Lleoliad: Swyddfa'r ABG GC&I - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Jenkins 01267 224088
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
Y TÂL SAFONOL AM OFAL PRESWYL GAN YR AWDURDOD LLEOL AM 2019-20 PDF 177 KB Cofnodion: Bu’r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn argymell bod y tâl safonol am gartrefi gofal preswyl yr awdurdod lleol i bobl h?n yn cynyddu o £587.02 i £612.21 am welyau prif ffrwd ac o £800.30 i £837.50 am welyau i henoed llesg eu meddwl. Cafodd y cynnydd o 4.29% am welyau prif ffrwd a 4.65% am welyau i henoed llesg eu meddwl ei briodoli i chwyddiant, cynnydd sylweddol o ran costau staff mewn perthynas â’r Cyflog Byw Cenedlaethol, yn ogystal â diffyg arbedion effeithlonrwydd o ganlyniad i’r arbedion effeithlonrwydd sylweddol a gafwyd mewn blynyddoedd blaenorol.
PENDERFYNWYD:
(i) bod y tâl safonol am gartrefi gofal preswyl yr awdurdod lleol i bobl h?n yn cynyddu o £587.02 i £612.21 am welyau prif ffrwd ac o £800.30 i £837.50 am welyau i henoed llesg eu meddwl.
(ii) O ran preswylwyr y mae’r awdurdod hwn yn eu rhoi yng nghartrefi’r awdurdod lleol, dyddiad gweithredu’r cyfraddau newydd yw 1 Gorffennaf 2019. O ran y preswylwyr hynny y mae awdurdodau lleol eraill yn eu rhoi yn ein cartrefi, dyddiad gweithredu’r taliadau newydd i’r awdurdodau hynny yw 1 Gorffennaf 2019.
|
|
COFNOD PENDERFYNIADAU - 1AF HYDREF 2018 PDF 77 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnod penderfyniadau’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Hydref 2018 gan ei fod yn gywir.
|