Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant.
|
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 12fed Ebrill 2016 yn gofnod cywir.
|
|
SEFYDLU PANEL YMGYNGHOROL YNGHYLCH TRECHU TLODI Cofnodion: SEFYDLU PANEL YMGYNGHOROL YNGHYLCH TRECHU TLODI
Bu'rAelod o'r Bwrdd Gweithredol, Hyrwyddwr Gwrthdlodi yr Awdurdod, yn ystyried adroddiad, ar sefydlu Panel ymgynghorol ynghylch Trechu Tlodi.
Ym mis Chwefror 2015 roedd y Pwyllgor Craffu - Polisi ac Adnoddai wedi sefydlu Gr?p Ffocws a oedd wedi awgrymu y dylid sefydlu Panel Ymgynghorol ynghylch Trechu Tlodi i roi cymorth pwysig i'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol. Byddai'r panel hwn yn gyfrifol am oruchwylio a monitro Cynllun Gweithredu'r Cyngor ynghylch Trechu Tlodi, ei bolisi cyffredinol a'i agenda ehangach o ran trechu tlodi.
Roedd yr adroddiad yn amlinellu amcanion arfaethedig y Panel a'r aelodau a awgrymwyd.
Wrth ategu'r awgrym a wnaed gan y Gr?p Ffocws, pwysleisiodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol y dylai'r Panel Ymgynghorol ymgysylltu â phartneriaid mewnol ac allanol i sicrhau bod y Gr?p yn pennu targedau a chamau gweithredu a fyddai'n arwain at newidiadau a chanlyniadau amlwg.
PENDERFYNWYD
3.1 Sefydlu Panel Ymgynghorol trawsbleidiol o blith yr Aelodau Etholedig ynghylch Trechu Tlodi i bennu camau a chefnogi a monitro gwaith y Cyngor yn ymwneud â Threchu Tlodi.
3.2 Cytuno ar aelodaeth y Panel Ymgynghorol fel a ganlyn:- Yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol sy'n gyfrifol am Drechu Tlodi ynghyd â 2 gynrychiolydd o Gr?p Plaid Cymru:Y Cynghorydd J. Eirwyn Williams a'r Cynghorydd Alun Lenny 2 gynrychiolydd o'r Gr?p Annibynnol:Y Cynghorydd D.W. Hugh Richards a'r Cynghorydd Wyn J.W. Evans 2 gynrychiolydd o’r Gr?p Llafur:Y Cynghorydd Deryk M. Cundy a'r Cynghorydd Jan Williams
|