Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Aelod o'r Cabinet dros Tai (Cyn Mai 2022) - Dydd Gwener, 12fed Tachwedd, 2021 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 14EG MAI 2021 pdf eicon PDF 270 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 14 Mai, 2021 yn gofnod cywir.

 

3.

CREU POLISI GOSODIADAU LLEOL AR GYFER GOLWG Y CAPEL, DATBLYGIAD NEWYDD POBL YN NHY-CROES pdf eicon PDF 487 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Aelod o'r Cabinet dros Dai adroddiad ar gynigion i fabwysiadu Polisi Gosodiadau Lleol ar gyfer datblygiad tai newydd Pobl yng Ngolwg y Capel, Tycroes. Byddai'r Polisi hwn sicrhau bod cymuned gynaliadwy yn cael ei chreu lle byddai pobl yn falch o fyw. Byddai'r Polisi hwn yn berthnasol i ddechrau wrth osod y cartrefi newydd i'w rhentu yn Nh?-croes ac yn parhau ar waith am 6 mis ar ôl y gosod diwethaf.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Polisi Gosodiadau Lleol ar gyfer y cartrefi newydd yng Ngolwg y Capel, datblygiad tai newydd Pobl yn Nh?-croes yn amodol ar drosglwyddiadau ar gyfer pob math o d? gan gynnwys aelwydydd y mae eu tai cymdeithasol presennol yn orlawn a’r rhai sy’n tanfeddiannu eu tai cymdeithasol presennol.

 

4.

CREU POLISI GOSODIADAU LLEOL AR GYFER MAES Y GWENYN, DATBLYGIAD NEWYDD POBL YN CROSS HANDS pdf eicon PDF 473 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Aelod o'r Cabinet dros Dai adroddiad ar gynigion i fabwysiadu Polisi Gosodiadau Lleol ar gyfer datblygiad tai newydd gan Gr?p Tai Pobl yn Cross Hands - Maes y Gwenyn.  Byddai'r Polisi hwn yn sicrhau bod cymuned gynaliadwy yn cael ei chreu lle byddai pobl yn falch o fyw. Byddai'r Polisi hwn yn berthnasol i ddechrau wrth osod y cartrefi newydd i'w rhentu yn Nh?-croes ac yn parhau ar waith am 6 mis ar ôl y gosod diwethaf.

 

Nododd yr Aelod o'r Cabinet mai Llannon oedd y ward leol ar gyfer y datblygiad hwn mewn gwirionedd, nid Gorslas fel y nodwyd yn yr adroddiad, ac yr ymgynghorwyd ag aelodau ward Llannon, y Cynghorwyr Emlyn Dole a Dot Jones. Roedd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen a'r Cynghorydd Darren Price, aelodau o ward Gorslas, wedi cael gwybod am y gwall.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Polisi Gosodiadau Lleol ar gyfer y cartrefi newydd ym Maes y Gwenyn, datblygiad tai newydd Pobl yn Cross Hands yn amodol ar drosglwyddiadau ar gyfer pob math o d? gan gynnwys aelwydydd y mae eu tai cymdeithasol presennol yn orlawn a’r rhai sy’n  tanfeddiannu eu tai cymdeithasol presennol.