Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd H.L. Davies

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

A. Davies

 

9 – Adroddiad Perfformiad Adrannol Hanner Blwyddyn 2020/21 (1 Ebrill hyd at 30 Medi 2020);

Ei chwaer yng nghyfraith yw'r Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol;

G. Morgan

 

4 - Ymgynghori ynghylch Strategaeth Cyllideb Refeniw 2021/22 hyd at 2023/24;

Tenant yn Llynnoedd Delta, Llanelli.

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

 

4.

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2021/22 TAN 2023/24. pdf eicon PDF 239 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau Strategaeth Cyllideb Refeniw 2021/22 hyd at 2023/24 a oedd wedi ei chymeradwyo gan y Bwrdd Gweithredol at ddibenion ymgynghori yn ei gyfarfod ar 18 Ionawr 2021. Roedd yr adroddiad, a oedd yn darparu'r sefyllfa bresennol i'r Aelodau ynghylch y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2021/2022, ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2022/2023 a 2023/2024, yn seiliedig ar ragamcanion ynghylch gofynion gwariant y swyddogion ac yn ystyried y setliad amodol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 22 Rhagfyr 2020. Roedd hefyd yn adlewyrchu cynigion presennol yr adrannau ar gyfer arbedion. Byddai'r effaith ar wariant adrannol yn dibynnu ar y setliad terfynol gan Lywodraeth Cymru a'r gyllideb derfynol ganlyniadol a fabwysiedir gan y Cyngor Sir.

 

Roedd y cynigion ynghylch y gyllideb, fel y'u cyflwynwyd yn yr adroddiad, yn golygu cyflawni'n llawn y cynigion o ran arbedion a gyflwynwyd, ynghyd â nodi a chyflawni'r diffyg yng nghynigion arbedion 2022-23 a 2023-24. Byddai angen nodi gostyngiadau pellach mewn costau ar gyfer blynyddoedd 2022/23 a 2023/24 er mwyn gallu cynnal y Strategaeth Gyllideb bresennol a lefel y dreth gyngor.

Tynnwyd sylw at y ffaith bod cydnabyddiaeth yn cael ei rhoi i bwysigrwydd hanfodol lleihau cynnydd y Dreth Gyngor i breswylwyr wrth gynnal cyllideb gytbwys yn y cyfnod digynsail a heriol hwn.

 

O ystyried maint y pwysau a'r bwlch a ragwelir yn y gyllideb, mae'r cynnydd yn y Dreth Gyngor wedi parhau ar y lefelau cynllun ariannol tymor canolig (MTFP) blaenorol o 4.89% ym mhob un o'r tair blynedd ariannol, sy'n cynnig rhywfaint o liniaru o leiaf ar y cynigion ar gyfer arbedion yr oedd angen i'r Cyngor eu hystyried.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad:

·       Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch sut, wrth ystyried cynigion y gyllideb, y gellid osgoi peryglu gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain pan oedd y setliadau yn cael eu derbyn mor hwyr, roedd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol yn cydnabod bod hyn yn her a dyna pam y lluniodd y Cyngor ei hun gyllideb 3 blynedd fel y gellid rhagweld y sefyllfa debygol yn rhesymol o fewn y paramedrau a oedd ar gael o ran sut y dyrannodd llywodraeth Cymru a'r llywodraeth genedlaethol yr arian;

·       Mynegwyd pryder ynghylch effaith y pandemig ar gronfeydd wrth gefn ysgolion. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod yr Awdurdod yn parhau i weithio gyda'r 30% o ysgolion a oedd mewn diffyg ar hyn o bryd, ond eglurwyd bod y rhan fwyaf o'r gwariant ychwanegol gan ysgolion sy'n gysylltiedig â'r pandemig wedi'i ariannu gan yr hawliadau caledi a wnaed i Lywodraeth Cymru a rhagwelwyd y byddai hyn yn parhau hyd y gellir rhagweld;

·       O ran cronfeydd cyffredinol wrth gefn, a oedd yn darparu 'rhwyd ddiogelwch' ar gyfer amrywiadau annisgwyl mewn gwariant mewn unrhyw flwyddyn [e.e. llifogydd, covid] ac a oedd yn galluogi'r Cyngor i ymateb, dywedwyd wrth y Pwyllgor bod 3% o'r gwariant net bob amser wedi cael ei ystyried yn lefel ddarbodus ac argymhellwyd bod hyn yn cael ei  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

RHAGLEN GYFALAF PUM MLYNEDD - 2021/22 - 2025/26. pdf eicon PDF 339 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol drosAdnoddau'r rhaglen gyfalaf 5 mlynedd a oedd yn rhoi golwg gychwynnol ar y Rhaglen Gyfalaf 5 mlynedd rhwng 2021/22 a 2025/26. Roedd yr adroddiad yn sail i'r broses ymgynghori ynghylch y gyllideb gyda'r Pwyllgor Craffu a phartïon perthnasol eraill a byddai unrhyw adborth, ynghyd â'r setliad terfynol, yn llywio'r adroddiad terfynol ynghylch y gyllideb a fyddai'n cael ei gyflwyno i'r aelodau ym mis Mawrth 2021. Roedd y rhaglen gyfalaf arfaethedig yn cynnig gwariant cyfalaf o ryw £242m dros y 5 mlynedd nesaf ac roedd y cynigion cyllido cyfredol yn cynnwys cyllid allanol o £119m. Roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at y setliad amodol a gafwyd gan Lywodraeth Cymru a oedd yn nodi cyllid cyfalaf o £11.866m ar gyfer yr Awdurdod yn 2021-22. Roedd y cyllid yn cynnwys benthyca â chymorth heb ei neilltuo o £5.925m a Grant Cyfalaf Cyffredinol o £5.941m. I grynhoi, sefyllfa gyffredinol y rhaglen gyfalaf oedd ei bod yn cael ei chyllido am y 5 mlynedd rhwng 2021/22 a 2025/26.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad:

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch argaeledd gwariant i fynd i'r afael ag atgyweirio ffyrdd, cynghorwyd y Pwyllgor bod £600k ar gael yn y rhaglen gyfalaf ar gyfer priffyrdd a bod Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £1.5m arall o'i gronfa adnewyddu ffyrdd a sefydlwyd y llynedd. Yn ogystal, gallai'r Cyngor hefyd wneud cynnig am gyllid cydnerthedd ffyrdd gan Lywodraeth Cymru;

·       Mewn ymateb i bryder ynghylch yr oedi mewn perthynas ag ysgol newydd arfaethedig Rhydaman fel rhan o raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, deallwyd bod yr oedi'n ymwneud â materion yn ymwneud â'r safle arfaethedig ond rhoddwyd sicrwydd ei bod yn aros yn y rhaglen gyfalaf;

·       Mewn ymateb i gwestiwn, dywedwyd na ellid gohirio gwaith mewn cysylltiad â Neuadd y Sir, Caerfyrddin, a Th? Elwyn, Llanelli, oherwydd materion iechyd a diogelwch a chynnal a chadw eiddo. Roedd hyn yn cynnwys diweddaru'r systemau larwm tân;

·       Gyda golwg ar Lwybr Dyffryn Tywi, ystyriwyd y byddai angen cymorth gan Lywodraeth Cymru i sicrhau ei fod yn cael ei gwblhau oherwydd y gost sylweddol debygol o gaffael y tir sy'n angenrheidiol. Fodd bynnag, ar hyn o bryd roedd Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar ei menter teithio llesol ac felly roedd unrhyw gynnydd pellach ar y llwybr yn debygol o gael ei ohirio;

·       Gyda golwg ar wariant a ddyrannwyd yn 2021/22 ar gyfer Canolfan Hamdden newydd Llanelli, nodwyd bod hyn yn dibynnu ar ddechrau'r gwaith ar y Pentref Llesiant newydd, Pentre Awel;

·       Nodwyd bod terfynau benthyca wedi'u pennu ym Mholisi Rheoli'r Trysorlys. Gweithiodd yr Awdurdod ar sail rheoli benthyca mewnol i gadw'r terfyn i lawr [Cofnod 7 isod]. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod dyletswydd arno i adrodd bod unrhyw fenthyciadau yn fforddiadwy, yn gynaliadwy ac yn ddarbodus cyn i'r Cyngor wneud penderfyniad ar ei gyllideb.   

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo rhaglen gyfalaf bum mlynedd 2021/22 – 2025/26.

 

6.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2020/21. pdf eicon PDF 246 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau Adroddiad Monitro Cyllideb Gorfforaethol yr Awdurdod ac adroddiadau adrannol y Prif Weithredwr a'r Gwasanaethau Corfforaethol fel yr oeddent ar 31 Hydref 2020 mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2020/21. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys atodiad a oedd yn rhoi manylion Monitro Arbedion 2020-21.

Cyfeiriwyd at y cynnydd parhaus tebygol yn y galw am gymorth o dan gynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor yr oedd Llywodraeth Cymru, hyd yma, wedi'i asesu bob chwarter. Roedd y sefyllfa'n cael ei monitro'n ofalus gan nad oedd yn glir i ba raddau y byddai Llywodraeth Cymru yn parhau â'i chefnogaeth yn hyn o beth. Felly, cafodd ei chydnabod fel maes risg o safbwynt y gyllideb ond un yr ystyriwyd bod gan yr Awdurdod reolaeth drosti.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

7.

POLISI A STRATEGAETH RHEOLI'R TRYSORLYS 2021-22. pdf eicon PDF 238 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau Bolisi a Strategaeth arfaethedig Rheoli'r Trysorlys 2021/22 a fyddai'n cael eu hystyried gan y Bwrdd Gweithredol ar 22 Chwefror 2021, ac atgoffwyd yr aelodau fod yn rhaid i'r Cyngor, o dan ofynion Côd Ymarfer diwygiedig CIPFA ynghylch Rheoli'r Trysorlys, feddu ar Bolisi Rheoli'r Trysorlys a oedd yn manylu ar bolisïau ac amcanion ei weithgareddau o ran rheoli'r trysorlys. Fe'u hatgoffwyd hefyd fod yn rhaid i'r Cyngor gymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys yn flynyddol cyn dechrau'r flwyddyn ariannol yr oedd yn ymwneud â hi. Hefyd, dan ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2003, roedd yn ofynnol i'r Cyngor gymeradwyo ei Ddangosyddion Darbodaeth o ran Rheoli'r Trysorlys ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Mewn ymateb i ymholiad cytunodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol i ymchwilio i'r mater o drefnu sesiwn hyfforddiant gloywi ar swyddogaethau'r trysorlys i aelodau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Polisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2021/22 a'r atodiadau cysylltiedig.

 

8.

ADRODDIAD PERFFORMIAD HANNER BLWYDDYN CORFFORAETHOL 2020/21 (1 EBRILL I 30 MEDI 2020) SY'N RHYCHWANTU'R HOLL ADRANNAU. pdf eicon PDF 440 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd Adroddiad Perfformiad Corfforaethol Hanner Blwyddyn 2020/21 ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill - 30 Medi 2020 a oedd yn canolbwyntio ar y mesurau perfformiad a gynhwyswyd yn y Strategaeth Gorfforaethol ar gyfer pob adran ac a oedd yn galluogi'r Awdurdod i ddangos i ddinasyddion, aelodau a rheoleiddwyr sut y rheolwyd perfformiad, a sut y rhoddwyd ymyriadau priodol ar waith.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

9.

ADRODDIAD PERFFORMIAD HANNER BLWYDDYN ADRANNOL 2020/21 (1 EBRILL I 30 MEDI 2020) YN ARBENNIG I'R PWYLLGOR CRAFFU HWN. pdf eicon PDF 427 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd Adroddiad Perfformiad Adrannol Hanner Blwyddyn 2020/21 ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill - 30 Medi 2020 a fanylai ar y cynnydd a wnaed yn erbyn y camau gweithredu a'r mesurau yn Strategaeth Gorfforaethol 2020/12 ar gyflawni'r Amcanion Llesiant o fewn cylch gwaith y Pwyllgor. Oherwydd y pandemig covid, nodwyd nad oedd cynlluniau Gweithredu Adrannol ar gyfer 2020/21 yn cael eu monitro er mwyn caniatáu i wasanaethau ganolbwyntio ar ddelio ag argyfyngau ond bod Asesiad Effaith Gymunedol hanner blwyddyn ar y pandemig Covid 19 wedi'i lunio yn lle hynny. Byddai adroddiad blynyddol ar gyfer 2020/21 hefyd yn cael ei lunio ar yr Amcanion Llesiant Corfforaethol.

 

O ran absenoldeb oherwydd salwch, a fyddai'n destun adroddiad ar wahân yn y cyfarfod nesaf, dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol wrth y Pwyllgor bod 5.6 diwrnod Cyfwerth ag Amser Llawn wedi'u colli yn chwarter 3 o gymharu â 7.67 diwrnod Cyfwerth ag Amser Llawn a gollwyd yn yr un cyfnod y llynedd a oedd yn welliant sylweddol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

10.

COFNODION BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS (PSB) SIR GÂR - MEDI 2020. pdf eicon PDF 396 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau  gofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin a gynhaliwyd ar 29 Medi 2020.Roedd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol bod pwyllgor craffu llywodraeth leol dynodedig yn cael ei benodi i graffu ar waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Yn Sir Gaerfyrddin, penodwyd Pwyllgor Craffu – Polisi ac Adnoddau y Cyngor fel y Pwyllgor Craffu perthnasol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a gynhaliwyd ar 29 Medi 2020.

 

11.

ADRODDIAD MONITRO CHWARTEROL BARGEN DDINESIG BAE ABERTAWE. pdf eicon PDF 247 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[HYD Y CYFARFOD

Am 1:00pm wrth ystyried yr eitem hon, tynnwyd sylw'r Pwyllgor at Reol Sefydlog 9 'Hyd y Cyfarfod', ac at y ffaith bod y cyfarfod wedi bod yn mynd rhagddo ers 3 awr. Felly

PENDERFYNWYD bod y Rheolau Sefydlog yn cael eu rhoi o'r neilltu dros dro er mwyn gallu ystyried yr eitemau oedd yn weddill ar yr agenda.]

 

Cyflwynodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau Jonathan Burnes, Cyfarwyddwr Rhaglen Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Cyflwynodd yntau Adroddiad Monitro Chwarterol ar gyfer Portffolio'r Fargen Ddinesig a'r rhaglenni / prosiectau sy'n rhan ohono, a fanylai ar statws presennol y Fargen Ddinesig, crynodeb o weithgarwch allweddol y rhaglen / prosiectau dros y 3 mis diwethaf a'r gweithgarwch a gynlluniwyd ar gyfer y chwarter presennol. Yn benodol, cafodd y Pwyllgor ei hysbysu o gynnydd y prosiectau hynny yr oedd Cyngor Sir Caerfyrddin yn eu harwain, sef:

·       Seilwaith Digidol;

·       Pentre Awel;

·       Yr Egin;

·       Sgiliau a Thalentau.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd ynghylch yr adroddiad:

·       Mewn ymateb i bryder yn ymwneud â chyllid yn yr hinsawdd bresennol, sicrhawyd yr aelodau bod hyn wedi'i neilltuo ar gyfer y Fargen Ddinesig a bod y trafodaethau â Llywodraethau Cymru a'r DU yn gadarnhaol gan fod yr achosion busnes yn gadarn. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, er bod yna faterion llywodraethu y bu'n rhaid mynd i'r afael â hwy, bod y prosiectau'n mynd yn eu blaen;

·       Roedd y Cadeirydd yn gobeithio y byddai mwy o fanylion ar gael cyn hir yngl?n â ffigurau creu swyddi fel y gallai cymunedau lleol weld manteision y prosiectau;

·       Mynegodd Rheolwr Prosiect Pentre Awel ei diolch i bawb a fu'n ymwneud â'r gwaith o baratoi at gam caffael y cynllun;

·       Soniodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau am yr angen i gyflymu'r rhaglenni sgiliau a hyfforddiant fel bod yna bobl leol â chymwysterau addas a fyddai'n gallu ymgeisio am y cyfleoedd am swyddi sy'n debygol o godi. Dywedodd Rheolwr Prosiect Pentre Awel mai elfen bwysig o'r cynllun oedd cynnwys y gymuned leol, gan gynnwys ysgolion a grwpiau lleol, er mwyn sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r cyfleoedd gwaith sy'n debygol o fod ar gael, a'u bod yn cael eu hannog gan y cyfleoedd hynny.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

12.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 307 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y rhestr o eitemau i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf i'w gynnal ar 2 Mawrth 2021 yn cael eu derbyn yn amodol ar ychwanegu adroddiad ar absenoldeb salwch.

 

13.

COFNODION - 2AIL RHAGFYR 2020. pdf eicon PDF 255 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr 2020 yn gofnod cywir.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau