Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Rhoddodd y Cadeirydd deyrnged i'r Cynghorydd Mair Stephens, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, a fu farw'n ddiweddar.

Cafodd y Pwyllgor funud o dawelwch er cof am y Cynghorydd Stephens.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

A. Davies

 

5 - Adroddiad Perfformiad Adrannol Chwarter 2 2021/22 (1 Ebrill hyd at 30 Medi 2021)

Ei chwaer yng nghyfraith yw'r Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol.

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

 

4.

ADRODDIAD PERFFORMIAD CORFFORAETHOL CWARTER 2 - 2021/22 (1 EBRILL I 30 MEDI 2021) SY'N RHYCHWANTU'R HOLL ADRANNAU pdf eicon PDF 358 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Perfformiad Corfforaethol Chwarter 2 2021/22 (1 Ebrill hyd at 30 Medi 2021) sy'n rhychwantu pob adran.

 

Roedd yr adroddiad yn dangos cynnydd y camau a'r mesurau oedd yn gysylltiedig â'r Strategaeth Gorfforaethol a'r 13 Amcan Llesiant fel roedd ar ddiwedd Chwarter 2 - 2021/22.

 

Nodwyd bod dyletswydd gyffredinol ar yr Awdurdod i wneud trefniadau i fonitro perfformiad ac i ddangos i ddinasyddion, i aelodau ac i reoleiddwyr sut y rheolwyd perfformiad, a bod ymyriadau priodol yn cael eu gweithredu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

5.

ADRODDIAD ADRANNOL PERFFORMIAD CWARTER 2 - BLWYDDYN 2020/21 (1 EBRILL I 30 MEDI 2021) YN ARBENNIG I'R PWYLLGOR CRAFFU HWN pdf eicon PDF 435 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Perfformiad Adrannol Chwarter 2 2021/22 (1 Ebrill hyd at 30 Medi 2021) sy'n berthnasol i'r maes craffu hwn.

 

Roedd yr adroddiad yn dangos cynnydd y camau a'r mesurau oedd yn gysylltiedig â'r Strategaeth Gorfforaethol a'r 13 Amcan Llesiant fel roedd ar ddiwedd Chwarter 2 - 2021/22.

 

Nodwyd bod dyletswydd gyffredinol ar yr Awdurdod i wneud trefniadau i fonitro perfformiad ac i ddangos i ddinasyddion, i aelodau ac i reoleiddwyr sut y rheolwyd perfformiad, a bod ymyriadau priodol yn cael eu gweithredu

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd ynghylch yr adroddiad:

 

Mesurau nad ydynt yn Cydymffurfio â'r Targed

 

·       O ran ymatebion i geisiadau'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, nodwyd bod camau'n cael eu cymryd i wella cyfraddau ymateb adrannau i geisiadau am wybodaeth, ond cydnabuwyd bod y pwysau sydd ar adrannau i ddelio â materion sy'n ymwneud â Covid wedi effeithio ar ganlyniadau Chwarter 2. Roedd gwelliannau hefyd yn cael eu gwneud i systemau gweinyddol y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth. Awgrymwyd, o ystyried yr uchod, fod y geiriau 'dim yn bosibl' yn cael eu newid i 'ar y gweill’ o dan yr adran 'Camau Adferol' yn yr adroddiad ar gyfer y mesur hwn;

·       Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y data presennol yn dangos gostyngiad ymylol, ond tuedd ar i lawr, o ran absenoldeb salwch. Mewn ymateb i gwestiwn, dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl) er bod yr Awdurdod wedi'i atal rhag gofyn i weithwyr a oeddynt wedi cael brechiad rhag y ffliw, ei fod yn hyrwyddo manteision brechiadau o'r fath yn unol â pholisi brechu'r Awdurdod. Awgrymwyd y byddai'n ddefnyddiol cynnwys cyfeiriad at ganran y staff sy'n sâl ym mhob chwarter;

·       Cyfeiriwyd at y cynnydd a ragwelir yng nghostau byw a phrisiau ynni o fis Ebrill 2022 a mynegwyd pryder ynghylch a oedd gan yr Awdurdod ddigon o staff i gynorthwyo pobl a allai geisio cymorth neu'r rheiny a allai fod angen cymorth. Dywedodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol fod llwyth gwaith y staff yn cael ei fonitro'n agos a bod swyddi ychwanegol yn cael eu hysbysebu ar hyn o bryd;

·       Gofynnwyd a oedd map yn nodi pa mor gyffredin yw tlodi yn Sir Gaerfyrddin. Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Faterion Cymunedol a Gwledig fod Gr?p Trechu Tlodi'r Awdurdod yn ystyried materion yn ymwneud â thlodi gwledig a threfol a'i fod yn helpu i nodi pobl yr oedd angen cymorth ychwanegol arnynt i nodi'r gwasanaethau a'r budd-daliadau yr oedd ganddynt hawl iddynt;

·       Cytunodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol i fynd ar drywydd pryderon ynghylch oedi gan y Swyddfa Brisio o ran ceisiadau i ailasesu'r dreth gyngor;   

·       Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod data cynllunio'r gweithlu yn tynnu sylw at y ffaith fod gan yr Awdurdod weithlu sy'n heneiddio a bod prentisiaethau, ochr yn ochr â gwaith gydag ysgolion, yn cael eu hystyried yn ffordd bwysig o ddenu pobl ifanc i wasanaeth y cyngor yn ogystal â'r cynllun hyfforddai graddedig. O ran cynllunio'r gweithlu, cyfeiriwyd at yr Academi Ofal a oedd ar fin cael ei  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 7 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor yr adroddiad nad oedd wedi'i gyflwyno.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.

 

7.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 234 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 2 Chwefror 2022.

 

 

8.

COFNODION - 10 RHAGFYR 2021 pdf eicon PDF 378 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr 2021 yn gofnod cywir.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau