Lleoliad: Ystafell Pwyllgor 2, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
COFNOD PENDERFYNIADAU - 12FED MAI 2016 Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 12fed Mai 2016 yn gofnod cywir.
|
|
Y DDEDDF RHEOLEIDDIO PWERAU YMCHWILIO Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried y canlynol: · Adroddiad am y gweithgaredd cudd-wylio yr oedd y Cyngor wedi ymgymryd ag ef yn 2015/2016; · Adroddiad gan Swyddfa'r Comisiynydd Arwylio yn dilyn arolygiad ym mis Ebrill 2016;
Nodwyd bod unig argymhelliad y Comisiynydd Arwylio yn ymwneud â hyfforddiant Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio, yr oedd sylw'n cael ei roi iddo. Hefyd roedd ei adroddiad yn awgrymu rhai newidiadau i weithdrefnau cudd-wylio y Cyngor, a rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i ddogfen ddiwygiedig a oedd yn cynnwys y newidiadau hynny.
O ran lefel isel y gweithgaredd cudd-wylio, cynigiwyd rhoi'r gorau i gyflwyno adroddiadau'n chwarterol, ac yn hytrach hysbysu'r Aelod perthnasol o'r Bwrdd Gweithredol a oedd caniatâd wedi'i roi, ynghyd ag adroddiad blynyddol a oedd yn crynhoi'r holl weithgaredd o'r fath.
PENDERFYNWYD nodi'r adroddiadau a chymeradwyo'r newidiadau arfaethedig yng Ngweithdrefnau Cudd-wylio y Cyngor.
|