Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi COFNOD penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Mawrth 2020, gan ei fod yn gywir.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Yn unol â Gweithdrefn Gosodiadau ar sail Dewis Cyngor Sir Caerfyrddin, rhoddodd Aelod y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad ar greu Polisi Gosodiadau Lleol ar gyfer datblygiad adeilad tai newydd yn Garreglwyd, Pen-bre.
Roedd yr adroddiad yn amlinellu bod datblygiad Garreglwyd, a gynlluniwyd i ddiwallu’r angen mawr am dai yn yr ardal, yn un o ddatblygiadau adeiladu tai newydd cyntaf y Cyngor i gael ei gwblhau sy'n cynnwys 14 cartref a chymysgedd o 12 cartref â dwy ystafell wely a 2 gartref â phedair ystafell wely.
Roedd y Polisi Gosodiadau Lleol ynghlwm wrth yr adroddiad yn manylu ar y cynigion o ran dyrannu a gosod y tai ynghyd â gwybodaeth am yr amodau dyrannu, hysbyseb a llunio rhestr fer.
Nod y Polisi oedd cyflawni a chynnal cymuned gytbwys a chynaliadwy trwy reoli dyraniad tai yn Garreglwyd gan greu cymuned gynaliadwy y mae pobl yn falch o gael byw ynddi.
Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol y byddai'r polisi yn parhau mewn lle am 6 mis ar ôl gosod pob cartref, er mwyn sicrhau bod y gymuned wedi'i sefydlu'n briodol. Yn ogystal, byddai'r polisi a'i effaith ar y gymuned yn cael ei adolygu gan Gyngor Sir Caerfyrddin mewn ymgynghoriad â'i bartneriaid cymdeithas dai, ar ôl y cyfnod o 6 mis er mwyn penderfynu a ddylid ymestyn y cyfnod.
Roedd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn cydnabod yr ymgynghorwyd ag Aelodau lleol ar y Polisi Gosodiadau Lleol arfaethedig a'u bod yn cytuno y dylid cymhwyso'r Polisi Gosodiadau Lleol i'r gosodiadau cychwynnol yn natblygiad Garreglwyd.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Polisi Gosodiadau Lleol arfaethedig ar gyfer y tai newydd sy'n rhan o ddatblygiad adeiladu tai newydd yn Garreglwyd.
|