Lleoliad: Room 61, County Hall, Carmarthen
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
COFNOD PENDERFYNIADAU - 20FED MAWRTH, 2017 Cofnodion:
PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20fed Mawrth, 2017 gan eu bod yn gywir.
|
|
Y DDEDDF RHEOLEIDDIO PWERAU YMCHWILIO Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol adroddiad a oedd yn manylu ar weithgaredd cudd-wylio yr oedd yr Awdurdod wedi ymgymryd ag ef yn 2016/2017 ac, yn unol â Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio, adolygwyd gweithdrefnau cyfredol y Cyngor sy'n llywodraethu'r gweithgareddau hynny, sydd i'w defnyddio yn ystod blwyddyn y cyngor 2017-18. Argymhellwyd peidio â gwneud newidiadau i'r gweithdrefnau cyfredol.
PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad a chymeradwyo Gweithdrefnau Cudd-wylio cyfredol y Cyngor heb newid ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2017-18.
|