Lleoliad: Swyddfa'r ABG Tai - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin Davies 01267 224059
Rhif | eitem |
---|---|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
COFNOD PENDERFYNIADAU - 23 MAI, 2018 PDF 95 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 23 Mai, 2018 yn gofnod cywir.
|
|
CYNLLUN HELP TO HEAT PDF 209 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad yn manylu ar y camau y mae angen eu cymryd er mwyn cyflwyno Rhwymedigaeth Cwmni Ynni y Llywodraeth Ganolog (ECO): Cynllun "Help to Heat" yn Sir Gaerfyrddin. Bwriad y cynllun yw helpu aelwydydd sy'n dioddef tlodi tanwydd, nad ydynt yn derbyn budd-daliadau, ac helpu aelwydydd incwm isel sy'n agored i effeithiau byw mewn cartref oer. Nodwyd bod y cynllun ar gael i aelwydydd â deiliadaeth breifat yn unig, h.y. y rheiny yn y sector rhentu preifat a pherchen-feddianwyr. Nid oedd tai cymdeithasol yn cael eu cynnwys. Er mwyn i aelwydydd mewn ardal elwa ar y cynllun, mae'n rhaid i'r awdurdod lleol gyflwyno Datganiad o Fwriad, ac roedd copi ohono ynghlwm wrth yr adroddiad, yn gosod y meini prawf y bwriedir eu defnyddio i nodi aelwydydd a fyddai'n gymwys.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r gwaith o weinyddu'r cynllun uchod fel y nodwyd yn yr adroddiad a'r Datganiad o Fwriad.
|