Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol. |
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Mawrth 2021, gan ei fod yn gywir. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelod Gweithredol dros Dai yn ystyried adroddiad ar gynigion i fabwysiadu Polisi Gosodiadau Lleol ar gyfer datblygiad adeiladu newydd y Cyngor ym Maespiode, Llandybie sy'n cynnwys wyth cartref dwy ystafell wely a fyddai'n barod i breswylio ynddynt erbyn Haf 2021. Nodwyd bod angen mawr yn ward Llandybie am dai a, phe bai'n cael ei fabwysiadu, byddai'r polisi'n berthnasol yn y lle cyntaf i osod y cartrefi i gymysgedd o denantiaid ar draws y bandiau polisi dyrannu gan helpu i greu cymuned gynaliadwy.
Cyfeiriodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol at y ffaith bod y polisi’n weithredol am 6 mis i sicrhau bod y gymuned yn cael cyfle i sefydlu yn iawn a gofynnodd am eglurhad ynghylch pe bai eiddo yn dod yn wag yn y cyfnod o 6 mis y byddai ailosod yr eiddo hwnnw yn cael ei wneud yn unol â’r polisi gosodiadau lleol. Cadarnhaodd y Rheolwr Strategol Darparu Tai y byddai’r polisi dal yn gymwys yn yr amgylchiadau hynny.
PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo'r Polisi Gosodiadau Lleol ar gyfer y cartrefi newydd yn y datblygiad adeiladu newydd ym Maespiode, Llandybie |