Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Aelod o'r Cabinet dros Adnoddau (Cyn Mai 2022) - Dydd Iau, 7fed Tachwedd, 2019 10.00 yb

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU 16EG HYDREF 2019 pdf eicon PDF 198 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnod penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Hydref, 2019 yn gofnod cywir.

 

3.

ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI

FOLLOWING CONSIDERATION OF ALL THE CIRCUMSTANCES OF THE CASE AND FOLLOWING THE APPLICATION OF THE PUBLIC INTEREST TEST THE EXECUTIVE BOARD MEMBER MAY CONSIDER THAT THE FOLLOWING ITEM IS NOT FOR PUBLICATION AS IT CONTAINS EXEMPT INFORMATION AS DEFINED IN PARAGRAPH 14 OF PART 4 OF SCHEDULE 12A TO THE LOCAL GOVERNMENT ACT, 1972 AS AMENDED BY THE LOCAL GOVERNMENT (ACCESS TO INFORMATION) (VARIATION) (WALES) ORDER 2007

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitem ganlynol yn cael ei chyhoeddi, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

 

4.

STIWDIOS AGENDA

Cofnodion:

Yn dilyn cynnal prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Roedd prawf budd y cyhoedd ar y mater hwn yn berthnasol i'r ffaith fod budd y cyhoedd o ran cynnal yr eithriad uchod o dan Ddeddf 1972 mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o roi'r awdurdod dan anfantais mewn trafodaethau'r dyfodol pe na gytunir ar y telerau arfaethedig.

 

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad oedd yn cynnwys manylion am gynigion ar gyfer prydles newydd mewn perthynas â Stiwdio Agenda yn Llanelli.

 

PENDERFYNWYD bod y brydles newydd arfaethedig ar gyfer Stiwdio Agenda yn Llanelli, fel y manylwyd arni yn yr adroddiad, yn cael ei chymeradwyo.