Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell 65, Neuadd y Sir, Caerfyrddin

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant.

 

 

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 15FED GORFFENNAF 2016 pdf eicon PDF 284 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 15fed Gorffennaf 2016 yn gofnod cywir.

 

3.

GWRTHWYNEBIADAU I ORCHYMYN ARFAETHEDIG SEF GORCHYMYN CYDGYFNERTHU SIR GAERFYRDDIN (CAERFYRDDIN) (CYFYNGU AR AROS A MANNAU PARCIO AR Y STRYD (AMRYWIAD RHIF 15) pdf eicon PDF 499 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch cynigion y Cyngor i wneud Gorchymyn a fyddai'n amrywio Gorchymyn Cydgyfnerthu Sir Gaerfyrddin (Caerfyrddin) (Cyfyngu ar Aros a Mannau Parcio ar y Stryd) (Amrywiad Rhif 15) fel y gallai gynnwys amrywiol gyfyngiadau newydd ar hyd nifer o briffyrdd yng Nghaerfyrddin, fel y manylwyd yn yr adroddiad.

 

Rhoddwyd gwybod nad oedd unrhyw wrthwynebiadau wedi dod i law i'r cynigion oddi wrth yr ymgyngoreion statudol, ond er hynny roedd pedwar sylw wedi dod i law oddi wrth y cyhoedd, fel y manylwyd yn Atodiad 3 i'r adroddiad ynghyd ag ymatebion yr adran iddynt.

 

PENDERFYNWYD

3.1   cadarnhau Gorchymyn Cydgyfnerthu Sir Gaerfyrddin (Caerfyrddin) (Cyfyngu ar Aros a Mannau Parcio ar y Stryd) (Amrywiad Rhif 15) yn amodol ar y newidiadau a gytunwyd gyda'r aelodau lleol ac a fanylwyd yn 4.3 a 4.4 o grynodeb gweithredol yr adroddiad;

 

3.2   rhoi gwybod yn ffurfiol i wrthwynebwyr y Gorchymyn arfaethedig am benderfyniad y Cyngor.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau