Lleoliad: Ystafell 65 - Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Catherine Gadd
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant. |
|
GWRTHWYNEBIADAU I GYFYNGIAD TRAFFIG UNFFORDD YN RHODFA'R GOGLEDD A'R GOEDLAN, CAERFYRDDIN Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol adroddiad ynghylch gwrthwynebiadau mewn perthynas â gwneud Gorchymyn Rheoleiddio Traffig parhaol sydd ei angen er mwyn cyflwyno cyfyngiad traffig unffordd yn Rhodfa'r Gogledd a'r Goedlan, Caerfyrddin. Y rhesymau dros gyflwyno'r gorchymyn traffig unffordd oedd er mwyn creu mynediad newydd ar gyfer cerbydau i hwyluso addasu safle yr hen ysbyty sy'n adeilad rhestredig, a leolir ar ochr ogledd-orllewinol Rhodfa'r Gogledd, ac er mwyn creu system amgylchffordd i gynnal llif y traffig yn Rhodfa'r Gogledd a'r Goedlan.
Rhoddwyd gwybod bod pump o sylwadau wedi dod i law oddi wrth y cyhoedd, fel y manylwyd yn Atodiad 3 yr adroddiad ynghyd ag ymatebion yr adran iddynt. Mewn ymateb i ymholiad, cafodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol wybod na fyddai unrhyw leoedd parcio yn cael eu colli o ganlyniad i'r Gorchymyn.
PENDERFYNWYD
2.1 nodi'r gwrthwynebiadau, fel yr oeddent yn yr adroddiad; 2.2 gweithredu'r cynigion, fel yr oeddent yn Atodiad 1 i'r adroddiad; 2.3 rhoi gwybod yn ffurfiol i'r gwrthwynebwyr am benderfyniad y Cyngor |
|
COFNOD PENDERFYNIADAU - 14EG MEDI, 2016 Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 14eg Medi, 2016 yn gofnod cywir. |