Agenda a chofnodion drafft

Cyfarfod Penderfyniadau Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gwasanaethau Technegol - Dydd Mercher, 25ain Ionawr, 2017 10.00 yb

Lleoliad: Ystafell 65, Neuadd y Sir, Caerfyrddin

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant.

2.

GWAHARDD GYRRU, BOAT 57/74, LLWYBR SANT ILLTUD, RHWNG PORTH TYWYN A PHENYMYNYDD. pdf eicon PDF 205 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod cymeradwyaeth wedi cael ei rhoi, yng nghyfarfod yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ar 27 Tachwedd 2015, ar gyfer cyflwyno Gorchymyn Gwahardd Gyrru ar hyd y Gilffordd sydd ar Agor i Unrhyw Draffig (BOAT) Rhif 57/74 Llwybr Illtud Sant, rhwng Porth Tywyn a Phenmynydd, yn amodol ar eithriad er mwyn caniatáu i gerddwyr, ceffylau, beicwyr a thrigolion deithio ar hyd y llwybr, ond gan eithrio beiciau modur yn benodol. Yn dilyn y penderfyniad hwnnw, cyhoeddwyd y cynnig i gyflwyno'r Gorchymyn ar 26 Hydref 2016 a chafwyd nifer o wrthwynebiadau iddo, fel y manylir yn atodiad 3 i'r adroddiad hwn, ynghyd ag ymatebion yr Adran.  Ar ôl ystyried y gwrthwynebiadau hynny, roedd yr Adran yn argymell eu nodi, ond bod y Gorchymyn, fel y'i cyhoeddwyd, yn cael ei gyflwyno er diogelwch ffyrdd a bod y gwrthwynebwyr yn cael gwybod am hynny.

 

PENDERFYNWYD nodi'r gwrthwynebiadau oedd wedi dod i law i'r Gorchymyn Gwahardd Gyrru arfaethedig ar hyd BOAT rhif 57/74, ond bod y Gorchymyn Rheoleiddio Traffig, fel y'i cyhoeddwyd, yn cael ei gyflwyno i helpu â diogelwch ffyrdd ar hyd y gilffordd a bod y gwrthwynebwyr yn cael gwybod am hynny.

3.

GWRTHWYNEBIADAU I ORCHYMYN CYDGYFNERTHU SIR GAERFYRDDIN (AC EITHRIO CAERFYRDDIN, LLANELLI A RHYDAMAN) (CYFYNGU AR AROS A MANNAU PARCIO AR Y STRYD) (AMRYWIAD RHIF 22) 2015 pdf eicon PDF 204 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad am gynigion y Cyngor i gyflwyno Gorchymyn i amrywio Gorchymyn Cydgyfnerthu Sir Gaerfyrddin (ac eithrio Caerfyrddin, Llanelli a Rhydaman) (Cyfyngu ar Aros a Mannau Parcio ar y Stryd) (Amrywiad Rhif 22) 2015 er mwyn cynnwys amrywiol gyfyngiadau newydd ar hyd nifer o briffyrdd yn Sir Gaerfyrddin, fel y manylwyd yn yr adroddiad.

 

Rhoddwyd gwybod nad oedd unrhyw wrthwynebiadau wedi dod i law i'r cynigion oddi wrth yr ymgyngoreion statudol, ond er hynny roedd nifer o sylwadau wedi dod i law oddi wrth y cyhoedd, fel y manylwyd yn Atodiad 3 i'r adroddiad ynghyd ag ymatebion yr Adran iddynt.

 

PENDERFYNWYD nodi'r gwrthwynebiadau oedd wedi dod i law i'r amrywiad arfaethedig i Orchymyn Cydgyfnerthu Sir Gaerfyrddin (ac eithrio Caerfyrddin, Llanelli a Rhydaman) (Cyfyngu ar Aros a Mannau Parcio ar y Stryd) (Amrywiad Rhif 22) 2015, ond bod y Gorchymyn Traffig yn cael ei gadarnhau a bod y gwrthwynebwyr yn cael gwybod am hynny.

4.

GWRTHWYNEBIADAU I ORCHYMYN CYDGYFNERTHU SIR GAERFYRDDIN (CAERFYRDDIN) (CYFYNGU AR AROS A MANNAU PARCIO AR Y STRYD) (AMRYWIAD RHIF 16) 2016 pdf eicon PDF 196 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch cynigion y Cyngor i gyflwyno Gorchymyn i amrywio Gorchymyn Cydgyfnerthu Sir Gaerfyrddin (Caerfyrddin) (Cyfyngu ar Aros a Mannau Parcio ar y Stryd) (Amrywiad Rhif 16) 2016 mewn perthynas â chynigion i gyflwyno cyfyngiadau ar barcio yn Y Cei, Caerfyrddin.

 

Rhoddwyd gwybod nad oedd unrhyw wrthwynebiadau wedi dod i law i'r cynigion oddi wrth yr ymgyngoreion statudol, ond er hynny roedd dau sylw wedi dod i law oddi wrth y cyhoedd, fel y manylwyd yn Atodiad 3 i'r adroddiad ynghyd ag ymatebion yr Adran iddynt.

 

PENDERFYNWYD nodi'r gwrthwynebiadau oedd wedi dod i law i'r amrywiad arfaethedig i Orchymyn Cydgyfnerthu Sir Gaerfyrddin (Caerfyrddin) (Cyfyngu ar Aros a Mannau Parcio ar y Stryd) (Amrywiad Rhif 16) 2016, ond bod y Gorchymyn Traffig yn cael ei gadarnhau, fel y manylwyd yn Atodiad 1 i'r adroddiad, yn amodol ar y newidiadau a nodwyd ym mharagraffau 4.3 a 4.4, a bod y gwrthwynebwyr yn cael gwybod am hynny.

 

 

5.

GWRTHWYNEBIAD I'R BWRIAD O GYFLWYNO TWMPATHAU FFORDD AG IDDYNT FRIG CRWN AR HEOL FFOLAND - CWMAMAN pdf eicon PDF 205 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad am gynigion i gyflwyno twmpathau ffordd ag iddynt frig crwn ar Heol Ffoland, Cwmaman ger y fynedfa i Ysbyty Dyffryn Aman.

 

Dywedodd y Rheolwr Traffig a Diogelwch Ffyrdd fod ystyriaeth wedi cael ei rhoi, ar ôl cyhoeddi'r cynigion ac o ganlyniad i'r gwrthwynebiadau oedd wedi dod i law ynghyd â'r ymweliadau safle dilynol, i'r ddau opsiwn canlynol er mwyn lleihau cyflymderau traffig ar hyd Heol Ffoland, a bod yr Adran yn argymell Opsiwn 2 i gyd-fynd â'r droedffordd newydd oedd yn cael ei hadeiladu fel rhan o'r Cynllun Llwybrau Diogel:-

 

Opsiwn 1 – Bwrw ati i osod dau dwmpath ffordd ar Heol Ffoland, fel y manylwyd yn yr adroddiad

 

Opsiwn 2 – Gosod arwyddion sy'n fflachio wrth i gerbydau agosáu yn yr un lleoliad â'r twmpathau ffordd arfaethedig i rybuddio gyrwyr am y posibilrwydd o gerddwyr ar y ffordd.

 

Dywedodd y Rheolwr Traffig a Diogelwch Ffyrdd pe bai Opsiwn 2 yn cael ei gymeradwyo, byddid yn monitro ei gyflwyniad a'i effaith ar leihau cyflymder ac ar ddiogelwch ffyrdd. Pe bai'n dod i'r amlwg wedi hynny nad oedd Opsiwn 2 yn rhoi bod i'r canlyniadau a ddymunir, byddid yn cyfeirio'r cynigion yn ôl i'r Gr?p Rheoli Cyflymder amlasiantaeth i'w hystyried ymhellach.

 

PENDERFYNWYD er mwyn gwneud cynnydd o ran y Cynllun Llwybrau Diogel, fod Opsiwn 2 uchod yn cael ei fabwysiadu a bod arwyddion sy'n fflachio wrth i gerbydau agosáu yn cael eu gosod ar Heol Ffoland, Cwmaman, yn y lleoliadau a nodir yn yr adroddiad.

6.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR HYSBYSIAD PEBDERFYNIAD Y CYFARFOD A GYNHALIWWYD AR Y 16EG RHAGFYR, 2016 pdf eicon PDF 71 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 16 Rhagfyr, 2016 yn gofnod cywir.