Agenda a chofnodion drafft

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr T.A.J. Davies, J.S. Edmunds a J.G. Prosser.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

 

4.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2021/22 pdf eicon PDF 251 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod o'r Cabinet dros Adnoddau Adroddiad Monitro Cyllideb Gorfforaethol yr Awdurdod ac adroddiadau adrannol y Prif Weithredwr a'r Gwasanaethau Corfforaethol fel yr oeddent ar 31 Rhagfyr 2021 mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2021/22. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys atodiad a oedd yn rhoi manylion Monitro Arbedion 2021-22.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

5.

CYNLLUN BUSNES ADRANNOL YR AMGYLCHEDD 2022/23 pdf eicon PDF 588 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried darnau o Gynllun Busnes Adrannol yr Amgylchedd 2022-23 yn ymwneud â'r Is-adran Eiddo a oedd yn berthnasol i faes gorchwyl y Pwyllgor. Roedd y darnau o'r Cynllun yn amlinellu blaenoriaethau'r adran a sut yr oeddent yn cefnogi 5 Ffordd o Weithio a 7 nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad:

·       Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad) y byddai gweithrediad y Gwasanaeth Tasgfan, a fyddai'n cael ei gyflwyno ar gyfer ysgolion, yn cael ei gynnwys yn y rhaglen TIC gyda'r bwriad o ddefnyddio'r gwasanaeth ar sail gorfforaethol hefyd pe bai'n ymarferol;

·       Mewn ymateb i sylw, dywedodd y Rheolwr Contractau a Pherfformiad fod yr Adran yn gweithio'n agos gyda Chaffael Corfforaethol i symleiddio'r broses fiwrocrataidd a oedd yn aml yn atal busnesau lleol rhag gwneud cais i gael eu cynnwys ar y fframwaith mân waith. Roedd yr Awdurdod hefyd wedi cynnal digwyddiadau cyflenwi ac ymgysylltu y gwahoddwyd busnesau lleol iddynt;

·       Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod staff ychwanegol yn cael eu recriwtio i sicrhau ei bod yn bosibl i bob ysgol gynradd gael 2 arolygiad cynnal a chadw eiddo yn ystod 2022-23 fel y nodir yn y cynllun. Ar wahân i'r arolygiadau a gynlluniwyd, pwysleisiwyd y byddai ysgolion yn dal i gael cefnogaeth lawn y gwasanaeth atgyweirio a chynnal a chadw.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r Cynllun.

 

6.

CAM-DRIN DOMESTIG, POLISI TRAIS DOMESTIG A THRAIS RHYWIOL pdf eicon PDF 592 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Ddiogelu'r Cyhoedd Bolisi Cam-drin Domestig, Trais Domestig a Thrais Rhywiol arfaethedig ar gyfer y Cyngor a ddiwygiodd y Polisi Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol a fabwysiadwyd yn flaenorol yn unol â nodau ac amcanion yr Awdurdod a'r ddeddfwriaeth bresennol sef Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 a Deddf Cam-drin Domestig 2021 newydd. Mae Deddf 2021 yn nodi camau deddfwriaethol ac anneddfwriaethol pellach i hyrwyddo ymwybyddiaeth o gam-drin domestig, trais domestig a thrais rhywiol.

 

Tynnodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad) sylw at y cynnig i gynnwys 'absenoldeb diogel' yn y Polisi Amser o'r Gwaith a fyddai'n darparu ar gyfer hyd at 10 diwrnod o'r gwaith â thâl, ar wahân i absenoldeb arbennig neu absenoldeb salwch, i unrhyw un sy'n profi cam-drin domestig, trais domestig neu rywiol ar adeg pan oedd ei angen fwyaf.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad:

·       Mewn ymateb i gwestiwn , cadarnhaodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad) fod stelcian yn rhan annatod o'r Polisi arfaethedig;

·       cytunodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad) i ystyried sylw ynghylch pwysigrwydd sicrhau bod staff yn ymwybodol o'r dulliau cymorth eraill sydd ar gael megis iechyd galwedigaethol pe baent yn teimlo'n anghyfforddus ynghylch cysylltu â chydweithwyr neu reolwyr llinell. Ychwanegodd y byddai'n ofynnol i'r holl staff ymgymryd â'r modiwl e-ddysgu sy'n gysylltiedig â'r polisi; 

·       Awgrymwyd, gan yr argymhellwyd yn y ddogfen Bolisi bod cyrff llywodraethu yn cymhwyso'r egwyddorion y manylir arnynt, y dylai cyrff llywodraethu gael hyfforddiant priodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Polisi ynghylch Cam-drin Domestig, Trais Domestig a Thrais Rhywiol.

 

7.

RHAGLEN TRAWSNEWID I WNEUD CYNNYDD (TIC) DATGANIAD SAFBWYNT pdf eicon PDF 228 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn manylu ar y cynnydd o ran gweithredu blaenoriaethau allweddol o fewn y Rhaglen TIC bresennol a'r camau allweddol i'w cymryd y flwyddyn nesaf fel rhan o Gynllun Busnes TIC.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad:

·       Mewn ymateb i sylw yn ymwneud ag adolygiadau TIC yn y gorffennol, cyfeiriodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad) at yr angen i sefydlu fframwaith er mwyn sicrhau y gellid monitro'r holl newidiadau ac arbedion a nodwyd yn flaenorol yn effeithiol;

·       Mewn perthynas ag ymholiad ynghylch a oedd y Tîm TIC yn gweithio gyda phartneriaid eraill i nodi arbedion, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y bu trafodaethau gyda'r Bwrdd Iechyd, yr Heddlu a'r Awdurdodau Tân dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf yngl?n â rhannu arfer da. Yn fwy diweddar, rhoddwyd ystyriaeth i'r posibilrwydd o sefydlu rhwydwaith trawsnewid rhanbarthol ac roedd yn debygol y byddai hyn yn cael ei archwilio ymhellach;

·       Cyfeiriodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad) at yr ymgyrch recriwtio ragweithiol bresennol i ddenu pobl i weithio i'r Awdurdod a oedd yn cynnwys posteri ar hysbysfyrddau ac arosfannau bysiau ac ati;

·       Cytunodd Rheolwr Rhaglen TIC i ychwanegu'r mater o ffensys terfyn tai cyngor i raglen adolygu TIC yn dilyn pryderon ynghylch ansawdd ffensys a'r nifer o weithiau y bu'n rhaid gosod rhai ffensys newydd o ganlyniad i stormydd diweddar;

·       Cyfeiriwyd at y gwaith sy'n cael ei wneud i gyflwyno e-lofnodion fel ffordd o lofnodi dogfennau ac ati a fyddai hefyd yn hwyluso arbedion mewn meysydd fel costau teithio.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

 

8.

COFNODION BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS (PSB) SIR GÂR - TACHWEDD 2021 pdf eicon PDF 384 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet – yr Arweinydd gofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd 2021.  Roedd yn ofynnol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 fod Pwyllgor Craffu Llywodraeth Leol penodol yn cael ei benodi i graffu ar waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Yn Sir Gaerfyrddin, penodwyd Pwyllgor Craffu – Polisi ac Adnoddau y Cyngor fel y Pwyllgor Craffu perthnasol.

 

Cyfeiriwyd at yr Asesiad Llesiant Drafft y cyfeiriwyd ato yn y cofnodion uchod a dywedwyd wrth y Pwyllgor bod y BGC, yn ei gyfarfod ar 8 Mawrth 2022, wedi cymeradwyo Asesiad Llesiant terfynol Sir Gaerfyrddin a fyddai'n cael ei gyhoeddi a'i ddosbarthu maes o law.

Dywedodd yr Arweinydd mai swyddog arweiniol newydd yr Awdurdod ar y BGC oedd Noelwyn Daniel, Pennaeth TGCh.

Talodd y Pwyllgor deyrnged i waith y Rheolwr Polisi Corfforaethol, Perfformiad a Phartneriaeth a'i thîm mewn perthynas â'r BGC.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a gynhaliwyd ar 24  Tachwedd 2021.

 

 

9.

DIWEDDARAF AM WEITHREDIADAU AC ATGYFEIRIADAU'R PWYLLGOR CRAFFU POLISI AC ADNODDAU pdf eicon PDF 322 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad yn manylu ar gamau gweithredu, ceisiadau neu atgyfeiriadau a oedd yn deillio o gyfarfodydd craffu blaenorol.

Codwyd y pwyntiau canlynol mewn perthynas â'r materion hynny a oedd yn dal wedi'u nodi fel rhai 'heb eu datrys':

·       Mewn perthynas â Cham Gweithredu cyf. 1 eglurwyd bod y gwariant ar gontractwyr allanol y gofynnwyd amdano yn cwmpasu pob adran.

·       Mewn perthynas â Cham Gweithredu cyf. 3 dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad) y byddai'n sicrhau bod y ffigurau cofnodion iaith ar gyfer y 2460 o staff mewn ysgolion a oedd wedi'u cynnwys yn y data sgiliau iaith yn cael eu dosbarthu i'r aelodau;

·       Mewn perthynas â Cham Gweithredu cyf. 5 dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad) fod y geiriad perthnasol yn y Polisi Brechu wedi'i ddiwygio;

·       Mewn perthynas â Cham Gweithredu cyf. 11, dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad) y byddai'n codi'r mater yn y cyfarfod nesaf o'r Bwrdd TIC ond sicrhaodd y Pwyllgor y byddai adborth yn cael ei roi i breswylwyr ac i ddefnyddwyr gwasanaethau a oedd wedi ymateb i ymgynghoriadau ac a oedd yn rhan o'r gwaith o nodi blaenoriaethau a phrosiectau TIC yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYDYN UNFRYDOL nodi'r adroddiad a fanylai ar y cynnydd o ran y camau gweithredu, y ceisiadau, neu'r atgyfeiriadau oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Craffu.

10.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 225 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor yr adroddiad nad oedd wedi'i gyflwyno.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.

 

11.

COFNODION - 2AIL CHWEFROR, 2022 pdf eicon PDF 283 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Chwefror, 2022 yn gofnod cywir.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau