Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin Davies 01267 224059
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.
|
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNGOR SIR CAERFYRDDIN 2020/21 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd Adroddiad Blynyddol Drafft y Cyngor ar gyfer 2020/21 ynghyd ag adroddiadau manwl ynghylch yr Amcanion Llesiant perthnasol sydd o fewn maes gorchwyl y Pwyllgor, sef:
· Amcan Llesiant 5 - Mynd i'r afael â thlodi; · Amcan Llesiant 14 - Hyrwyddo'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru; · Amcan Llesiant 15 - Adeiladu Gwell Cyngor a Gwneud Gwell Defnydd o Adnoddau.
Nodwyd ei bod yn ofynnol o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) i'r Awdurdod gyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar berfformiadau blaenorol erbyn diwedd mis Hydref bob blwyddyn.
Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd ynghylch yr adroddiad:
Amcan Llesiant 5 · Mewn ymateb i sylw yn ymwneud â'r gwaharddiad ar droi allan yn ystod pandemig covid a'r disgwyliad dilynol y gallai nifer yr aelwydydd sydd mewn perygl o fod yn ddigartref fod wedi bod yn llai na'r hyn a nodwyd yn yr adroddiad. Cytunwyd y dylid gofyn i'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai roi rhagor o wybodaeth am y mater hwn a hefyd gynlluniau'r Awdurdod i adeiladu tai yn y dyfodol; · nododd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig bryder bod aelwydydd nad oeddent yn gallu elwa o fenter Dechrau'n Deg Llywodraeth Cymru gan nad oeddent mewn ardaloedd a oedd yn gymwys; · diolchwyd i'r Cyngor am ei gamau gweithredu o ran darparu parseli bwyd ac wedyn taliadau yn lle prydau ysgol am ddim; · Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhawyd bod y Grant Datblygu Disgyblion wedi'i gynnwys yn y gyllideb ar gyfer eleni. Ni chafwyd unrhyw arwydd ynghylch tynnu'r grant yn ôl yn y dyfodol, a byddai effaith hynny'n sylweddol, ac ystyriwyd mai'r unig beth y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud yn y dyfodol fyddai trosglwyddo'r grant i'r Grant Cynnal Refeniw; · Cytunodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, mewn ymateb i sylw, i wneud ymholiadau ynghylch a ellid sicrhau bod cyllid Parc Rhanbarthol y Cymoedd ar gael yn ehangach ar gyfer parciau nad oeddent yn gymwys o dan y fenter ar hyn o bryd;
Amcan Llesiant 14 · Nodwyd bod yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth eisoes wedi cytuno i wneud popeth oedd yn bosibl i sicrhau bod busnesau yn Sir Gaerfyrddin yn gallu elwa o'r ymwelwyr a ddisgwylid ar gyfer Eisteddfod yr Urdd 2023;
Amcan Llesiant 15 · cytunodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau i ganfod faint o arian a wariwyd ar gontractwyr allanol pan oedd y gwaith dros gapasiti gweithlu'r Cyngor ei hun.
Mynegwyd pryder ynghylch yr ôl-groniad o geisiadau am ddarparu palmentydd, mewn ardaloedd gwledig yn arbennig, a oedd yn effeithio ar allu pobl i gadw'n heini ac 'Heneiddio'n Dda' yng nghyd-destun yr Adroddiad Blynyddol a hefyd o ran llwybrau cerdded diogel i ysgolion. Nodwyd nad oedd hyn yn dod o fewn maes gorchwyl y Pwyllgor hwn ac awgrymwyd y dylid gofyn i'r Pwyllgor Craffu – Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd ystyried darparu palmentydd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL argymell i'r Bwrdd Gweithredol fod fersiwn ddrafft o Adroddiad Blynyddol 2020/21 yn cael ei gymeradwyo.
|
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN CYDRADDOLDEB STRATEGOL 2020-21 A CHYNLLUN GWEITHREDU 2021-24 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig Adroddiad Blynyddol y Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-21, a'r Cynllun Gweithredu ar gyfer 2021-24, a oedd yn manylu ar sut yr oedd y Cyngor wedi gweithredu ei Gynllun Cydraddoldeb Strategol ac wedi cyflawni ei ddyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Dyletswyddau Penodol Cymru.
Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd ynghylch yr adroddiad: · Mynegwyd pryder nad oedd yn ymddangos bod gan y Proffiliau Wardiau a gyrchwyd drwy wefan gorfforaethol y Cyngor y wybodaeth ddiweddaraf mewn meysydd fel nodweddion y boblogaeth, sefyllfa economaidd-gymdeithasol yn seiliedig ar feddiannaeth a math a deiliadaeth tai a bod gwybodaeth o'r fath yn hanfodol wrth geisio mynd i'r afael ag anghydraddoldeb a chefnogi cymunedau. Cytunodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig i ymchwilio ymhellach i'r mater; · Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â'r ganran lawer mwy [81%] o staff benywaidd a oedd wedi ceisio cyngor a chymorth llesiant drwy'r Ganolfan Cyngor a Chymorth Llesiant Gweithwyr o gymharu â staff gwrywaidd, awgrymwyd ei bod yn ymddangos bod dynion yn llai tebygol o geisio cymorth ond cytunodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad) i godi'r mater gyda'i dîm; · Cyfeiriwyd at y gwaith rhagorol a wnaed gan y Gr?p Gorchwyl a Gorffen Cydraddoldeb ac Amrywiaeth (Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig) ac yn arbennig y penderfyniad i godi byrddau dehongli priodol ar waelod y gofeb i Syr Thomas Picton.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL argymell i'r Bwrdd Gweithredol fod yr adroddiad yn cael ei gymeradwyo.
|
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL AR YR IAITH GYMRAEG 2020-21 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gan gyfeirio at gofnod 7 y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Hydref 2016, cyflwynodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yr Adroddiad Blynyddol mewn perthynas â'r Iaith Gymraeg a chydymffurfio â Safonau'r Gymraeg yn ystod 2020-21. Roedd yr Adroddiad wedi cael ei lunio er mwyn cydymffurfio â threfniadau monitro Comisiynydd y Gymraeg.
Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd ynghylch yr adroddiad: · Mewn ymateb i sylw ynghylch newid enwau lleoedd Cymru i'r Saesneg, dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon, Twristiaeth fod pryderon y Cyngor wedi'u cyfleu i Lywodraeth Cymru a oedd yn ystyried y mater; · Cytunodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad) i ganfod y ffigurau cofnodion iaith ar gyfer y 2460 o staff mewn ysgolion a oedd wedi'u cynnwys yn y data sgiliau iaith; · Mewn ymateb i sylw y dylai Dydd G?yl Dewi fod yn ?yl banc, dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon, Twristiaeth fod llawer o ddathliadau yn digwydd mewn ysgolion na fyddai'n digwydd fel arall pe bai'n ?yl banc. Roedd y mater yn cael ei drafod gan Lywodraeth Cymru.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL argymell i'r Bwrdd Gweithredol fod yr Adroddiad Blynyddol ynghylch yr Iaith Gymraeg 2020-21 yn cael ei gymeradwyo.
|
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL STRATEGAETH TRAWSNEWID DIGIDOL A STRATEGAETH TECHNOLEG DDIGIDOL 2021 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd Adroddiad Blynyddol Strategaeth Trawsnewid Digidol a Strategaeth Technoleg Ddigidol 2021 yn unol â'r ymrwymiadau a nodir yn Strategaeth Trawsnewid Digidol 2017-2020, a gymeradwywyd gan y Bwrdd Gweithredol ym mis Mai 2017, a Strategaeth Trawsnewid Digidol 2018-2021, a gymeradwywyd gan y Bwrdd Gweithredol ym mis Mai 2018. Roedd y ddwy strategaeth yn cynnwys ymrwymiad i lunio adroddiad blynyddol.
Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd ynghylch yr adroddiad: · O ran trosglwyddo i wasanaethau Cwmwl, a mwy o ddibyniaeth arnynt, rhoddodd y Pennaeth TGCh a Pholisi Corfforaethol sicrwydd bod cynllun Adfer mewn Argyfwng manwl iawn ar gyfer seilwaith yr Awdurdod a bod profion yn cael eu cynnal yn rheolaidd; · Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd y Pennaeth TGCh a Pholisi Corfforaethol, ar ôl mabwysiadu'r Polisi Dewch â'ch Dyfais Eich Hun, y gallai aelodau bellach osod Outlook ar eu dyfeisiau eu hunain i gael mynediad at nodweddion fel eu mewnflwch cyngor a'r dyddiadur; · Sicrhawyd yr Aelodau bod gan holl ysgolion Sir Gaerfyrddin gysylltedd rhagorol a bod cyllid wedi'i ddarparu i sicrhau bod ganddynt y dyfeisiau a'r offer TG angenrheidiol; · cytunodd y Pennaeth TGCh a Pholisi Corfforaethol i ganfod y rheswm pam, yng Nghymru rhwng 2018 a 2020, y bu gostyngiad yng nghanran yr aelwydydd a allai gael mynediad at y rhyngrwyd o 89% i 88%; · cytunodd y Pennaeth TGCh a Pholisi Corfforaethol i ymchwilio ymhellach i bryder ynghylch yr ôl-groniad o geisiadau am gyllid sy'n aros i'r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon eu cymeradwyo er mwyn gallu darparu band eang cyflym iawn i gymunedau lle'r oedd ei angen; · O ran mynediad at wasanaethau gan bobl a oedd â mynediad digidol cyfyngedig, rhoddwyd gwybod i'r aelodau y gellid cael gafael ar wasanaethau'r Cyngor hefyd yng Nghanolfannau Hwb y Cyngor mewn canol trefi a thros y ffôn; · Dywedodd y Dirprwy Arweinydd, mewn ymateb i bryder, fod y Gr?p Llywodraethu Corfforaethol eisoes yn ymwybodol o'r anghydraddoldebau a allai gynyddu rhwng y rhai a oedd â mynediad at TG a'r rhai sydd heb fynediad; · cytunodd y Pennaeth TGCh a Pholisi Corfforaethol i ddosbarthu manylion y cynllun talebau i gefnogi cymunedau gwledig lle y bo'n bosibl i gynyddu cysylltedd digidol; · dywedodd y Pennaeth TGCh a Pholisi Corfforaethol, mewn ymateb i sylw, fod deialog gyda'r Bwrdd Iechyd yn parhau o ran rhannu data a fyddai o fudd arbennig i dimau integredig.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Adroddiad Blynyddol Strategaeth Trawsnewid Digidol a Strategaeth Technoleg Ddigidol 2021.
|
|
POLISI TRIN DATA PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd 'Bolisi Trin Data Personol' arfaethedig a fyddai'n cymryd lle'r 'Polisi Trin Gwybodaeth Bersonol' a'r 'Polisi a Gweithdrefn Riportio ac Ymateb i Achosion o Dorri Rheolau' yr oedd eu dyddiadau adolygu wedi mynd heibio ac roedd angen eu diweddaru i adlewyrchu newidiadau mewn arferion gwaith, defnydd o TG newydd a phenderfyniadau a chanllawiau a gyhoeddwyd gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd ynghylch yr adroddiad: · Nodwyd y byddai'r polisi'n cael ei gefnogi gan wybodaeth sy'n haws ei deall ar wefan a modiwlau e-ddysgu'r Cyngor; · Dywedodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol fod yr achosion o dorri rheolau o ran data wedi'u hadrodd i'r Gr?p Llywodraethu Corfforaethol a chafodd y cofnodion hynny eu cyflwyno i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.
PENDERFYNWYD YN UNFRDOL argymell i'r Bwrdd Gweithredol fod y Polisi Trin Data Personol yn cael ei gymeradwyo.
|
|
ADRODDIAD MONITRO ABSENOLDEB SALWCH - ADRODDIAD DIWEDD BLWYDDYN - 2020/21 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: [HYD Y CYFARFOD Am 1:00pm wrth ystyried yr eitem hon, tynnwyd sylw'r Pwyllgor at Reol Sefydlog 9 'Hyd y Cyfarfod', ac at y ffaith bod y cyfarfod wedi bod yn mynd rhagddo ers 3 awr. Felly PENDERFYNWYD bod y Rheolau Sefydlog yn cael eu rhoi o'r neilltu dros dro er mwyn gallu ystyried yr eitemau oedd yn weddill ar yr agenda.] Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd adroddiad yn darparu data monitro absenoldeb salwch ar gyfer y cyfnod cronnol sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2021 a throsolwg o'r cymorth llesiant gweithwyr a ddarperir.
Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd ynghylch yr adroddiad: · Cyfeiriwyd at y rôl ragorol a gyflawnir gan staff a oedd wedi gwirfoddoli fel hyrwyddwyr llesiant mewn adrannau i helpu i hyrwyddo mentrau llesiant a chyfeirio aelodau unigol o staff sy'n ceisio cymorth; · Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am drefniadau amrywiol a oedd wedi'u rhoi ar waith yn ystod y pandemig presennol o ran y cymorth a roddwyd i staff newydd; · Mewn ymateb i sylw, cydnabu'r Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad) fod angen adolygu pecynnau dysgu a datblygu'r Awdurdod gan fod mwy o bobl yn weithio gartref ynghyd â'r ffyrdd newydd o weithio, fel bod rheolwyr yn gallu arwain a rheoli staff o bell yn y dyfodol; · Cytunodd y Rheolwr Llesiant Gweithwyr i gynnwys nifer y staff nad ydynt yn dod i apwyntiadau yn y Ganolfan Iechyd Galwedigaethol mewn adroddiadau yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
|
|
EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor yr adroddiad "peidio â chyflwyno".
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.
|
|
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn amodol ar yr uchod, dderbyn rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 20 Hydref 2021.
|
|
DIWEDDARAF AM WEITHREDIADAU AC ATGYFEIRIADAU'R PWYLLGOR CRAFFU POLISI AC ADNODDAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYDYN UNFRYDOL nodi'r adroddiad a fanylai ar y cynnydd o ran y camau gweithredu, y ceisiadau, neu'r atgyfeiriadau oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Craffu.
|
|
COFNODION - 10FED MEHEFIN 2021 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Mehefin 2021 gan eu bod yn gywir.
|