Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd L.M Stephens, Dirprwy Arweinydd.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

K. Madge

4 - Strategaeth Gorfforaethol 2018-23 - Diweddariad Ebrill 2021;

8 - Adroddiad Monitro Absenoldeb Salwch;

Ei ferch yn gweithio i'r Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

 

4.

STRATEGAETH GORFFORAETHOL 2018/23 - DIWEDDARIAD EBRILL 2021 pdf eicon PDF 453 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynydd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig y wybodaeth ddiweddaraf am Strategaeth Gorfforaethol y Cyngor ar gyfer 2018-23, fel yr oedd ar gyfer mis Ebrill 2021.  Roedd yr adroddiad yn manylu ar y cynnydd sy'n cael ei wneud yn erbyn amcanion Llesiant y Cyngor a fabwysiadwyd ym mis Mehefin 2018, fel y'i diwygiwyd i adlewyrchu blaenoriaethau sy'n datblygu ac effaith y pandemig Coronafeirws (Covid-19), Brexit a newid yn yr hinsawdd. Bernid ei fod yn arfer da i sicrhau bod y Strategaeth Gorfforaethol yn cael ei diweddaru er mwyn sicrhau bod adnoddau yn cael eu dyrannu i flaenoriaethau. Roedd yn rhaid cyhoeddi'r Amcanion Gwella yn flynyddol hefyd yn unol â Deddf Llywodraeth Leol (Mesur Cymru 2009) a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

 

Cafwyd cyflwyniadau ategol hefyd gan Aelodau'r Bwrdd Gweithredol sef y Cynghorwyr D Jenkins (Adnoddau) a P.Hughes Griffiths (Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth) mewn perthynas â'u portffolios penodol.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

·       Yn dilyn cyfeiriad at farwolaeth ddiweddar plentyn yn Sir Benfro o ganlyniad i ymosodiad ac esgeulustod cytunodd swyddogion i ganfod pa drefniadau diogelu oedd ar waith yn Sir Gaerfyrddin o ran plant sy'n derbyn eu haddysg yn y cartref;

·       Sicrhawyd yr Aelodau bod yr holl gamau gweithredu a oedd yn y Strategaeth wedi’u cynnwys yn y gyllideb arfaethedig ar gyfer 2021/22 a oedd i'w hystyried yn ystod cyfarfod y Cyngor;

·       Mewn ymateb i sylw, dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig, er mai uchelgais y Cyngor oedd cyflawni'r holl amcanion yn y Strategaeth, y byddai'n rhaid cael rhywfaint o hyblygrwydd wrth symud ymlaen gyda blaenoriaethau o bosibl yn newid oherwydd yr ansicrwydd a gyflwynwyd gan y pandemig presennol;

·       Cyfeiriwyd at yr angen i wella trafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig gan fod y sefyllfa bresennol yn gwaethygu tlodi ac yn effeithio ar gyfleoedd cyflogaeth yn yr ardaloedd hynny ac yn golygu bod angen dibynnu ar drafnidiaeth breifat;

·       Mewn ymateb i sylw, dywedwyd wrth y Pwyllgor am yr ymdrechion parhaus i wella cysylltiad band eang ledled Sir Gaerfyrddin a oedd yn cynnwys y cynlluniau talebau presennol a oedd yn cael eu hariannu gan Lywodraeth y DU. Cytunodd y Pennaeth TGCh a Pholisi Corfforaethol i ddosbarthu manylion am yr ardaloedd hynny yn Sir Gaerfyrddin nad oedd ganddynt gysylltedd band eang ar hyn o bryd.

·       Cyfeiriwyd at yr angen i sicrhau bod yr hen reilffordd o Ddyffryn Aman i Lanelli yn cael ei chadw i sicrhau y gallai ardal Rhydaman elwa ar dwristiaeth a'r datblygiadau sy'n digwydd yn Llanelli a Bae Abertawe. Ymatebodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig drwy ddweud mai uchelgais y Bwrdd Gweithredol oedd ceisio cael cyllid, o bosibl gan Lywodraeth Cymru, i ailagor y rheilffordd gan y byddai hefyd o fudd i agenda'r Cyngor ar y newid yn yr hinsawdd. Roedd yr Aelod Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn cytuno â'r farn y byddai ailagor y rheilffordd yn hwb mawr i dwristiaeth yn yr ardal;

·       Mynegwyd siom bod ffigurau Cyfrifiad 2011 yn dangos bod  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

POLISI CWYNION CORFFORAETHOL CYNGOR SIR GÂR pdf eicon PDF 236 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig y Polisi Cwynion Corfforaethol newydd gan Gyngor Sir Caerfyrddin yr oedd yn ofynnol i'r Cyngor ei fabwysiadu yn unol â'r model a'r canllawiau a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Cwynion o dan bwerau sy'n rhan o Adran 36 o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Polisi Cwynion Corfforaethol Cyngor Sir Caerfyrddin.

 

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN CYDRADDOLDEB STRATEGOL 2019-20 A CHYNLLUN GWEITHREDU 2020-24 pdf eicon PDF 236 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig  Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2019-20, a oedd yn manylu ar sut oedd y Cyngor wedi gweithredu ei Gynllun Cydraddoldeb Strategol ac wedi cyflawni ei ddyletswyddau dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, ynghyd â'r Cynllun Gweithredu ar gyfer 2020-24.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad:

·       Mewn ymateb i gwestiwn, dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig y byddai’r adroddiad arfaethedig gan y Gr?p Gorchwyl a Gorffen BAME yn debygol o gynnwys argymhellion yn ymwneud â chodi ymwybyddiaeth mewn ysgolion o droseddau casineb, goddefgarwch, gwahaniaethu a hiliaeth;

·       cytunodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig â sylw na ddylai unrhyw blentyn fod o dan anfantais oherwydd diffyg offer TG gartref, yn enwedig ar hyn o bryd, ac ychwanegodd ei fod wedi cael sicrwydd gan y Cyfarwyddwr Addysg bod y mater yn cael sylw.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

 

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL AR YR IAITH GYMRAEG 2019-20 pdf eicon PDF 243 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yr Adroddiad Blynyddol ar yr iaith Gymraeg a chydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg yn ystod 2019-20 Roedd yr Adroddiad wedi cael ei lunio i gydymffurfio â threfniadau monitro Comisiynydd y Gymraeg.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad:

·       Dywedwyd bod angen sicrhau nad oedd pobl Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn teimlo na allent gyflwyno cais am swydd oherwydd nad oeddent yn siarad Cymraeg ac nid oedd yn glir a oedd hyn yn cael sylw yn yr Adroddiad Blynyddol. Ymatebodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth fod hwn yn fater y gellid ei ystyried fel rhan o adroddiad BAME a oedd yn cael ei lunio ar hyn o bryd dan arweinyddiaeth yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig;

·       Rhoddwyd canmoliaeth o ran dylunio ac argraffu cardiau fflach i'w defnyddio gan staff cymunedol a oedd yn gweithio yn y sector gofal.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr Adroddiad Blynyddol ynghylch yr Iaith Gymraeg 2019-20.

 

8.

ADRODDIAD MONITRO ABSENOLDEB SALWCH pdf eicon PDF 475 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig yr Adroddiad Monitro Absenoldeb Salwch a oedd yn darparu data absenoldeb ar gyfer y cyfnod cronnol yn Chwarter 2 sef blwyddyn ariannol 2020/21 ynghyd â chrynodeb o'r camau gweithredu. Nodwyd bod ffigurau absenoldeb salwch wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y cyfnod hwn o gymharu â'r un cyfnod y flwyddyn flaenorol. Fel diweddariad i'r adroddiad, dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol mai 5.67 oedd nifer cyfartalog y diwrnodau a gollwyd fesul CALl ar gyfer Chwarter 3 2020/21 o'i gymharu â 7.67 y flwyddyn flaenorol. Yn seiliedig ar y ffigurau hyn, ystyriwyd ei bod yn debygol y byddai nifer cyfartalog y diwrnodau a gollwyd fesul CALl ar ddiwedd y flwyddyn 2020/21 yn llai nag 8 o gymharu â'r ffigur o 10.78 a adroddwyd ar ddiwedd 2019/20. Ychwanegodd, er ei bod yn debygol bod y cynnydd mewn gweithio gartref yn ystod y pandemig presennol wedi cyfrannu at y gostyngiad yn lefelau absenoldeb salwch tymor byr, roedd lefel yr atgyfeiriadau i'r gwasanaeth cymorth llesiant wedi cynyddu. Yn hyn o beth, roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion ar y mentrau a ddatblygwyd gan yr Awdurdod i gefnogi staff yn ystod y pandemig.  

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad:

·       Cydnabuwyd y dylai rheolwyr allu sicrhau llesiant eu timau o bell, ac roedd unigrwydd yn fater allweddol, gan ofalu am eu llesiant eu hunain ar yr un pryd. Yn hyn o beth, roedd yr Awdurdod wedi datblygu tua 180 o hyrwyddwyr llesiant i gynorthwyo staff. Cytunodd y Pwyllgor ag awgrym y byddai'n ddefnyddiol cael Sesiwn Datblygu i'r Aelodau a oedd yn canolbwyntio ar system monitro 'ffrwd fyw' o ran absenoldeb salwch staff yn sgil Covid a oedd yn cael ei ddiweddaru bob 20 munud.

·       O ran effaith y pandemig ar hyfforddiant staff ac aelodau, dywedwyd wrth y pwyllgor bod dros 50% o'r sesiynau hyfforddi a drefnwyd wedi'u cynnal ar-lein a chafwyd adborth cadarnhaol ac roedd hyn yn debygol o gael ei ddatblygu ymhellach er bod natur rhai sesiynau yn ymwneud â rhyngweithio corfforol ac yn golygu nad oedd hyn yn bosibl e.e. codi a chario;

·       Roedd y defnydd o staff asiantaeth wedi lleihau yn ystod y pandemig a gofynnwyd i dîm TIC ymchwilio i'r gwariant ailadroddus ar staff asiantaeth;

·       Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â'r effaith ar staff a oedd wedi'u hadleoli i rolau eraill yn ystod y pandemig e.e. staff swyddfa yn cael eu trosglwyddo dros dro i weithio mewn cartrefi gofal preswyl, dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol fod yr adborth gan y staff eu hunain wedi bod yn gadarnhaol o ran cael boddhad o'r gwaith a'r ymdeimlad o falchder o allu helpu yn ystod argyfwng. Cyfeirir at yr adborth yn y fframwaith 'ffyrdd newydd o weithio' sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd a fyddai hefyd yn ystyried materion megis arwahanrwydd cymdeithasol a llesiant staff.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

8.1 dderbyn yr adroddiad;

8.2 trefnu Sesiwn Datblygu i'r Aelodau yn canolbwyntio ar system monitro ‘ffrwd fyw’ o  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 120 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor yr adroddiad "peidio â chyflwyno".

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.

 

10.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 129 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y rhestr o eitemau i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf i'w gynnal ar 29 Mawrth 2021 yn cael eu derbyn yn amodol ar ychwanegu adroddiad ar absenoldeb salwch.

 

11.

COFNODION - 3 CHWEFROR 2021 pdf eicon PDF 354 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Chwefror, 2021 yn gofnod cywir.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau