Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin Davies 01267 224059
Nodyn: Nid yw'r cyfarfod yma yn cael ei we-ddarlledu.
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: |
|
"GALW I MEWN" PENDERFYNIAD GWEITHREDOL - TIR YM MHENPRYS, LLANELLI Cofnodion: Yn sgil cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 3 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf). Roedd prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r adroddiad hwn yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth a geir ynddo oherwydd byddai datgelu'r wybodaeth hon yn anfantais faterol i'r awdurdod mewn unrhyw drafodaethau dilynol â thrydydd partïon, a gallai cael effaith niweidiol ar y pwrs cyhoeddus.
Amlinellodd y Cadeirydd ddiben y cyfarfod sef ystyried cais gan y Cynghorwyr Rob James, Gary Jones, Deryk Cundy, Dot Jones, Andre McPherson a Kevin Madge, o dan ddarpariaethau Erthygl 6.7 o Gyfansoddiad y Cyngor i alw i mewn penderfyniad a wnaed gan y Bwrdd Gweithredol yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Chwefror 2021 (gweler cofnod penderfyniad 12) mewn perthynas â Thir ym Mhenprys , Llanelli, am y rhesymau canlynol: "Rydym yn ei alw i mewn gan nad ydym yn credu bod y penderfyniad yn cydymffurfio â pholisi'r cyngor ac nad yw er budd y cyhoedd". Croesawyd y Cynghorydd Rob James i'r cyfarfod ynghyd â Jason Jones, Pennaeth Adfywio a Peter Edwards, Rheolwr Prisio. Eglurodd Mr Jones gefndir yr adroddiad gwreiddiol gan gyfeirio'n benodol at bolisïau'r Cyngor a ystyriwyd ac yn dilyn hynny ymatebodd i gwestiynau gan aelodau. Gwahoddwyd y Cynghorydd Rob James i ymhelaethu ar y rhesymau dros alw'r penderfyniad i mewn. Cyfeiriodd yn benodol at y canlynol: · Nid oedd y penderfyniad yn adlewyrchu nac yn cefnogi uchelgeisiau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ac y dylai colli tir amaethyddol at ddibenion datblygu fod yn opsiwn olaf oll pan fod safleoedd tir llwyd eraill ar gael; · Nid oedd y penderfyniad yn cyd-fynd ag amcanion llesiant y Cyngor gan y byddai'n cael effaith andwyol ar amwynder yr amlosgfa gyfagos; · Nid oedd gwaredu mannau gwyrdd ar gyfer derbyniadau cyfalaf yn cyd-fynd â chynigion y Cyngor i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a dod yn awdurdod di-garbon.
Yna, atebodd y Cynghorydd James gwestiynau gan aelodau ac yn dilyn hynny, gadawodd ef, ynghyd â Jason Jones, Pennaeth Adfywio a Peter Edwards, Rheolwr Prisio, y cyfarfod. Wedyn aeth y Pwyllgor ymlaen i ystyried y cais a 'alwyd i mewn' gan gofio'r tri opsiwn sydd ar gael o dan Erthygl 6.7 o Gyfansoddiad y Cyngor. Ni chafodd cynnig i beidio â gwrthwynebu'r penderfyniad ei wneud.
PENDERFYNWYD y dylid cyfeirio'r penderfyniad yn ôl at y Bwrdd Gweithredol i'w ystyried ymhellach gan roi sylw penodol i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a'r goblygiadau ar gyfer Amlosgfa Llanelli.
|