Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Polisi ac Adnoddau - Dydd Mercher, 21ain Gorffennaf, 2021 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

 

4.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNGOR SIR CAERFYRDDIN 2020/21 pdf eicon PDF 339 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd Adroddiad Blynyddol Drafft y Cyngor ar gyfer 2020/21 ynghyd ag adroddiadau manwl ynghylch yr Amcanion Llesiant perthnasol sydd o fewn maes gorchwyl y Pwyllgor, sef:

 

·     Amcan Llesiant 5 - Mynd i'r afael â thlodi;

·     Amcan Llesiant 14 - Hyrwyddo'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru;

·    Amcan Llesiant 15 - Adeiladu Gwell Cyngor a Gwneud Gwell Defnydd o Adnoddau.

 

Nodwyd ei bod yn ofynnol o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) i'r Awdurdod gyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar berfformiadau blaenorol erbyn diwedd mis Hydref bob blwyddyn.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd ynghylch yr adroddiad:

 

Amcan Llesiant 5

·       Mewn ymateb i sylw yn ymwneud â'r gwaharddiad ar droi allan yn ystod pandemig covid a'r disgwyliad dilynol y gallai nifer yr aelwydydd sydd mewn perygl o fod yn ddigartref fod wedi bod yn llai na'r hyn a nodwyd yn yr adroddiad. Cytunwyd y dylid gofyn i'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai roi rhagor o wybodaeth am y mater hwn a hefyd gynlluniau'r Awdurdod i adeiladu tai yn y dyfodol;

·       nododd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig bryder bod aelwydydd nad oeddent yn gallu elwa o fenter Dechrau'n Deg Llywodraeth Cymru gan nad oeddent mewn ardaloedd a oedd yn gymwys;

·       diolchwyd i'r Cyngor am ei gamau gweithredu o ran darparu parseli bwyd ac wedyn taliadau yn lle prydau ysgol am ddim;

·        Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhawyd bod y Grant Datblygu Disgyblion wedi'i gynnwys yn y gyllideb ar gyfer eleni. Ni chafwyd unrhyw arwydd ynghylch tynnu'r grant yn ôl yn y dyfodol, a byddai effaith hynny'n sylweddol, ac ystyriwyd mai'r unig beth y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud yn y dyfodol fyddai trosglwyddo'r grant i'r Grant Cynnal Refeniw;

·       Cytunodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, mewn ymateb i sylw, i wneud ymholiadau ynghylch a ellid sicrhau bod cyllid Parc Rhanbarthol y Cymoedd ar gael yn ehangach ar gyfer parciau nad oeddent yn gymwys o dan y fenter ar hyn o bryd;

 

Amcan Llesiant 14

·       Nodwyd bod yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth eisoes wedi cytuno i wneud popeth oedd yn bosibl i sicrhau bod busnesau yn Sir Gaerfyrddin yn gallu elwa o'r ymwelwyr a ddisgwylid ar gyfer Eisteddfod yr Urdd 2023;

 

Amcan Llesiant 15

·       cytunodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau i ganfod faint o arian a wariwyd ar gontractwyr allanol pan oedd y gwaith dros gapasiti gweithlu'r Cyngor ei hun.

 

Mynegwyd pryder ynghylch yr ôl-groniad o geisiadau am ddarparu palmentydd, mewn ardaloedd gwledig yn arbennig, a oedd yn effeithio ar allu pobl i gadw'n heini ac 'Heneiddio'n Dda' yng nghyd-destun yr Adroddiad Blynyddol a hefyd o ran llwybrau cerdded diogel i ysgolion. Nodwyd nad oedd hyn yn dod o fewn maes gorchwyl y Pwyllgor hwn ac awgrymwyd y dylid gofyn i'r Pwyllgor Craffu – Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd ystyried darparu palmentydd. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL argymell i'r Bwrdd Gweithredol fod fersiwn ddrafft o Adroddiad Blynyddol 2020/21 yn cael ei gymeradwyo.

 

5.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN CYDRADDOLDEB STRATEGOL 2020-21 A CHYNLLUN GWEITHREDU 2021-24 pdf eicon PDF 237 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig Adroddiad Blynyddol y Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-21, a'r Cynllun Gweithredu ar gyfer 2021-24, a oedd yn manylu ar sut yr oedd y Cyngor wedi gweithredu ei Gynllun Cydraddoldeb Strategol ac wedi cyflawni ei ddyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Dyletswyddau Penodol Cymru.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd ynghylch yr adroddiad:

·       Mynegwyd pryder nad oedd yn ymddangos bod gan y Proffiliau Wardiau a gyrchwyd drwy wefan gorfforaethol y Cyngor y wybodaeth ddiweddaraf mewn meysydd fel nodweddion y boblogaeth, sefyllfa economaidd-gymdeithasol yn seiliedig ar feddiannaeth a math a deiliadaeth tai a bod gwybodaeth o'r fath yn hanfodol wrth geisio mynd i'r afael ag anghydraddoldeb a chefnogi cymunedau. Cytunodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig i ymchwilio ymhellach i'r mater;

·       Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â'r ganran lawer mwy [81%] o staff benywaidd a oedd wedi ceisio cyngor a chymorth llesiant drwy'r Ganolfan Cyngor a Chymorth Llesiant Gweithwyr o gymharu â staff gwrywaidd, awgrymwyd ei bod yn ymddangos bod dynion yn llai tebygol o geisio cymorth ond cytunodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad) i godi'r mater gyda'i dîm;

·       Cyfeiriwyd at y gwaith rhagorol a wnaed gan y Gr?p Gorchwyl a Gorffen Cydraddoldeb ac Amrywiaeth (Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig) ac yn arbennig y penderfyniad i godi byrddau dehongli priodol ar waelod y gofeb i Syr Thomas Picton.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL argymell i'r Bwrdd Gweithredol fod yr adroddiad yn cael ei gymeradwyo.

 

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL AR YR IAITH GYMRAEG 2020-21 pdf eicon PDF 242 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gan gyfeirio at gofnod 7 y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5  Hydref 2016, cyflwynodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yr Adroddiad Blynyddol mewn perthynas â'r Iaith Gymraeg a chydymffurfio â Safonau'r Gymraeg yn ystod 2020-21. Roedd yr Adroddiad wedi cael ei lunio er mwyn cydymffurfio â threfniadau monitro Comisiynydd y Gymraeg.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd ynghylch yr adroddiad:

·       Mewn ymateb i sylw ynghylch newid enwau lleoedd Cymru i'r Saesneg, dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon, Twristiaeth fod pryderon y Cyngor wedi'u cyfleu i Lywodraeth Cymru a oedd yn ystyried y mater;

·       Cytunodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad) i ganfod y ffigurau cofnodion iaith ar gyfer y 2460 o staff mewn ysgolion a oedd wedi'u cynnwys yn y data sgiliau iaith;

·       Mewn ymateb i sylw y dylai Dydd G?yl Dewi fod yn ?yl banc, dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon, Twristiaeth fod llawer o ddathliadau yn digwydd mewn ysgolion na fyddai'n digwydd fel arall pe bai'n ?yl banc. Roedd y mater yn cael ei drafod gan Lywodraeth Cymru.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL argymell i'r Bwrdd Gweithredol fod yr Adroddiad Blynyddol ynghylch yr Iaith Gymraeg 2020-21 yn cael ei gymeradwyo.

 

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL STRATEGAETH TRAWSNEWID DIGIDOL A STRATEGAETH TECHNOLEG DDIGIDOL 2021 pdf eicon PDF 212 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd Adroddiad Blynyddol Strategaeth Trawsnewid Digidol a Strategaeth Technoleg Ddigidol 2021 yn unol â'r ymrwymiadau a nodir yn Strategaeth Trawsnewid Digidol 2017-2020, a gymeradwywyd gan y Bwrdd Gweithredol ym mis Mai 2017, a Strategaeth Trawsnewid Digidol 2018-2021, a gymeradwywyd gan y Bwrdd Gweithredol ym mis Mai 2018. Roedd y ddwy strategaeth yn cynnwys ymrwymiad i lunio adroddiad blynyddol.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd ynghylch yr adroddiad:

·       O ran trosglwyddo i wasanaethau Cwmwl, a mwy o ddibyniaeth arnynt, rhoddodd y Pennaeth TGCh a Pholisi Corfforaethol sicrwydd bod cynllun Adfer mewn Argyfwng manwl iawn ar gyfer seilwaith yr Awdurdod a bod profion yn cael eu cynnal yn rheolaidd;

·       Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd y Pennaeth TGCh a Pholisi Corfforaethol, ar ôl mabwysiadu'r Polisi Dewch â'ch Dyfais Eich Hun, y gallai aelodau bellach osod Outlook ar eu dyfeisiau eu hunain i gael mynediad at nodweddion fel eu mewnflwch cyngor a'r dyddiadur;

·       Sicrhawyd yr Aelodau bod gan holl ysgolion Sir Gaerfyrddin gysylltedd rhagorol a bod cyllid wedi'i ddarparu i sicrhau bod ganddynt y dyfeisiau a'r offer TG angenrheidiol;

·       amlinellodd y Pennaeth TGCh a Pholisi Corfforaethol y cynnydd sy'n cael ei wneud o ran gwella cysylltedd â phob rhan o'r Sir a oedd yn cynnwys mentrau o fewn Bargen Ddinesig Bae Abertawe;

·       cytunodd y Pennaeth TGCh a Pholisi Corfforaethol i ganfod y rheswm pam, yng Nghymru rhwng 2018 a 2020, y bu gostyngiad yng nghanran yr aelwydydd a allai gael mynediad at y rhyngrwyd o 89% i 88%;

·       cytunodd y Pennaeth TGCh a Pholisi Corfforaethol i ymchwilio ymhellach i bryder ynghylch yr ôl-groniad o geisiadau am gyllid sy'n aros i'r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon eu cymeradwyo er mwyn gallu darparu band eang cyflym iawn i gymunedau lle'r oedd ei angen;

·       O ran mynediad at wasanaethau gan bobl a oedd â mynediad digidol cyfyngedig, rhoddwyd gwybod i'r aelodau y gellid cael gafael ar wasanaethau'r Cyngor hefyd yng Nghanolfannau Hwb y Cyngor mewn canol trefi a thros y ffôn;

·       Dywedodd y Dirprwy Arweinydd, mewn ymateb i bryder, fod y Gr?p Llywodraethu Corfforaethol eisoes yn ymwybodol o'r anghydraddoldebau a allai gynyddu rhwng y rhai a oedd â mynediad at TG a'r rhai sydd heb fynediad;

·       cytunodd y Pennaeth TGCh a Pholisi Corfforaethol i ddosbarthu manylion y cynllun talebau i gefnogi cymunedau gwledig lle y bo'n bosibl i gynyddu cysylltedd digidol;

·       dywedodd y Pennaeth TGCh a Pholisi Corfforaethol, mewn ymateb i sylw, fod deialog gyda'r Bwrdd Iechyd yn parhau o ran rhannu data a fyddai o fudd arbennig i dimau integredig.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Adroddiad Blynyddol Strategaeth Trawsnewid Digidol a Strategaeth Technoleg Ddigidol 2021.

 

 

8.

POLISI TRIN DATA PERSONOL pdf eicon PDF 252 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd 'Bolisi Trin Data Personol' arfaethedig a fyddai'n cymryd lle'r 'Polisi Trin Gwybodaeth Bersonol' a'r 'Polisi a Gweithdrefn Riportio ac Ymateb i Achosion o Dorri Rheolau' yr oedd eu dyddiadau adolygu wedi mynd heibio ac roedd angen eu diweddaru i adlewyrchu newidiadau mewn arferion gwaith, defnydd o TG newydd a phenderfyniadau a chanllawiau a gyhoeddwyd gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd ynghylch yr adroddiad:

·       Nodwyd y byddai'r polisi'n cael ei gefnogi gan wybodaeth sy'n haws ei deall ar wefan a modiwlau e-ddysgu'r Cyngor;

·       Dywedodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol fod yr achosion o dorri rheolau o ran data wedi'u hadrodd i'r Gr?p Llywodraethu Corfforaethol a chafodd y cofnodion hynny eu cyflwyno i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRDOL argymell i'r Bwrdd Gweithredol fod y Polisi Trin Data Personol yn cael ei gymeradwyo.

 

 

9.

ADRODDIAD MONITRO ABSENOLDEB SALWCH - ADRODDIAD DIWEDD BLWYDDYN - 2020/21 pdf eicon PDF 371 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[HYD Y CYFARFOD

Am 1:00pm wrth ystyried yr eitem hon, tynnwyd sylw'r Pwyllgor at Reol Sefydlog 9 'Hyd y Cyfarfod', ac at y ffaith bod y cyfarfod wedi bod yn mynd rhagddo ers 3 awr. Felly

PENDERFYNWYD bod y Rheolau Sefydlog yn cael eu rhoi o'r neilltu dros dro er mwyn gallu ystyried yr eitemau oedd yn weddill ar yr agenda.]

Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd adroddiad yn darparu data monitro absenoldeb salwch ar gyfer y cyfnod cronnol sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2021 a throsolwg o'r cymorth llesiant gweithwyr a ddarperir.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd ynghylch yr adroddiad:

·       Cyfeiriwyd at y rôl ragorol a gyflawnir gan staff a oedd wedi gwirfoddoli fel hyrwyddwyr llesiant mewn adrannau i helpu i hyrwyddo mentrau llesiant a chyfeirio aelodau unigol o staff sy'n ceisio cymorth;

·       Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am drefniadau amrywiol a oedd wedi'u rhoi ar waith yn ystod y pandemig presennol o ran y cymorth a roddwyd i staff newydd;

·       Mewn ymateb i sylw, cydnabu'r Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad) fod angen adolygu pecynnau dysgu a datblygu'r Awdurdod gan fod mwy o bobl yn weithio gartref ynghyd â'r ffyrdd newydd o weithio, fel bod rheolwyr yn gallu arwain a rheoli staff o bell yn y dyfodol; 

·       Cytunodd y Rheolwr Llesiant Gweithwyr i gynnwys nifer y staff nad ydynt yn dod i apwyntiadau yn y Ganolfan Iechyd Galwedigaethol mewn adroddiadau yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

10.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 11 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor yr adroddiad "peidio â chyflwyno".

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.

 

11.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 229 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn amodol ar yr uchod, dderbyn rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 20 Hydref 2021.

 

 

12.

DIWEDDARAF AM WEITHREDIADAU AC ATGYFEIRIADAU'R PWYLLGOR CRAFFU POLISI AC ADNODDAU pdf eicon PDF 286 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYDYN UNFRYDOL nodi'r adroddiad a fanylai ar y cynnydd o ran y camau gweithredu, y ceisiadau, neu'r atgyfeiriadau oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Craffu.

 

13.

COFNODION - 10FED MEHEFIN 2021 pdf eicon PDF 240 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Mehefin 2021 gan eu bod yn gywir.