Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Polisi ac Adnoddau - Dydd Mercher, 20fed Hydref, 2021 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd J.G Prosser.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif(au) y Cofnod

Y Math o Fuddiant

T.A.J. Davies

8 - Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 2021/22 (1 Ebrill hyd at 30 Mehefin 2021) sy'n berthnasol i'r Maes Craffu hwn.

11 - Polisi Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi a Datganiad Caethwasiaeth Fodern, Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi.

Ei chwaer yng nghyfraith yw'r Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol.

K. Madge

4 - Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf 2021/22.

Ei ferch yn gweithio i'r Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

4.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2021/22. pdf eicon PDF 245 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau Adroddiad Monitro Cyllideb Gorfforaethol yr Awdurdod ac adroddiadau adrannol y Prif Weithredwr a'r Gwasanaethau Corfforaethol fel yr oeddent ar 30 Mehefin 2021 mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2021/22. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys atodiad a oedd yn rhoi manylion Monitro Arbedion 2021/22.

 

Roedd yr adroddiad yn rhagweld y byddai tanwariant diwedd blwyddyn o £508k ar gyllideb refeniw net yr

Awdurdod ac y byddai tanwariant o £285k ar lefel adrannol. Roedd hyn yn bennaf oherwydd costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â COVID-19 ac incwm a gollwyd yn cael ei ad-dalu o dan gynllun caledi Llywodraeth Cymru.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a'r ymholiadau a godwyd ynghylch yr adroddiad:

 

·         Gofynnwyd ai'r bwriad oedd llenwi'r swyddi gwag a oedd wedi cyfrannu at yr arbedion a wnaed gan yr Awdurdod. Cadarnhawyd bod yr Awdurdod yn ceisio recriwtio o dan brosesau arferol yn amodol ar yr amgylchedd recriwtio heriol presennol. Dywedwyd bod gan yr Awdurdod tua 100 o swyddi gwag a bod ymgyrchoedd yn cael eu cynnal i hybu ceisiadau i swyddi sy'n anoddach i'w llenwi megis gofalwyr cartref.

·         Mewn ymateb i ymholiad ynghylch Marchnad Caerfyrddin, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod materion wedi'u hetifeddu yr oedd angen eu datrys ac y byddai'r farchnad yn agor cyn gynted ag y byddai popeth ar waith.

·         Cyfeiriwyd at y diffyg gofal plant. Gofynnwyd a fyddai swyddogion yn ystyried cyllid gofal plant posibl i ganiatáu i famau sengl wneud cais am y swyddi sy'n anoddach i'w llenwi. Gofynnodd y Cadeirydd i swyddogion ystyried y cyllid hwn yn ystod y cylch nesaf o bennu cyllideb.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

5.

ADRODDIAD BLYNYDDOL YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A'R DANGOSYDD DARBODAETH 2020-2021. pdf eicon PDF 226 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Blynyddol a restrai weithgareddau rheoli'r trysorlys a ddigwyddodd yn ystod 2020-2021 yn unol â Pholisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2020-2021 a fabwysiadwyd gan y Cyngor ar 3 Mawrth 2020.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r adroddiad.

6.

ADRODDIAD CHWARTEROL YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A DANGOSYDD DARBODAETH EBRILL 1AF 2021 I MEHEFIN 30AIN 2021. pdf eicon PDF 242 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Chwarterol ynghylch y Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli'r Trysorlys am y cyfnod 1 Ebrill 2021 - 30 Mehefin 2021 a oedd yn nodi gweithgareddau rheoli'r trysorlys a ddigwyddodd yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn yn unol â Pholisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2020-2021 a fabwysiadwyd gan y Cyngor ar 3 Mawrth 2021.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod buddsoddiadau'r awdurdod yn ystod y cyfnod yn dychwelyd enillion o 0.05% ar gyfartaledd, sy'n uwch na'r gyfradd LIBID 7 diwrnod. Cyfanswm y llog gros a gafwyd ar fuddsoddiadau am y cyfnod oedd £19k a'r llog a dalwyd ar fenthyciadau oedd £0.92m.

 

Nid oedd yr Awdurdod wedi torri unrhyw un o'i Ddangosyddion Darbodus yn ystod y cyfnod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r adroddiad.

7.

ADRODDIAD PERFFORMIAD CORFFORAETHOL CWARTER 1 2021/22 (1 EBRILL I 30 MEHEFIN 2021) SY'N RHYCHWANTU'R HOLL ADRANNAU. pdf eicon PDF 585 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Perfformiad Corfforaethol Chwarter 1 2021/22 (1 Ebrill hyd at 30 Medi 2021) sy'n rhychwantu pob adran.

 

Dangosodd yr adroddiad hwn gynnydd ar ddiwedd Chwarter 1 - 2021/22 ar ganlyniadau (Camau Gweithredu a Mesurau) sy'n gysylltiedig â'r Strategaeth Gorfforaethol a'r 13 Amcan Llesiant.

 

Nodwyd bod dyletswydd gyffredinol ar yr Awdurdod i wneud trefniadau i fonitro perfformiad ac i ddangos i ddinasyddion, aelodau a rheoleiddwyr sut y rheolwyd perfformiad, a bod ymyriadau priodol yn cael eu gweithredu.

 

Roedd y canlynol ymhlith yr ymholiadau a godwyd ynghylch yr adroddiad:

 

·         Cyfeiriwyd at effaith Covid ar staff a'r problemau recriwtio ar gyfer yr Awdurdod. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod blaenoriaeth yn cael ei rhoi i recriwtio rolau o fewn yr Adran Gofal Cymdeithasol ac Iechyd.  Cynhaliwyd ymgyrchoedd ac roedd tîm Rheoli Aur wedi'i sefydlu i fynd i'r afael â'r materion recriwtio.

·         Mewn ymateb i bryderon a godwyd ynghylch lefelau salwch staff eglurwyd bod yr Awdurdod wedi gweld cynnydd mewn absenoldebau ers i ysgolion ailagor.  Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod yr Awdurdod yn gwneud popeth yn ei allu i gefnogi staff i gadw'n iach.  Nodwyd bod absenoldebau salwch cyffredinol wedi gostwng ond bod atgyfeiriadau i'r gwasanaeth llesiant wedi cynyddu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

8.

ADRODDIAD ADRANNOL PERFFORMIAD CWARTER 1 BLWYDDYN 2020/21 (1 EBRILL I 30 MEHEFIN 2021) YN ARBENNIG I'R PWYLLGOR CRAFFU HWN. pdf eicon PDF 568 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Perfformiad Chwarter 1 2021/22 (1 Ebrill hyd at 30 Mehefin 2021) sy'n berthnasol i'r maes craffu hwn.

 

Dangosodd yr adroddiad hwn gynnydd ar ddiwedd Chwarter 1 - 2021/22 ar ganlyniadau (Camau Gweithredu a Mesurau) sy'n gysylltiedig â'r Strategaeth Gorfforaethol a'r 13 Amcan Llesiant.

 

Nodwyd bod dyletswydd gyffredinol ar yr Awdurdod i wneud trefniadau i fonitro perfformiad ac i ddangos i ddinasyddion, aelodau a rheoleiddwyr sut y rheolwyd perfformiad, a bod ymyriadau priodol yn cael eu gweithredu

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd ynghylch yr adroddiad:

 

·         Cyfeiriwyd at y ffaith bod lefelau salwch mewn rhai ardaloedd mor uchel â 15% ac nad oedd gofalwyr wedi ymddangos am 2 ddiwrnod mewn rhai achosion. Gofynnwyd sut yr oedd hyn yn cael ei reoli fel bod pobl yn cael parhad yn y gofal. Dywedodd swyddogion nad oeddent yn ymwybodol o'r manylion gan y byddai'n dod o dan gylch gwaith y Pwyllgor Craffu - Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, ond cadarnhawyd bod 66 o absenoldebau salwch yn gysylltiedig â Covid ar hyn o bryd a 240 o absenoldebau eraill a oedd yn cynnwys straen. Rhoddwyd sicrwydd bod mecanwaith boddhaol ar waith i reoli absenoldebau staff.

·         Gofynnwyd a oedd yr Awdurdod yn gallu gweithio gyda'r Bwrdd Iechyd ar recriwtio.  Dywedodd yr Arweinydd fod yr Awdurdod yn gweithio gyda'r Bwrdd Iechyd, ond bod argyfwng recriwtio cenedlaethol.  Dywedwyd bod angen ateb mwy hirdymor a bod llythyr wedi'i anfon at Lywodraeth Cymru yn amlinellu pryder yr Awdurdod.

·         Eglurwyd bod y tîm Trawsnewid i Wneud Cynnydd (TIC) cyfan wedi'i adleoli yn ystod Covid, ond bod y tîm bellach yn ôl ar waith.  Awgrymwyd, gan nad oedd Adroddiad Blynyddol TIC wedi'i lunio, y dylid darparu adroddiad diweddaru i'r Pwyllgor Polisi ac Adnoddau fis nesaf.

·         Mynegwyd pryder ynghylch y system archebu ar-lein ar gyfer canolfannau ailgylchu ac nad oedd gan rai trigolion y gallu i ddefnyddio system ar-lein.  Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y gwasanaeth yn gwbl hygyrch gan fod preswylwyr hefyd yn gallu archebu slotiau ar y ffôn drwy'r ganolfan gyswllt.

·         Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â chyfarfodydd hybrid, dywedodd swyddogion fod offer newydd wedi'i osod yn y Siambr yn Neuadd y Sir a bod y system yn cael ei threialu ar hyn o bryd. Cadarnhawyd mai'r bwriad oedd cyflwyno'r defnydd o gyfleusterau hybrid, ond roedd y cynnydd yn nifer yr achosion Covid wedi arwain at arafu'r gwaith o gyflwyno'r cynllun gan fod diogelwch personol yn flaenoriaeth allweddol.

·         Gofynnwyd felly am y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu Gweithdai Glanaman. Cadarnhaodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod problemau gydag asbestos wedi dod i'r amlwg a oedd yn oedi gwaith, ond y gobaith oedd y gallai'r broses osod ddechrau yn gynnar y flwyddyn nesaf.

·         Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â'r cynnydd ynghylch Cynllun Twf y 10 Tref, cadarnhaodd yr Arweinydd nad oedd uchelgais yr Awdurdod wedi pylu a bod y tîm adfywio wedi penodi tri pherson ychwanegol i'r tîm.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

9.

STRATEGAETH DDIGIDOL AR GYFER YSGOLION - ADRODDIAD BLYNYDDOL 2021. pdf eicon PDF 27 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol y Strategaeth Ddigidol ar gyfer Ysgolion 2021, a gyflwynwyd gan y Dirprwy Arweinydd. Darparodd yr adroddiad cynnydd y wybodaeth ddiweddaraf am Strategaeth Ddigidol ar gyfer Ysgolion Cyngor Sir Caerfyrddin 2018-2021.    Ym mis Mai 2018, lluniodd Cyngor Sir Caerfyrddin ei Strategaeth Ddigidol ar gyfer Ysgolion gyntaf erioed a hynny ar gyfer y cyfnod 2018 - 2021. Roedd y strategaeth honno yn nodi'r weledigaeth, yn seiliedig ar yr egwyddorion cyffredinol a'r meysydd blaenoriaeth allweddol ar gyfer darparu Gwasanaethau TGCh i ysgolion ledled Sir Gaerfyrddin.  Ym mhob un o'r meysydd blaenoriaeth allweddol, cymeradwywyd nifer o brosiectau a chanlyniadau allweddol, ac mae'r Adroddiad Blynyddol yn nodi'r cynnydd a wnaed dros y 12 mis diwethaf.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd ynghylch yr adroddiad:

 

·         Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â'r heriau a wynebir gan Lywodraethwyr sy'n defnyddio'r ganolfan a diffyg hysbysiadau system, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod hwn yn fater yr oedd Llywodraeth Cymru yn ymwybodol ohono ac y byddai'n mynd i'r afael ag ef.

·         Gofynnwyd a oedd gan yr Awdurdod restr o bob plentyn nad oedd ganddo fynediad i'r rhyngrwyd. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod ysgolion yn gweithio'n agos gyda'r Adran Addysg i nodi'r disgyblion hyn er mwyn sicrhau nad oedd unrhyw ddisgyblion dan anfantais oherwydd materion fel cysylltedd. 

·         Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â chynlluniau'r dyfodol, rhoddwyd gwybod i'r pwyllgor fod strategaeth newydd yn cael ei datblygu ac y byddid yn ymgynghori â Phenaethiaid ac Aelodau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo cynnwys Strategaeth Ddigidol ar gyfer Ysgolion - Adroddiad Blynyddol 2021.

10.

POLISI BRECHU. pdf eicon PDF 290 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd bolisi brechu newydd yr Awdurdod ar gyfer ei staff i'r Pwyllgor.

 

Roedd rôl Cyngor Sir Caerfyrddin o ran helpu i gyflwyno'r rhaglen frechu wedi'i goruchwylio gan Gr?p Tactegol Brechu, a chafodd y Gr?p hwn y dasg o ddatblygu Polisi brechu ar gyfer yr Awdurdod a oedd yn nodi'n glir ymagwedd yr Awdurdod at frechu a'r materion ategol o ran y gweithlu a oedd yn gysylltiedig.

 

Datblygwyd y polisi i adlewyrchu'r newidiadau yn y canllawiau a'r rheoliadau a ddaeth gan Lywodraeth Cymru.  Trefnwyd y Polisi yn wreiddiol i'w drafod yn gynharach yn y flwyddyn ond cafodd ei ddal yn ôl wrth aros am gyngor / canllawiau cenedlaethol yn ymwneud â brechu gorfodol. Hyd yma ni wnaed penderfyniad ar y mater hwn, ac felly roedd y polisi'n annog yr holl staff yn gryf i fanteisio ar y cynnig.  Byddai'r polisi'n cael ei adolygu pan fyddai canllawiau newydd yn dod i law.

 

Roedd y canlynol ymhlith yr ymholiadau a godwyd ynghylch yr adroddiad:

 

·         Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â'r posibilrwydd o ymgyrch ar y cyd â'r Bwrdd Iechyd ynghylch y brechiad rhag y ffliw, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod gwaith ar y cyd yn cael ei wneud â'r Bwrdd Iechyd drwy gr?p tactegol brechu a oedd yn cynnwys Pennaeth Gwasanaethau Integredig yr Awdurdod.

·         Awgrymwyd y dylid newid y geiriad 'Staff sydd wedi gwrthod cael brechiad Covid 19' i 'Staff nad ydynt yn dymuno cael brechiad Covid-19'. Dywedodd swyddogion y byddent yn ystyried geiriad y frawddeg.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod yr adroddiad yn cael ei dderbyn a'i gyfeirio at y Cyngor i gael ei gymeradwyo.

11.

POLISI CYFLOGAETH FOESEGOL MEWN CADWYNI CYFLENWI A CHAETHWASIAETH FODERN, DATGANIAD CYFLOGAETH FOESEGOL MEWN CADWYNI CYFLENWI. pdf eicon PDF 423 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau y Polisi Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi a Datganiad Caethwasiaeth Fodern, Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi.

 

Cysylltodd Llywodraeth Cymru â phob Awdurdod Lleol ledled Cymru ar 9 Chwefror 2018, yn gofyn i'r Cyngor fabwysiadu'r Côd Ymarfer – Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi. Ym mis Mehefin 2018 ymrwymodd Cyngor Sir Caerfyrddin yn ffurfiol i ymuno â'r Côd a lluniwyd cynllun gweithredu gan yr Uned Caffael Corfforaethol a chydweithwyr ym maes Polisi ac Adnoddau Dynol i fwrw ymlaen â hyn. Fel rhan o'r ymrwymiad, roedd yn ofynnol i'r Awdurdod lunio polisi ysgrifenedig ar gyflogaeth foesegol o fewn yr Awdurdod a'i gadwyni cyflenwi.

 

Nodwyd bod Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) yn destun ymgynghoriad a ddaeth i ben ar 23 Ebrill 2021. Roedd y Bil arfaethedig hwn yn ceisio sicrhau bod Gwaith Teg yn cael ei gyflawni drwy Gaffael a gosod dyletswyddau ar awdurdodau contractio i archwilio opsiynau ar gyfer cyflawni gwaith teg. Y cynnig oedd edrych ar gynnwys cwestiynau ynghylch arferion gwaith teg a chyflog byw, gan gynnwys diwydrwydd dyladwy o ran cadwyni cyflenwi tramor, llais y gweithwyr a chynrychiolaeth – cydnabyddiaeth undeb, mynediad i weithwyr, cyd-fargeinio; sicrwydd a hyblygrwydd; cyfleoedd i gael mynediad at waith, i dyfu ac i gamu ymlaen; amgylchedd gwaith diogel, iach a chynhwysol; hawliau cyfreithiol yn cael eu cefnogi a'u gwireddu a chydraddoldeb ac amrywiaeth. Roedd y Bil hwn yn rhoi dyletswyddau ar awdurdodau contractio ar y cylch caffael yn ei gyfanrwydd, nid dim ond y camau "hysbyseb i ddyfarnu".

 

Rhoddwyd sylw i'r canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

·         Cyfeiriwyd at eiriad Arferion Cyflogaeth ar dudalen 135 o'r pecyn agenda.  Awgrymwyd y dylid newid y geiriad "ni ddefnyddir contractau dim oriau yn annheg'' i ''ni ddefnyddir contractau dim oriau oni bai bod y gweithiwr yn gofyn yn benodol amdanynt’’

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

11.1 derbyn y Polisi Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi yn amodol ar newid y geiriad;

11.2 derbyn Datganiad Caethwasiaeth Fodern, Cyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi blynyddol y Cyngor.

12.

COFNODION BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS (PSB) SIR GÂR - MAI & GORFFENNAF 2021. pdf eicon PDF 383 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Phartneriaeth gofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin a gynhaliwyd ar 4 Mai 2021 a 15 Gorffennaf, 2021.

 

Roedd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol bod pwyllgor craffu llywodraeth leol dynodedig yn cael ei benodi i graffu ar waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Yn Sir Gaerfyrddin, penodwyd Pwyllgor Craffu – Polisi ac Adnoddau y Cyngor fel y Pwyllgor Craffu perthnasol.

 

Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â'r mater gyda recriwtio, dywedwyd wrth y pwyllgor fod y mater yn cael ei ystyried ar y cyd â'r Bartneriaeth Sgiliau Ranbarthol.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y BGC yn ystyried cyd-leoli gwasanaethau ar draws Sir Gaerfyrddin a bod adeilad y cyngor yn Llandeilo wedi'i nodi fel lleoliad peilot posibl.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn cofnodion cyfarfodydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a gynhaliwyd ar 4 Mai 2021 a 15 Gorffennaf 2021.

13.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 224 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y byddai Adroddiad Blynyddol TIC 2021 yn cael ei newid am Adroddiad Diweddaru TIC.

 

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 10 Rhagfyr 2021.

14.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR Y 21AIN GORFFENNAF 2021. pdf eicon PDF 319 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion: