Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gwasanaethau Technegol - Dydd Gwener, 15fed Gorffennaf, 2016 10.00 yb

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant.

 

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 26AIN MAI 2016 pdf eicon PDF 323 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 26ain Mai, 2016 yn gofnod cywir.

 

3.

BWRIAD I GYFLWYNO TERFYN CYFLYMDER O 30MYA - PWLL-TRAP, SANCLÊR LLEIHAU'R TERFYN CYFLYMDER O 40MYA I 30MYA pdf eicon PDF 261 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol bod yr Awdurdod wedi cyhoeddi cynigion ar gyfer cyflwyno'r Gorchymyn uchod mewn perthynas â'r priffyrdd y manylwyd arnynt yn Atodiad 1 yr adroddiad (Hysbysiad Cyhoeddus yr Atodlen Lleoliadau) gan wahodd sylwadau ar hynny erbyn 25ain Mawrth, 2016. Er nad oedd dim o'r ymgyngoreion statudol wedi gwrthwynebu'r cynigion, roedd un gwrthwynebiad wedi dod i law yn dilyn cyhoeddi'r Hysbysiad  fel y manylwyd arno, ynghyd ag ymateb y swyddog, yn Atodiad 2 yr adroddiad, a nodwyd hyn.  Ystyriwyd bod angen lleihau’r terfyn cyflymder er mwyn sicrhau diogelwch ffyrdd yn gyffredinol yn dilyn cynnydd mewn traffig a cherddwyr a hynny yn rhannol yn sgil y datblygiadau tai newydd a'r cynnydd yn y boblogaeth, drwy Pwll-trap.

PENDERFYNWYD

3.1  cadarnhau Gorchymyn Sir Gaerfyrddin (Ffyrdd Cyfyngedig) 2016 (Gosod Terfyn Cyflymder o 30m.y.a ym Mhwll Trap, Sanclêr) fel y manylwyd arno yn Atodiad 1 (Hysbysiad Cyhoeddus yr Atodlen Lleoliadau);

 

3.2 rhoi gwybod am y penderfyniad uchod i'r gwrthwynebwr a'r aelod lleol.