Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 12 TACHWEDD 2021 pdf eicon PDF 273 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Tachwedd 2021 yn gofnod cywir.

 

 

3.

PENNU RHENTI AR GYFER SAFLE SIPSIWN/TEITHWYR PEN-Y-BRYN 2022/23 pdf eicon PDF 569 KB

Cofnodion:

Bu'r Aelod Cabinet yn ystyried adroddiad i gadarnhau'r cynnydd yn y rhenti wythnosol ar gyfer safle Sipsiwn/Teithwyr Pen-y-bryn yn ystod blwyddyn ariannol 2022/23. Hysbyswyd yr Aelod Cabinet fod y safle Sipsiwn a Theithwyr yn wasanaeth a gyllidir gan y Dreth Gyngor a bod 15 llain ar safle Pen-y-bryn ar hyn o bryd. Er bod pob Awdurdod Lleol a Chymdeithas Dai yng Nghymru wedi alinio â'r polisi pennu rhenti tai cymdeithasol mewn perthynas â'r lefelau rhent ar gyfer tai cymdeithasol, nid oedd safle Pen-y-bryn yn rhan o'r Cyfrif Refeniw Tai, ac felly nid oedd y lefelau rhent a godir yn cael eu rheoli gan bolisi rhenti Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, barnwyd ei bod yn deg cynyddu rhenti ar y safle gan ddilyn yr un fformiwla a ddefnyddiwyd ar gyfer tenantiaid y Cyngor. Ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/23, byddai hynny'n gynnydd o 2.9% ac argymhellwyd pennu'r lefelau rhent wythnosol ar gyfer 2022/23 ar £58.72 (net taliadau am wasanaethau a threthi d?r) gan ddarparu incwm blynyddol o £42,278.40 ar gyfer 2022/23, pe bai pob un o'r 15 llain yn cael eu defnyddio drwy gydol y flwyddyn.

 

 

PENDERFYNWYD:

3.1

pennu mai £58.72 fyddai'r rhent wythnosol am leiniau ar Safle Sipsiwn/Teithwyr Pen-y-bryn, wedi'i gasglu dros 48 wythnos.

3.2

bod y polisi ynghylch taliadau am wasanaethau yn cael ei weithredu i sicrhau bod tenantiaid y safle yn talu am y gwasanaethau ychwanegol hyn.

3.3

pennu mai £34.15 yw'r tâl am ddefnyddio d?r, wedi'i gasglu dros 48 wythnos.

3.4

awdurdodi swyddogion i ymgynghori â phreswylwyr Pen-y-bryn a phennu'r taliadau cyffredinol a nodir yn nhabl 1.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau