Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin Davies 01267 224059
Nodyn: Moved from 10/02/22
Rhif | eitem | |||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
|
||||||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.
|
||||||||||
YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2022/23 TAN 2024/25 PDF 240 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod o'r Cabinet dros Adnoddau Strategaeth Cyllideb Refeniw 2022/23 hyd at 2024/25 a oedd wedi ei chymeradwyo gan y Cabinet at ddibenion ymgynghori yn ei gyfarfod ar 17 Ionawr 2022. Roedd yr adroddiad, a oedd yn darparu'r sefyllfa bresennol i'r Aelodau ynghylch y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2022/2023, ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2023/2024 a 2024/2025, yn seiliedig ar ragamcanion ynghylch gofynion gwariant y swyddogion ac yn ystyried y setliad amodol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 21 Rhagfyr 2021. Roedd hefyd yn adlewyrchu cynigion presennol yr adrannau ar gyfer arbedion. Byddai'r effaith ar wariant adrannol yn dibynnu ar y setliad terfynol gan Lywodraeth Cymru a'r gyllideb derfynol ganlyniadol a fabwysiedir gan y Cyngor Sir.
Roedd y cynigion ynghylch y gyllideb, fel y'u cyflwynwyd yn yr adroddiad, yn golygu cyflawni'n llawn y cynigion o ran arbedion a gyflwynwyd, ynghyd â nodi a chyflawni'r diffyg yng nghynigion arbedion 2023-24 a 2024-25. Byddai angen nodi gostyngiadau pellach mewn costau ar gyfer blynyddoedd 2023/24 a 2024/25 er mwyn gallu cynnal y Strategaeth Gyllideb bresennol a lefel y dreth gyngor. Tynnwyd sylw at y ffaith bod cydnabyddiaeth yn cael ei rhoi i bwysigrwydd hanfodol lleihau cynnydd y Dreth Gyngor i breswylwyr wrth gynnal cyllideb gytbwys yn y cyfnod digynsail a heriol hwn. O ystyried maint y pwysau a'r bwlch a ragwelir yn y gyllideb, mae'r cynnydd yn y Dreth Gyngor wedi parhau ar y lefelau cynllun ariannol tymor canolig (MTFP) blaenorol o 4.4% ar gyfer y flwyddyn nesaf, gyda'r arbedion a nodwyd ym mlynyddoedd 2 a 3 yn arwain at gynnydd dangosol yn y Dreth Gyngor o 3.4% a 3.8% yn y drefn honno. Ystyriwyd y byddai hyn yn darparu o leiaf rhywfaint o liniaru i'r cynigion arbedion yr oedd angen i'r cyngor eu hystyried dros flynyddoedd y Cynllun Ariannol Tymor Canolig yn y dyfodol.
Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad: · Mewn ymateb i bryderon am nifer y swyddi gwag yn y Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod pob ymdrech yn cael ei gwneud i lenwi'r swyddi a bod 4 penodiad wedi'u gwneud yr wythnos flaenorol; · Dywedodd y Pennaeth Adfywio fod prydles newydd wedi'i chytuno mewn perthynas â Marchnad Da Byw Nant-y-Ci ac roedd yn debygol y byddai'r gwerthiant cyntaf yn digwydd ym mis Mawrth; · Mewn ymateb i gwestiwn, dywedodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol fod yr Adran wrthi'n ceisio llenwi'r swyddi gwag yn y Tîm Gweinyddu Budd-daliadau Tai.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo'r Crynhoad Taliadau.
|
||||||||||
RHAGLEN GYFALAF PUM MLYNEDD - 2022/23 - 2026/27 PDF 450 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod o'r Cabinet drosAdnoddau'r rhaglen gyfalaf 5 mlynedd a oedd yn rhoi golwg gychwynnol ar y Rhaglen Gyfalaf 5 mlynedd rhwng 2022/23 a 2026/27. Roedd yr adroddiad yn sail i'r broses ymgynghori ynghylch y gyllideb gyda'r Pwyllgorau Craffu a phartïon perthnasol eraill a byddai unrhyw adborth, ynghyd â'r setliad terfynol, yn llywio'r adroddiad terfynol ynghylch y gyllideb a fyddai'n cael ei gyflwyno i'r aelodau ym mis Mawrth 2022. Roedd y rhaglen gyfalaf arfaethedig yn cynnig gwariant cyfalaf o ryw £269m dros y 5 mlynedd nesaf ac roedd y cynigion cyllido cyfredol yn cynnwys cyllid allanol o £150m. Roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at y setliad amodol a gafwyd gan Lywodraeth Cymru a oedd yn nodi cyllid cyfalaf o £10.037m ar gyfer yr Awdurdod yn 2022-23. Roedd y cyllid yn cynnwys benthyca â chymorth heb ei neilltuo o £5.942m a Grant Cyfalaf Cyffredinol o £4.095m. Roedd y rhaglen gyfalaf newydd yn parhau i gael ei hariannu'n llawn dros y cyfnod o bum mlynedd.
Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad: · Mewn ymateb i gwestiynu'r dyraniad o £73m i ysgolion tra bod cynigion Band 'B' yr 21ain Ganrif yn cael eu hadolygu, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol ei bod yn bwysig cynnal y dyraniad hwnnw i ysgolion yn gyffredinol hyd nes y ceir canlyniad yr adolygiad; · Mewn ymateb i bryder nad oedd Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu cyllid ar gyfer Adnewyddu Priffyrdd, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol fod rhaglen Gyfalaf yr Awdurdod ei hun yn cynnwys dyraniad blynyddol o £600k ac roedd y Cabinet yn bwriadu ychwanegu £1m ar gyfer 2022/3 a fyddai'n helpu mewn rhyw ffordd ond yn dal i arwain at ddiffyg. Dywedodd yr Arweinydd fod Llywodraeth Cymru yn cael ei lobïo ar y mater gan awdurdodau lleol a CLlLC ac roedd hefyd yn cydnabod pryderon ynghylch diffyg palmentydd mewn rhai ardaloedd a'r angen am dynnu sylw at y mater, yn enwedig o fewn y cysyniad o deithio llesol; · rhoddodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a Gwasanaethau Plant, mewn ymateb i gwestiwn, sicrwydd bod prosiect ysgolion Band 'B' yr 21ain Ganrif yn Rhydaman yn parhau i fod yn flaenoriaeth.
PENDERFYNWYD cymeradwyo Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd 2022/23 – 2026/27.
|
||||||||||
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2021/22 PDF 250 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod o'r Cabinet dros Adnoddau Adroddiad Monitro Cyllideb Gorfforaethol yr Awdurdod ac adroddiadau adrannol y Prif Weithredwr a'r Gwasanaethau Corfforaethol fel yr oeddent ar 31 Hydref 2021 mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2021/22. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys atodiad a oedd yn rhoi manylion Monitro Arbedion 2021-22.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
||||||||||
POLISI RHEOLI'R TRYSORLYS A STRATEGAETH 2022-23 PDF 429 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod o'r Cabinet dros Adnoddau Bolisi a Strategaeth arfaethedig Rheoli'r Trysorlys 2022/23 a fyddai'n cael eu hystyried gan y Cabinet ar 21 Chwefror 2022, ac atgoffwyd yr aelodau fod yn rhaid i'r Cyngor, o dan ofynion Côd Ymarfer diwygiedig CIPFA ynghylch Rheoli'r Trysorlys, feddu ar Bolisi Rheoli'r Trysorlys a oedd yn manylu ar bolisïau ac amcanion ei weithgareddau o ran rheoli'r trysorlys. Fe'u hatgoffwyd hefyd fod yn rhaid i'r Cyngor gymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys yn flynyddol cyn dechrau'r flwyddyn ariannol yr oedd yn ymwneud â hi. Hefyd, dan ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2003, roedd yn ofynnol i'r Cyngor gymeradwyo ei Ddangosyddion Darbodaeth o ran Rheoli'r Trysorlys ar gyfer y flwyddyn i ddod.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Polisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2022/23 a'r atodiadau cysylltiedig.
|
||||||||||
CYNLLUN BUSNES ADRAN Y PRIF WEITHREDWR 2022/23 PDF 414 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Arweinydd, er mwyn i'r Pwyllgor ei ystyried, Gynllun Busnes Adran y Prif Weithredwr 2022-23 a oedd yn amlinellu blaenoriaethau'r adran ac yn nodi sut yr oeddent yn cefnogi'r 5 Ffordd o Weithio a 7 Nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.Nodwyd bod y cynllun yn agored i newid oherwydd effaith y pandemig a BREXIT a greodd lawer o ansicrwydd wrth gynllunio ar gyfer y dyfodol.
Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad:
· Mewn ymateb i gwestiwn ar yr Archwiliad Cyflog Cyfartal, dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad) fod asesiad effaith yn cael ei gynnal pryd bynnag yr oedd newid mewn polisi yn ymwneud â thelerau ac amodau er mwyn sicrhau nad oedd unrhyw newid yn cael effaith andwyol ar staff ar gyflogau is ac yn effeithio ar weithwyr benywaidd yn fwy na gweithwyr gwrywaidd; · Pwysleisiwyd y bu ail-ffocysu o ran Camau Gweithredu a Mesurau Allweddol o ganlyniad i'r pandemig er mwyn sicrhau bod cynllunio'r gweithlu yn rhan annatod o'r ffordd yr oedd yr Awdurdod yn gweithredu ac yn gynaliadwy. · Cyfeiriwyd at y gwaith a oedd yn cael ei wneud gydag ysgolion a cholegau chweched dosbarth i gyfleu i ddisgyblion yr ystod o swyddi a chyfleoedd gyrfa sydd ar gael gyda'r Cyngor.
Unwaith eto, gofynnwyd i'r swyddogion gyfleu i'w timau werthfawrogiad y Pwyllgor o'u gwaith yn ystod y cyfnod anodd hwn.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r Cynllun.
|
||||||||||
CYNLLUN BUSNES ADRANNOL GWASANAETHAU CORFFORAETHOL 2022-23 PDF 404 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [HYD Y CYFARFOD Am 1:00pm wrth ystyried yr eitem hon, tynnwyd sylw'r Pwyllgor at Reol Sefydlog 9 'Hyd y Cyfarfod', ac at y ffaith bod y cyfarfod wedi bod yn mynd rhagddo ers 3 awr. Felly PENDERFYNWYD bod y Rheolau Sefydlog yn cael eu rhoi o'r neilltu dros dro er mwyn gallu ystyried yr eitemau oedd yn weddill ar yr agenda.]
Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, er mwyn i'r Pwyllgor ei ystyried, Gynllun Busnes Adran y Gwasanaethau Corfforaethol 2022-23 a oedd yn amlinellu blaenoriaethau'r adran ac yn nodi sut yr oeddent yn cefnogi'r 5 Ffordd o Weithio a 7 Nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Amlinellodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol, mewn ymateb i gwestiwn, y dulliau a oedd yn cael eu cymryd i atal twyll ac arferion llwgr a oedd wedi'u cynnwys ar y Gofrestr Risg Gorfforaethol.
Unwaith eto, gofynnwyd i'r swyddogion gyfleu i'w timau werthfawrogiad y Pwyllgor o'u gwaith yn ystod y cyfnod anodd hwn.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r Cynllun.
|
||||||||||
STRATEGAETH DDIGIDOL AR GYFER YSGOLION A STRATEGAETH TECHNOLEG DDIGIDOL 2022-2025 PDF 13 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a Gwasanaethau Plant y Strategaeth Ddigidol ar gyfer Ysgolion a Strategaeth Technoleg Ddigidol 2022-2025. Roedd y strategaethau wedi'u diwygio a'u diweddaru i nodi blaenoriaethau strategol y Cyngor i ategu'r gwaith o ddarparu dysgu digidol dros y 3 blynedd nesaf, ynghyd â chyfeiriad y technolegau digidol a fyddai'n cael eu haddasu gan y Cyngor i ategu'r holl wasanaethau digidol. Sicrhawyd cyllid cyfalaf i gyflawni'r ddwy strategaeth drwy raglen gyfalaf y Cyngor a grant HWB Llywodraeth Cymru.
Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad: · Yn ystod y cyfyngiadau symud, nodwyd bod disgyblion mewn cartrefi a nodwyd bod ganddynt ryngrwyd gwael neu ddim rhyngrwyd wedi cael 'dongles' rhyngrwyd 4G drwy gyllid Llywodraeth Cymru er mwyn eu galluogi nhw i gael mynediad at waith ysgol er daeth y cynllun hwn i ben ym mis Gorffennaf 2021. Ers hynny, roedd manylion am opsiynau eraill o ran y rhyngrwyd fel Tariff Cymdeithasol BT a oedd ar gael i aelwydydd cymwys wedi'u rhannu mewn ysgolion. Cytunodd swyddogion i gadarnhau a fyddai angen i aelwydydd â chontract rhyngrwyd BT presennol ddod â'r contract hwnnw i ben cyn ymrwymo i gontract Tariff Cymdeithasol BT; · Cynghorwyd yr Aelodau i gysylltu â chlerc Corff Llywodraethu yn y lle cyntaf os oedd ganddynt unrhyw broblemau o ran defnyddio'r HWB i gael mynediad at faterion yn ymwneud â Chorff Llywodraethu yr oeddent yn gwasanaethu arno, yn benodol lle'r oeddent yn gwasanaethu ar fwy nag un corff llywodraethu; · Mewn ymateb i ymholiad, rhoddwyd gwybod i'r aelodau bod profion Adfer mewn Argyfwng wedi'u cynnal ac y byddent yn parhau.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Strategaethau.
|
||||||||||
ADRODDIAD MONITRO ABSENOLDEB SALWCH HANNER BLWYDDYN/CH2 2021/22 PDF 404 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, adroddiad a oedd yn darparu data ynghylch absenoldeb salwch ar gyfer cyfnod cronnol Chwarter 2 blwyddyn ariannol 2021/22 ynghyd â chrynodeb o'r camau gweithredu i'r Pwyllgor eu hystyried.
Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd ynghylch yr adroddiad: · Mewn ymateb i ymholiad, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y duedd ar i fyny mewn Absenoldeb Salwch ar gyfer Diwrnodau CALl a gollwyd yn ystod Chwarter 2 o ran Adrannau'r Amgylchedd, Cymunedau ac Addysg a Phlant yn adlewyrchu'r heriau a wynebwyd gan staff rheng flaen yn ystod y pandemig; · O ran y duedd ar i lawr mewn Absenoldeb Salwch ar gyfer Diwrnodau CALl a gollwyd yn ystod Chwarter 2 yn Adrannau'r Gwasanaethau Corfforaethol a'r Prif Weithredwr, ystyriwyd bod gweithio ystwyth yn ymddangos yn brif ffactor a oedd yn cyfrannu at hynny wrth i staff allu sicrhau gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith wrth barhau i gynnal y gwaith o ddarparu busnes yn gyffredinol. Roedd y cynnydd mewn gweithio ystwyth hefyd wedi gweld gostyngiad mewn absenoldeb tymor byr oherwydd mân anhwylderau ac ati gyda staff yn parhau i weithio gartref pan fyddent fel arall wedi aros i ffwrdd o'u gweithle.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
||||||||||
EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU PDF 224 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor yr adroddiad nad oedd wedi'i gyflwyno.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.
|
||||||||||
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL PDF 226 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y gallai fod angen dwyn ymlaen dyddiad y cyfarfod nesaf ar 1 Ebrill 2022.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf.
|
||||||||||
COFNODION - 14EG IONAWR 2022 PDF 223 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Ionawr 2022 yn gofnod cywir.
|