Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 (Adfywio), Neuadd y Sir, Caerfyddin - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Catherine Gadd 01267 224088
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch buddiannau personol. |
|
RHAGLEN ATAL CAM-DRIN DOMESTIG AR GYFER YSGOLION UWCHRADD Cofnodion: Ystyriodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol adroddiad ar y cyfraniad i'r rhaglen ‘Diogelwch, Ymddiriedaeth a Pharch’ (STAR) sydd i gael ei chyflwyno mewn ysgolion uwchradd yn yr ardal.
Amlinellwyd y ffaith fod mynd i'r afael â cham-drin domestig a thrais rhywiol yn flaenoriaeth gan gr?p Cymunedau Teg a Diogel y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Rhoddwyd ystod o ddulliau ar waith gan sefydliadau partner i fynd i'r afael â'r trosedd hwn gan gynnwys atal, darparu cymorth a gwybodaeth a chymryd camau gorfodi yn erbyn troseddwyr. Mae'r rhaglen STAR wedi cael ei nodi fel dull ataliol da, a fyddai'n adeiladu ar y gwaith a wneir mewn ysgolion uwchradd.
Mewn ymateb i ymholiad gan yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol cadarnhawyd fod y sefydliadau partner yn gefnogol i'r rhaglen ac nad oedd yn dyblygu gwaith a oedd eisoes yn cael ei wneud.
PENDERFYNWYD cymeradwyo cyfraniad o £6,750 tuag at y pecynnau adnoddau, am gost o £13,500, sydd ei angen i gyflawni'r rhaglen STAR. Bydd yr Adran Addysg a Gwasanaethau Plant yn rhoi swm cyfatebol. |
|
GRANT GWASANAETHAU CAM-DRIN DOMESTIG 2017/18 GAN LYWODRAETH CYMRU Cofnodion: Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad ar ddyrannu'r cyllid er mwyn cefnogi cydgysylltu strategol, darparu Ymgynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig (IDVA) a chomisiynu gwasanaeth uniongyrchol.
Nodwyd fod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau yng nghanol mis Rhagfyr fod 2017/18 yn cael ei hystyried i fod yn flwyddyn bontio arall, gyda chyllid yn parhau i gael ei ddyrannu i Awdurdodau Lleol cyn cyflwyno dull ariannu rhanbarthol o fis Ebrill 2018 ymlaen. Yn dilyn cais gan Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun cyflawni, roedd y Cyngor wedi cadarnhau ei fod yn cynnig defnyddio'r Grant Gwasanaethau Cam-drin Domestig. Roedd hyn yn seiliedig ar y rhagdybiaeth y byddai'r un lefel o gyllid yn cael ei derbyn ag yn 2016/17, fel y cynghorwyd gan Lywodraeth Cymru.
Esboniodd y Rheolwr Diogelwch Cymunedol fod rhaid i'r cynnig i barhau gyda'r darparwr gwasanaeth presennol gael ei gymeradwyo trwy adroddiad eithriadau gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol a'r Pennaeth Gweinyddiaeth a’r Gyfraith.
Holodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol a oedd gan yr ardal y lefel gywir o Ymgynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig ac esboniwyd bod yna ddiffyg bychan, ond eu bod yn agos i'r nifer a nodwyd. Gofynnwyd am i'r Asesiad o Anghenion y Boblogaeth gael ei wirio i sicrhau ei fod yn adlewyrchu hyn yn gywir.
Rhoddwyd amlinelliad o'r trefniadau monitro ar gyfer y prosiectau, a chadarnhawyd fod y prosiectau yn cyflawni canlyniadau da.
PENDERFYNWYD:
3.1 nodi cynigion y Cyngor i barhau i ariannu'r ddau brosiect a ariennir ar hyn o bryd, sef rôl y Cydgysylltydd Cam-drin Domestig a'r gwasanaeth Ymgynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig (IDVA). Ceir disgwyl am gadarnhau'r dyraniad ac mae'r cynllun cyflawni yn seiliedig ar fod yr un lefel o gyllid yn parhau sef £112,750.
3.2 parhau â'r darparwr gwasanaeth presennol, Hafan Cymru, ar gyfer y flwyddyn hon, cyn ymgymryd â dull comisiynu rhanbarthol o 2018 ymlaen. Mae'r hyn yn destun adroddiad eithriadau sydd wedi cael ei gymeradwyo gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol a'r Pennaeth Gweinyddiaeth a'r Gyfraith.
|
|
COFNOD PENDERFYNIADAU - 16EG TACHWEDD 2016 Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 16eg Tachwedd 2016 yn gofnod cywir. |