cyfraddau wedi'u cyfrifo cyn cadarnhau'r dyfarniad cyflog er mwyn rhoi gwybod mewn da bryd i'r unigolion yr effeithiwyd arnynt.

 

Priodolwyd y cynnydd o 9.86% ar gyfer gwelyau prif ffrwd a 5.82% ar gyfer gwelyau Dementia i'r cynnydd mewn costau staffio a phwysau costau ychwanegol o ran cyflenwadau a gwasanaethau.  At hynny, cydnabuwyd y bu ailgydbwyso costau rhwng y Gwelyau Dementia a Gofal Preswyl Safonol o fewn Strategaeth Cyllideb Refeniw'r Cyngor i adlewyrchu lefel y ddibyniaeth gynyddol ym maes Gofal Preswyl a'r gwahaniaeth mewn cynnydd rhwng y ddau dâl.

 

PENDERFYNWYD bod ybod y tâl safonol am gartref gofal preswyl i bobl h?n gyda'r Awdurdod Lleol yn cael ei godi o £654.06 i £718.56 am welyau Prif ffrwd ac o £884.17 i £935.60 am welyau Dementia.