Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Room 61, County Hall, Carmarthen

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

2.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNOD PENDERFYNIADAU CYFARFOD AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS CYMUNEDAU A GYNHALIWYD AR Y 14EG MAI, 2015. pdf eicon PDF 178 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 14eg Mai, 2015 yn gofnod cywir.

 

3.

GRANT GWASANAETHAU CAM-DRIN DOMESTIG 2016/17 GAN LYWODRAETH CYMRU pdf eicon PDF 247 KB

Cofnodion:

Roddwyd gwybod i'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod Llywodraeth Cymru wedi cynyddu ei dyraniad i'r Cyngor o £37,500 i £112,750 er mwyn cefnogi cydgysylltu strategol, Cynghorydd Trais Domestig Annibynnol (IDVA) a chomisiynu gwasanaeth uniongyrchol.  Yn flaenorol, roedd y swm o £37,500 yn cyllido swydd Cydgysylltydd Cam-drin Domestig (£27,500) a chyfraniad tuag at wasanaeth Cynghorydd Trais Domestig Annibynnol (£10,000 ac arian cyfatebol gan y Swyddfa Gartref).

 

Er mwyn cydymffurfio â'r dyddiad cau, roedd cynllun cyflawni drafft wedi cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru yn cadarnhau sut yr oedd yr Awdurdod yn dymuno dyrannu'r cyllid.  Y cynnig oedd cynyddu'r dyraniad ar gyfer swydd y Cyd-gysylltydd i £34,000 a gwasanaeth y Cynghorydd Trais Domestig Annibynnol i £78,750. Yr oedd yn rhaid i'r penderfyniad ynghylch y dyraniad fod yn seiliedig ar dystiolaeth a chynnwys targedau a chanlyniadau arfaethedig ar gyfer y cyfnod.  Gallai'r ddau brosiect fod yn dystiolaeth o ddarparu canlyniadau da (fel yr adroddwyd i Lywodraeth Cymru) ac angen cyllid ychwanegol.

 

Cyd-gysylltydd Cam-drin Domestig - yr oedd angen cynyddu oriau'r Cyd-gysylltydd i amser llawn er mwyn sicrhau y darperir y gwaith strategol oedd angen ei wneud.  Yr oedd yr oriau wedi'u lleihau yn flaenorol er mwyn cydymffurfio â'r cyllid a ddyrannwyd.  Yr oedd y gwaith strategol ychwanegol i'w gwblhau yn ystod y flwyddyn yn cynnwys ymateb lleol amlasiantaeth i strategaeth newydd Llywodraeth Cymru sydd i'w chyhoeddi ym mis Tachwedd a chymorth o ran y gofyniad i ddatblygu strategaeth leol a fyddai'n cynnwys lefel sylweddol o waith paratoi gan gynnwys asesiad o anghenion a mapio'r ddarpariaeth gwasanaeth bresennol.

 

Cynghorydd Trais Domestig Annibynnol - yr oedd gwasanaeth presennol y Cynghorydd Trais Domestig Annibynnol yn cael ei ddarparu gan oddeutu 2 swydd cyfwerth ag amser llawn (Cynghorydd Trais Domestig Annibynnol - 21 awr yr wythnos a gwasanaeth cymorth o 56 awr yr wythnos wedi'i gyllido gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu).  Y lefel a argymhellir ar gyfer y gwaith achos yn y sir oedd 4 swydd cyfwerth ag amser llawn, fel y nodwyd mewn adroddiad gan SafeLives, elusen genedlaethol y mae ei gwaith yn cynnwys arwain o ran dulliau amlasiantaeth er mwyn helpu dioddefwyr risg uchel a darparu hyfforddiant Cynghorydd Trais Domestig Annibynnol.

 

Ystyriwyd y flwyddyn hon gan Lywodraeth Cymru yn flwyddyn bontio cyn i ddull cyllido rhanbarthol gael ei gyflwyno o Ebrill 2017 ymlaen.  Byddai Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag Awdurdodau Lleol i symud tuag at ddull comisiynu a chyllido rhanbarthol a nodwyd y byddai'r Cyd-gysylltydd a gwasanaethau y Cynghorydd Trais Domestig Annibynnol yn cael eu comisiynu'n rhanbarthol o 2017 ymlaen.  Yn ystod 2016/17, byddai'r asesiad o anghenion a fyddai'n cael ei wneud yn barod ar gyfer datblygu strategaeth leol yn sicrhau y gellid gweithredu dull seiliedig ar dystiolaeth ynghylch dyrannu cyllid ledled y rhanbarth yn y dyfodol.

 

Yr oedd y ddau wasanaeth yn cael eu darparu ar hyn o bryd gan Hafan Cymru ac fe'i hystyrid yn ddarbodus i barhau â'r trefniadau presennol o ran darparu gwasanaethau yn y cyfamser, cyn cyflwyno dull rhanbarthol yn 2017.  Yr oedd y cynnig hwn yn destun adroddiad  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau