Lleoliad: Ystafell 65, Neuadd y Sir, Caerfyrddin
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
COFNOD PENDERFYNIADAU - 1AF MAWRTH 2016 Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 1af Mawrth, 2016 yn gofnod cywir.
|
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad a gynhwysai sylwadau/gwrthwynebiadau ac ymatebion a oedd wedi dod i law ynghylch cynnig i gyflwyno system unffordd yn Gilbert Crescent a Prospect Place, Llanelli, ar ôl cyhoeddi'r gorchmynion drafft ynghylch y rheoliadau parcio yn y wasg leol. Y farn oedd y byddai'r cynnig yn cyd-fynd â'r systemau unffordd presennol yn yr ardal gyfagos ac yn lleihau'r problemau traffig ar hyd y strydoedd hyn. Nid oedd gwrthwynebiad wedi dod i law gan yr ymgyngoreion statudol. Roedd y Cyngor Sir o'r farn fod y mesurau'n ddymunol er budd diogelwch ffyrdd.
PENDERFYNWYD 3.1 nodi'r gwrthwynebiadau, fel yr oeddent yn yr adroddiad; 3.2 gweithredu'r cynigion, fel yr oeddent yn Atodiad 1 i'r adroddiad; 3.3 rhoi gwybod i'r gwrthwynebwyr a'r Aelodau lleol yn unol â hynny.
|
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad a gynhwysai sylwadau/gwrthwynebiadau ac ymatebion a oedd wedi dod i law, ar ôl cyhoeddi yn y wasg leol, ynghylch cynnig i gyflwyno taliadau parcio i reoli'r defnydd o faes parcio Canolfan Hamdden Llanelli, a oedd hefyd yn cael ei ddefnyddio gan bobl nad oeddent yn defnyddio'r Ganolfan Hamdden, megis busnesau a chymudwyr. Yng ngoleuni'r gwrthwynebiadau a oedd wedi dod i law, bernid y gellid, am gyfnod prawf, barhau i barcio am ddim o dan y cynigion am y tair awr gyntaf er budd defnyddwyr y Ganolfan Hamdden.
PENDERFYNWYD 4.1 nodi'r gwrthwynebiadau, fel yr oeddent yn yr adroddiad; 4.2 gweithredu'r cynigion, fel yr oeddent yn Atodiadau 1 a 2 i'r adroddiad, ar yr amod bod y 3 awr gyntaf am ddim a bod adolygiad yn cael ei gynnal ymhen 6 mis; 4.3 rhoi gwybod i'r gwrthwynebwyr a'r Aelodau lleol yn unol â hynny.
|
|
GWRTHWYNEBIAAU I GYFYNGIAD TRAFFIG UNFFORDD YN RHODFA'R GOGLEDD A'R GOEDLAN, CAERFYRDDIN Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad a gynhwysai sylwadau/gwrthwynebiadau ac ymatebion a oedd wedi dod i law ar ôl ymgynghoriad rhagarweiniol ag ymgyngoreion statudol ynghylch cynnig i gyflwyno cyfyngiad traffig unffordd yn Rhodfa'r Gogledd a'r Goedlan, Caerfyrddin. Y farn oedd y byddai'r cynnig yn creu mynediad newydd i gerbydau er mwyn hwyluso addasu safle yr hen ysbyty, a oedd yn adeilad rhestredig.
PENDERFYNWYD 5.1 nodi'r gwrthwynebiadau, fel yr oeddent yn yr adroddiad; 5.2 hysbysebu'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig; 5.3 rhoi gwybod i'r gwrthwynebwyr a'r Aelodau lleol yn unol â hynny.
|
|
SHOPMOBILITY LLANELLI Cofnodion: Gan gyfeirio at gofnod 2 o'r cyfarfod a oedd wedi'i gynnal ar 17eg Medi 2015, rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad a fanylai ar gais gan Shopmobility Llanelli am gymorth ariannol pellach gan y Cyngor am y flwyddyn bresennol, sef £12,500.00.
PENDERFYNWYD rhoi grant pellach o £12,500.00 i Shopmobility Llanelli o'r Grant Cynnal Gwasanaeth Bysiau am y flwyddyn ariannol bresennol, yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad.
|
|
SHOPMOBILITY CAERFYRDDIN Cofnodion: Gan gyfeirio at gofnod 3 o'r cyfarfod a oedd wedi'i gynnal ar 17eg Medi 2015, rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad a fanylai ar gais gan Shopmobility Caerfyrddin am gymorth ariannol pellach gan y Cyngor am y flwyddyn bresennol, sef £13,596.00.
PENDERFYNWYD rhoi grant pellach o £13,596.00 i Shopmobility Caerfyrddin o'r Grant Cynnal Gwasanaeth Bysiau am y flwyddyn ariannol bresennol, yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad.
|