Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224029
Media
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr A.L. Fox, B.A.L. Roberts a D.T. Williams.
|
|||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATED I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig. |
|||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
[NODER: Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor ei bod, yn unol â Rheol Gweithdrefn y Cyngor 2(3), yn mynd i amrywio trefn y busnes ar yr agenda er mwyn gallu ystyried eitem 5 ar yr agenda nesaf, sef Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Perfformiad Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin yn 2020/21.] |
|||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNGOR SIR CAERFYRDDIN 2020/21 PDF 337 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedwyd wrth y Pwyllgor, yn unol â gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009, ei bod yn ofynnol i'r Awdurdod gyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar berfformiad erbyn diwedd mis Hydref bob blwyddyn, a'i bod yn ofynnol i'r Awdurdod gyhoeddi Adroddiad Blynyddol ynghylch ei Amcanion Llesiant o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Roedd fersiwn drafft o Adroddiad Blynyddol y Cyngor yn cynnwys yr Amcanion Llesiant a oedd yn berthnasol i'r Pwyllgor Craffu - Gofal Cymdeithasol ac Iechyd. Daeth yr adroddiad i'r casgliad bod 2020/21 yn flwyddyn wahanol iawn oherwydd effaith pandemig COVID-19. Roedd y mwyafrif helaeth o wasanaethau'r Cyngor wedi gorfod addasu a newid, ac roedd llawer ohonynt ar gau am gyfnodau hir o'r flwyddyn. Nododd y Pwyllgor, am y rheswm hwn, na fu'n bosibl i Adroddiad Blynyddol 2020-21 weithredu fel adroddiad cynnydd ar berfformiad blaenorol na chymharydd ag awdurdodau lleol eraill.
Roedd yr adroddiad yn rhoi sylw i'r camau y bu'n rhaid i'r Cyngor eu cymryd i gefnogi ei drigolion, ei gymunedau a'i fusnesau drwy'r pandemig. Gyda llawer o staff wedi'u hadleoli i gynorthwyo gyda'r ymateb i'r pandemig a llawer yn gweithio i helpu'r broses adfer, bu'n rhaid i flaenoriaethau'r Cyngor newid yn sylweddol i wynebu'r heriau a gyflwynwyd gan y pandemig.
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd fod yr adroddiad yn cynnwys yr ymdrech a wnaed i gefnogi trigolion a busnesau. Dywedwyd bod y pandemig wedi rhoi cyfle i'r awdurdod weithio'n agosach gyda phartneriaid a bod trigolion a busnesau wedi dod at ei gilydd i roi cymorth i'w gilydd yn y gymuned.
Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
· Mynegwyd pryder ynghylch digartrefedd yn y sir. Dywedodd Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod y galw am dai wedi cynyddu dros y 12-16 mis diwethaf. Dywedwyd bod Llywodraeth Cymru wedi newid y ddeddfwriaeth oherwydd Covid a olygai fod yn rhaid i'r awdurdod gaffael llety gwely a brecwast yn gyflym. Nodwyd y byddai'r broblem yn parhau a bod cynlluniau'n cael eu datblygu i ddelio â hyn mewn ffordd barhaus. · Diolchwyd i'r holl wirfoddolwyr ac unigolion a oedd wedi helpu yn y gymuned. Roedd y pandemig wedi amlygu pa mor bwysig ydyw bod cymunedau'n cefnogi ei gilydd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad. |
|||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried fersiwn drafft o Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch perfformiad Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin yn 2020/21. Dywedwyd wrth yr aelodau bod rheidrwydd statudol ar Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol i roi adroddiad blynyddol ar y ddarpariaeth a'r perfformiad, yn ogystal â'r cynlluniau i wella holl ystod y Gwasanaethau Cymdeithasol.
Roedd yr adroddiad yn manylu ar y cynnydd oedd wedi'i wneud o ran y meysydd yr oedd adroddiad y llynedd wedi amlygu bod angen eu gwella, gan dynnu sylw at y meysydd oedd i'w datblygu yn ystod y flwyddyn gyfredol. Roedd yn archwilio pob maes gwasanaeth o fewn Gofal Cymdeithasol gan ddangos sut y bydd yn mynd i'r afael â strategaethau, gweithredoedd, targedau a risgiau'r gwasanaeth a sut y bydd y gwasanaethau'n cael eu darparu eleni ar sail y gyllideb a gymeradwywyd. Roedd yr adroddiad hefyd yn nodi'r heriau yn sgil COVID-19 ac yn tynnu sylw at y meysydd i'w datblygu yn y flwyddyn gyfredol.
Amlinellodd yr adroddiad berfformiad y gwasanaeth yn 2020/21, ynghyd ag asesiad ynghylch y dyfodol a'r blaenoriaethau strategol ar gyfer 2021/22. Roedd yn cyd-fynd â'r Cynlluniau Busnes ar gyfer Gwasanaethau Cymunedol, ac Addysg a Gwasanaethau Plant.
Ar ôl i'r adroddiad gael ei gyhoeddi, bydd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) a Llywodraeth Cymru yn cwblhau eu dadansoddiad a'u hadolygiad o'r adroddiad. Cynhelir cyfarfod ffurfiol ag AGC ym mis Hydref er mwyn trafod eu dadansoddiad a'u cynllun arfaethedig. Yn dilyn hyn, anfonir Llythyr Blynyddol i'r Cyngor ar ddiwedd mis Tachwedd/dechrau mis Rhagfyr a fydd yn cadarnhau eu dadansoddiad a'u cynllun arolygu. Bydd cysylltiad agos rhwng y broses a Rhaglen Cymru ar gyfer Gwella ynghyd â'r Llythyr Blynyddol oddi wrth Swyddfa Archwilio Cymru.
Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol fod yr adroddiad wedi bod yn heriol i'w ysgrifennu a thynnodd sylw'r pwyllgor at yr hysbysiad statudol dyddiedig 1 Mehefin 2020 a oedd yn nodi nad oedd wedi gallu rhoi sicrwydd i'r Cyngor y gellid darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol sy'n gweithio'n iawn. Roedd y diffyg cyfarpar diogelu personol, ynghyd ag effaith y feirws ar breswylwyr mewn cartrefi gofal, staff gofal a theuluoedd, yn bryderon mawr ac nid oedd diffyg canllawiau amserol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi helpu o ran hyn. Nodwyd bod y system cartrefi gofal wedi bod oriau i ffwrdd o chwalu, gyda phedwar cartref gofal preifat yn methu â gweithredu heb ymyrraeth gan yr awdurdod.
Rhoddwyd clod i weithlu'r sector gofal am gynnal ymweliadau statudol a chyflawni'n gyson yn ystod cyfnod heriol. Crynhowyd ei bod wedi bod yn flwyddyn anodd ond y cafwyd ymateb eithriadol a chanlyniadau da o ystyried y sefyllfa.
Mynegwyd nifer o gwestiynau ac ymatebodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol iddynt. Dyma'r prif faterion:-
· Gofynnwyd beth oedd y sefyllfa bresennol o ran cartrefi gofal. Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol nad oedd unrhyw broblemau o ran cyflenwi cyfarpar diogelu personol a bod mwy na 90% o breswylwyr cartrefi gofal wedi'u brechu ddwywaith a bod tystiolaeth yn dangos bod y gweithlu a'r preswylwyr yn cael eu diogelu gan y brechiad. Nodwyd bod y gyfradd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL 2020/21 PWYLLGOR CRAFFU GOFAL CYMDEITHASOL AC IECHYD PDF 302 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor adroddiad blynyddol ynghylch ei waith yn ystod blwyddyn y cyngor 2020/21 . Roedd yr adroddiad wedi'i baratoi'n unol ag Erthygl 6.2 o Gyfansoddiad y Cyngor sy'n ei gwneud yn ofynnol i Bwyllgorau Caffael baratoi adroddiad blynyddol sy'n egluro gweithgareddau'r Pwyllgor dros y flwyddyn flaenorol.
Roedd yr adroddiad yn bwrw golwg gyffredinol ar raglen waith y Pwyllgor a'r materion allweddol a ystyriwyd yn ystod y flwyddyn. Yn ogystal, roedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth am sesiynau datblygu ac am ymweliadau safle a oedd wedi'u trefnu ar gyfer y Pwyllgor, yn ogystal â data am bresenoldeb.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Craffu - Gofal Cymdeithasol ac Iechyd 2020/21. |
|||||||
EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU PDF 10 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiadau craffu canlynol:
· Diweddariad ynghylch COVID-19 · Adroddiad Blynyddol - Diogelu · Adroddiad Monitro Cyllideb Diwedd y Flwyddyn
PENDERFYNWYD nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad. |
|||||||
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL PDF 112 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 5 Hydref 2021. |
|||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 21AIN MAI, 2021 PDF 225 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a oedd wedi'i gynnal ar 21 Mai 2021 gan eu bod yn gywir. |
Cyngor a Democratiaeth
Y Cyngor
Cynghorwyr, ACau ac ASau
- Eich Cynghorydd Sir
- Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd a'r Cynllun Deiseb
- Lwfansau a buddiannau cynghorwyr
- Cynghorwyr Tref a Chymuned
- Aelodau Senedd Cymru
- Aelodau Seneddol
- Sut mae bod yn Gynghorydd
Adrannau'r Cyngor
Dweud eich dweud
- Ymgynghoriad ar y gyllideb 2024Gyllideb
- Prif Gynllun Teithio Llesol Y Tymbl
- Strategaeth Hamdden 2023-33 ymgynghoriad cymunedol
- Polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol
- Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol
- Strategaeth Leol ar gyfer Perygl Llifogydd 2024-2030
- Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033
- Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033
- Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg
- Strategaeth Cyfleusterau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin
- Creu Sir Gaerfyrddin Ddigidol
- Holiadur Preswylwyr Sir Gâr 2023
- Ymgynghoriad ynghylch Polisi Plant sy'n Codi'n 4 Oed Ysgolion Cynradd 2025/26
Pwyllgorau a Chyfarfodydd
- Agendâu a chofnodion
- Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
- Dyddiadur y Cyngor
- Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
- Y Cabinet
- Penderfyniadau swyddogion
- Blaengynlluniau Waith
- Pwyllgor Cynllunio
- Craffu
- Pwyllgor Safonau
- Cyngor Ymgynghorol Sefydlog dros Addysg Grefyddol (CYSAG)
Strategaethau a chynlluniau
- Cynllun Cyflenwi Tai Fforddiadwy 2016 - 20
- Datganiad Gweledigaeth y Cabinet 2022 - 2027 (Gorffennaf 2022)
- Strategaeth Drawsnewid Cyngor Sir Caerfyrddin
- Polisi Diogelu Corfforaethol
- Strategaeth Ddigidol ar gyfer Ysgolion 2018 - 2021
- Strategaeth Technoleg Ddigidol 2018 - 2021
- Strategaeth Trawsnewid Digidol
- Cymorth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin 2018-23
- Gwybodaeth ddiweddaraf am wasanaeth Llyfrgelloedd - Symud ymlaen 2017 - 2025
- Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg (1)
- Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen
- Cynllun Cydraddoldeb Strategol
- Cynllun Trechu Tlodi 2023
- Strategaeth Hybu’r Gymraeg
- Safonau’r Gymraeg
- Adroddiad Blynyddol y Gymraeg
Y Cyllideb y Cyngor
Cyllideb y Cyngor
- Crynhoad Cyllideb
- Datganiad Cyfrifon
- Cronfa Bensiwn Dyfed
- Ein Rhanbarth ar Waith (ERW)
- Bargen Ddinesig Bae Abertawe
- Ffyrdd syml i arbed arian i'r Cyngor
Perfformiad y Cyngor
- Rheoli Perfformiad
- Archwiliadau, Arolygiadau ac Adroddiadau
- Y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
- Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2022-23
Hysbysiadau cyhoeddus
Canllawiau Brexit
Iaith Gymraeg
Carbon Sero-net
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cyfamod Lluoedd Arfog
Etholiadau a Phleidleisio
- Etholiadau Lleol 2022
- Pleidleisio
- Bod yn gymwys i bleidleisio
- Sut mae pleidleisio?
- Newidiadau i bleidleisio drwy'r post a phleidleisio drwy ddirprwy
- Cofrestru i bleidleisio
- Diweddaru eich manylion ar y Gofrestr Etholiadol
- Diweddariad blynyddol o'r gofrestr pleidleiswyr
- Sut i optio allan o'r gofrestr agored
- Gweld y Gofrestr Etholiadol
- Is-etholiadau
- Fy Un Agosaf - Gwybodaeth etholiadol
- Etholiadau Senedd Cymru
- Etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu 2024
- Etholiad Cyffredinol Seneddol 2019
- Help i Bleidleiswyr Anabl
- Adolygiad o Ffiniau Seneddol
- Prawf Adnabod Pleidleisiwr
- Adolygiad Cymunedol 2023
- Adolygiad o Ddosbarthau Pleidleisio a Mannau Pleidleisio
- Recriwtio ar gyfer etholiadau
Mwy ynghylch Cyngor a Democratiaeth