Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Aelod o'r Cabinet dros Adnoddau (Cyn Mai 2022) - Dydd Mawrth, 15fed Mawrth, 2022 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Nodyn: moved from 03/03/22 

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

2.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 21 RHAGFYR, 2021 pdf eicon PDF 278 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Rhagfyr 2021 yn gofnod cywir.

3.

CYFRIFON NA ELLIR EU HADFER - DYLEDION AMRYWIOL pdf eicon PDF 242 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau ystyriaeth i adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth i ddileu mân ddyledion gwerth £12,437.86 a oedd yn ddyledus i'r Cyngor gan WRW Construction Ltd, a oedd yn nwylo gweinyddwyr ar ôl i'r cwmni fynd yn fethdalwr ar 12 Gorffennaf 2021.

 

PENDERFYNWYD dileu'r mân ddyledion gwerth £12,437.86 sy'n ddyledus i'r Cyngor gan WRW Construction Ltd.

4.

ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI

WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI CYNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R CABINET FARNU NAD YW'R EITEM CANLYNOL I'W GYHOEDDI AM EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFFAU 12 AC 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

5.

TRETHI ANNOMESTIG - CYMORTH CALEDI

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Roedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am hanes ariannol y talwr ardrethi unigol a/neu wybodaeth bersonol amdano. Roedd y budd i'r cyhoedd o ran cynnal yr eithriad o dan baragraff 14 o Atodlen 12A i Ddeddf 1972 yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth yn yr adroddiad gan y byddai datgelu yn golygu y byddai gwybodaeth am y busnes dan sylw yn cael ei datgelu heb gyfiawnhad, a fyddai'n achosi anfantais gystadleuol.

 

Bu'r Aelod o'r Cabinet yn ystyried ceisiadau am Ryddhad Caledi o dan ddarpariaethau Adran 49 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 fel y'i diwygiwyd.

 

PENDERFYNWYD

5.1

Caniatáu cais cyfeirnod 80028047-3;

5.2

Gohirio ystyried cais cyfeirnod 80024124-6 er mwyn ceisio gwybodaeth ychwanegol.

 

 

6.

DILEU DYLEDION CYN-DENANTIAID

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Roedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys data personol am gyn-denantiaid y cyngor, ynghyd â manylion am eu hôl-ddyledion rhent. Dywedwyd nad oedd cyfiawnhad dros gyhoeddi rhenti unigol, ac y byddai hynny'n anfanteisiol i hawliau a rhyddid yr unigolion perthnasol. Felly yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth.

 

Rhoddodd yr Aelod Cabinet ystyriaeth i adroddiad oedd wedi ei lunio'n unol â Rheolau Gweithdrefn y Cyngor, a oedd nodi'r sefyllfa bresennol o ran dyledion tenantiaid presennol a chyn-denantiaid ac yn gofyn am ddileu'r dyledion hynny o fwy na £1,500.

 

Nododd yr Aelod Cabinet yr achosion a amlinellwyd yn yr adroddiad a rhoddodd ystyriaeth i'r adroddiadau unigol ar gyfer pob un o'r tenantiaid presennol a'r cyn-denantiaid a oedd yn manylu ar y rhesymau dros geisio dileu dyledion. Roedd y rhesymau yn cynnwys amgylchiadau personol.

 

PENDERFYNWYD dileu ôl-ddyledion y tenantiaid presennol a'r cyn-denantiaid, fel yr oeddid wedi manylu arnynt yn yr adroddiad, am nad oedd modd eu hadennill.