Lleoliad: County Hall, Carmarthen
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch cynigion i gyflwyno Gorchymyn Gwahardd Gyrru ar hyd y Gilffordd sydd ar Agor i Unrhyw Draffig (BOAT) Rhif 57/74 o'i chyffordd â Heol Ddu (U2323) ym Mhenymynydd am bellter o 1.7 cilometr, fel y manylwyd ar y cynllun a atodwyd i'r adroddiad, gan fod y llwybr yn cael ei ystyried yn anniogel i gerbydau motor. Pe bai'n cael ei fabwysiadu, byddai'r gorchymyn yn cynnig nifer o eithriadau er mwyn caniatáu i gerddwyr, ceffylau, beicwyr, beiciau modur a phreswylwyr sy'n byw ar hyd y BOAT deithio ar hyd y llwybr hwn.
Rhoddwyd gwybod i'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol, yn sgil cyhoeddi'r cynnig, nad oedd unrhyw wrthwynebiadau wedi dod i law oddi wrth yr ymgyngoreion statudol. Fodd bynnag, roedd 5 gwrthwynebiad, a deiseb wedi dod i law, (fel y manylwyd yn yr adroddiad ynghyd ag ymatebion yr adrannau iddynt), ac roedd y prif wrthwynebiad yn erbyn y cynnig i ganiatáu eithriad i feiciau modur deithio ar hyd y BOAT. Ar ôl ystyried y gwrthwynebiadau hynny, argymhellwyd bod y Gorchymyn yn cael ei gyhoeddi yn amodol ar ddileu'r eithriad i feiciau modur h.y. gwahardd beiciau modur rhag teithio ar hyd y BOAT.
PENDERFYNWYD nodi'r gwrthwynebiadau a oedd wedi dod i law i'r Gorchymyn Gwahardd Gyrru arfaethedig ar hyd y BOAT rhif 57/74, ond bod y Gorchymyn Rheoleiddio Traffig yn cael ei gyflwyno'n amodol ar ddileu'r eithriad ar gyfer beiciau modur h.y. gwahardd beiciau modur rhag teithio ar hyd y BOAT
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod yr Awdurdod wedi darparu yn y gorffennol, ar sail anffurfiol, ddau o fannau parcio i bobl anabl ar y lôn y tu cefn i Heol Morlais, Llanelli, fel y manylwyd ar y cynllun a atodwyd i'r adroddiad, a bod cais wedi dod i law bellach i ffurfioli'r ddarpariaeth honno er mwyn iddynt allu cael eu gorfodi gan Swyddogion Gorfodi Materion Sifil y Cyngor.
Dywedodd y Rheolwr Traffig a Diogelwch Ffyrdd, yn sgil cyhoeddi'r cynnig, nad oedd unrhyw wrthwynebiadau wedi dod i law oddi wrth yr ymgyngoreion statudol, fodd bynnag, roedd un gwrthwynebiad wedi dod i law oddi wrth breswylydd lleol ar sail y farn nad oedd angen mwy nag un man parcio, ac y byddai darparu dau o fannau parcio yn arwain at breswylwyr yn gorfod parcio mewn strydoedd cyfagos. Rhoddodd y Rheolwr Traffig a Diogelwch Ffyrdd wybod fod dau o fannau parcio'n cael eu cynnig ar y sail bod dau breswylydd eu hangen a bod digon o le ar y ffordd ac oddi ar y ffordd i thua 20 cerbyd barcio.
PENDERFYNWYD 3.1 nodi'r gwrthwynebiad a oedd wedi dod i law i'r cynnig i gyflwyno Gorchymyn Rheoleiddio Traffig ar gyfer darparu dau o fannau parcio i bobl anabl ar y lôn y tu cefn i Heol Morlais Llanelli, ond bod y Cyngor yn bwrw ymlaen â gwneud y Gorchymyn, 3.2 rhoi gwybod i'r gwrthwynebydd am benderfyniad y Cyngor
|
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch cynigion y Cyngor i wneud Gorchymyn a fyddai'n amrywio Gorchymyn Cydgyfnerthu Sir Gaerfyrddin (Llanelli) (Cyfyngu ar Aros a Mannau Parcio ar y Stryd) fel y gallai gynnwys amrywiol gyfyngiadau newydd ar hyd nifer o briffyrdd yn Llanelli, fel y manylwyd yn yr adroddiad.
Rhoddwyd gwybod nad oedd unrhyw wrthwynebiadau wedi dod i law i'r cynigion oddi wrth yr ymgyngoreion statudol, ond er hynny roedd saith sylw wedi dod i law oddi wrth y cyhoedd, fel y manylwyd yn Atodiad 3 i'r adroddiad ynghyd ag ymatebion yr adran iddynt, ac y rhoddwyd crynodeb ohonynt yng Nghrynodeb Gweithredol yr adroddiad lle cyfeirir atynt yn 4.3, 4.4, 4.5, 4.6 a 4.7.
PENDERFYNWYD 4.1 cadarnhau Gorchymyn Cydgyfnerthu Sir Gaerfyrddin (Llanelli) (Cyfyngu ar Aros a Mannau Parcio ar y Stryd) yn amodol ar y newidiadau a gytunwyd gyda'r aelodau lleol ac a fanylwyd yn 4.3, 4.4. 4.5, 4.6 a 4.7 o grynodeb gweithredol yr adroddiad, 4.2 rhoi gwybod yn ffurfiol i wrthwynebwyr y Gorchymyn arfaethedig am benderfyniad y Cyngor.
|
|
COFNOD PENDERFYNIADAU – 17EG MEDI 2015 Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 17egMedi, 2015, gan ei fod yn gywir.
|