Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr I. W Davies ac A.L Fox. 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATED I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif(au) y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Kevin Madge

4. Strategaeth Gorfforaethol 2018/23 - Diweddariad Ebrill 2021

5. Effaith Covid-19 ar Wasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion Sir Gaerfyrddin

Ei ferch yn gweithio yn y gwasanaethau gofal cymdeithasol.

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

4.

STRATEGAETH GORFFORAETHOL 2018/23 - DIWEDDARIAD EBRILL 2021 pdf eicon PDF 451 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr aelodau ystyriaeth i adrannau o Strategaeth Gorfforaethol 2018-23 wedi'i diweddaru sy'n berthnasol i faes gorchwyl y Pwyllgor Craffu – Gofal Cymdeithasol ac Iechyd.

 

Roedd y Strategaeth Gorfforaethol ddiwygiedig (a fabwysiadwyd ym mis Mehefin 2018) yn adlewyrchu'r blaenoriaethau sy'n datblygu ac effaith Covid-19, Brexit a Newid yn yr Hinsawdd.

 

Nodwyd bod 15 o Amcanion Llesiant yn flaenorol a bod y rhain bellach wedi'u lleihau i 13.

 

Tynnodd y Dirprwy Arweinydd sylw at yr 16 o heriau allweddol sy'n wynebu'r Cyngor.

 

Codwyd nifer o gwestiynau/sylwadau wrth drafod yr adroddiad.  Dyma'r prif faterion:

 

·         Mynegwyd pryder mai dim ond hanner trigolion Sir Gaerfyrddin oedd yn teimlo eu bod yn byw mewn cymunedau cydlynus. Roedd Sir Gaerfyrddin yn 5ed yng Nghymru ond mae bellach yn 14eg allan o'r 22 awdurdod lleol. Dywedodd y Dirprwy Arweinydd fod y ffigurau yn seiliedig ar ganlyniadau Arolwg Cenedlaethol Cymru 2018/19. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod gwaith sylweddol wedi'i wneud i ymgysylltu â chymunedau, gan gynnwys y gwaith gyda Chysylltwyr Cymunedol, a'r gobaith oedd y byddai canlyniadau'r arolwg mwy diweddar yn adlewyrchu hyn.

·         Gofynnwyd sut y byddai trigolion yn cael eu grymuso - "Annog cymunedau i gael eu grymuso i wella eu hamgylchiadau".   Teimlwyd bod y cam hwn i wella cydlyniant cymunedol yn amwys. Dywedodd y Dirprwy Arweinydd ei bod yn allweddol bod gan breswylwyr y wybodaeth a'r ddealltwriaeth i'w galluogi i weithio gyda'r Awdurdod. Awgrymwyd y dylid newid y geiriad i "Annog cymunedau i wella eu hamgylchiadau drwy ddarparu anogaeth a chefnogaeth gyson." Atgoffwyd y Pwyllgor mai dogfen strategaeth oedd hon ac y byddai'r cynlluniau busnes yn cynnwys mwy o fanylion.

·         Gan gyfeirio at Amcan Llesiant 9, nodwyd bod y rhagamcaniadau cyfredol yn awgrymu bod poblogaeth pobl dros 65 sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin yn tyfu ac erbyn 2030 byddai'n cynyddu 60%. Gofynnwyd beth oedd y ffigurau gwirioneddol (nid %) a beth oedd y ffactorau amlwg a oedd yn cyfrannu at y ffigurau hyn. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig y byddai ffigurau ar gael gan Daffodil (adnodd rhagfynegi poblogaeth). Oherwydd datblygiadau mewn gwyddor feddygol, mae gennym boblogaeth sy'n heneiddio, ond byddai hyn yn arwain at fwy o alw am reoli cyflyrau cronig gan gynnwys dementia.

·         Gan gyfeirio at Amcan Llesiant 7, mynegwyd pryder ynghylch effaith covid ar iechyd meddwl, dibyniaeth ar alcohol a chamddefnyddio sylweddau. Dywedodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol fod yr Awdurdod yn pryderu am yr effaith ar iechyd meddwl a'r cynnydd o ran y galw am wasanaethau.  Byddai'r paratoadau ar gyfer pennu'r gyllideb yn rhoi cyfrif am y galw hwn. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod trefniadau ar y cyd ar waith gyda'r Bwrdd Iechyd a bod tîm penodol ar waith i reoli, codi ymwybyddiaeth a gwneud gwaith ataliol.

·         Gofynnwyd sut roedd yr Awdurdod yn symud ymlaen gyda'r angen i barhau i integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod ei swydd hi a swydd y Pennaeth Gofal Cymdeithasol wedi'u hintegreiddio â gwaith y Bwrdd Iechyd.  Er bod y ddau sefydliad wedi ymrwymo i weithio  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

EFFAITH COVID-19 AR WASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL I OEDOLION SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 393 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad yn rhoi datganiad safbwynt ynghylch sut yr oedd gwasanaethau gofal cymdeithasol wedi parhau i gael eu rheoli yn ystod ail don y pandemig ac yn tynnu sylw at flaenoriaethau'r gwasanaeth yn y dyfodol.

 

Roedd yr adroddiad yn disgrifio sut y rheolodd yr Awdurdod ail don y pandemig, y gwersi a ddysgwyd, a sut roedd y gwersi hynny'n dylanwadu ar flaenoriaethau gwasanaeth y dyfodol.

 

Cadarnhaodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd fod yr Awdurdod, o safbwynt Gwasanaethau Integredig a Gofal Cymdeithasol i Oedolion, wedi parhau i gynnal busnes fel arfer cymaint ag oedd yn bosibl. Roedd yr Awdurdod wedi parhau i gynnig Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth yn unol â gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) ac wedi cynnal asesiadau gofal cymdeithasol lle bo angen.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor y bu llawer mwy o achosion mewn cartrefi gofal yn yr ail don. Bu cynnydd mewn gweithgarwch diogelu a chynnydd o ran cymhlethdod yr atgyfeiriadau.

 

Dywedodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol fod y gweithlu, yn ystod yr ail don, wedi parhau i'w rhyfeddu â'i hyblygrwydd a’i wytnwch.  Cafodd staff preswyl mewnol eu hadleoli i gefnogi cartrefi gofal y sector annibynnol lle bo angen yn ystod achosion o Covid. Mynegodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd a'r pwyllgor eu diolch am eu hymroddiad a'u gwaith rhagorol.

 

Nodwyd bod y pandemig wedi cael effaith emosiynol a seicolegol enfawr ar staff, ac na ddylid diystyru'r effaith. Rhoddwyd sicrwydd bod popeth posibl yn cael ei wneud i gefnogi staff drwy'r cyfnod heriol hwn.

 

Codwyd nifer o gwestiynau/sylwadau wrth drafod yr adroddiad. Dyma'r prif faterion:

 

·         Mynegwyd pryder ynghylch nifer y gwelyau gwag mewn cartrefi gofal a hyfywedd darparwyr cartrefi gofal.  Cydnabu'r Pennaeth Gwasanaeth Integredig fod hyn yn bryder gwirioneddol i gartrefi gofal mewnol ac allanol wrth iddynt barhau i wynebu heriau. Ar hyn o bryd roedd cyllid penodol ar gael i liniaru'r effaith economaidd ar gartrefi gofal. Nodwyd hefyd fod y sefyllfa bresennol wedi rhoi cyfle i'r Awdurdod ystyried y potensial i gynnig darparu gwasanaeth 'gofal mwy dwys' a 'gofal llai dwys'.

·         Gofynnwyd pa gynlluniau oedd ar waith i ailagor Canolfannau Dydd ac a oedd y rhestr aros ar gyfer y gwasanaeth yn uchel. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod yr Awdurdod yn aros i ganllawiau cenedlaethol gael eu cyhoeddi cyn ailagor y gwasanaeth. Tynnwyd sylw hefyd at y ffaith y byddai cadw pellter cymdeithasol yn effeithio ar lefel y gwasanaeth y byddai'r Awdurdod yn gallu ei ddarparu. Dywedwyd nad oedd rhestr aros gan nad oedd y gwasanaeth yn cael ei ddarparu a bod pecynnau cymorth amgen wedi'u darparu yn lle hynny.

·         Mynegwyd pryder ynghylch iechyd meddwl a llesiant plant a phobl ifanc. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod yr Adran Addysg a Phlant yn ymwybodol o'r effaith a'i bod yn gweithio drwy opsiynau cymorth.

·         Mynegwyd pryder ynghylch effaith gweithio drwy'r pandemig ar staff rheng flaen.  Sicrhawyd y Pwyllgor fod lles staff yn cael ei ystyried yn rhywbeth pwysig ac roedd cydnabyddiaeth pa  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

GOFALWYR DI-DÂL YN SIR GAERFYRDDIN - DATBLYGIADAU STRATEGOL, LLEOL AC SY'N GYSYLLTIEDIG Â COVID pdf eicon PDF 335 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad yn rhoi trosolwg ar y gwaith a wnaed gan Gr?p Datblygu Gofalwyr Gorllewin Cymru a chan Fwrdd Partneriaeth Strategol Sir Gaerfyrddin ar gyfer Gofalwyr yn ystod 2020/21. Roedd yr adroddiad yn manylu ar yr ystod o fentrau sydd ar waith i gefnogi gofalwyr di-dâl, gan gynnwys gwasanaethau sy'n gysylltiedig â Covid.

 

Nodwyd bod Gr?p Datblygu Gofalwyr Gorllewin Cymru, drwy ymgynghori â gofalwyr, wedi cyhoeddi Strategaeth Gofalwyr Gorllewin Cymru yn ystod 2020, a oedd wedi'i strwythuro ar sail pedair blaenoriaeth allweddol:

·         Gwella'r broses o adnabod Gofalwyr yn gynnar a hunan-adnabod ymysg Gofalwyr gan gynnwys Gofalwyr Ifanc a Gofalwyr sy'n Oedolion Ifanc

·         Sicrhau bod amrywiaeth o wasanaethau ar gael i gefnogi llesiant gofalwyr o bob oed, yn eu bywyd ochr yn ochr â gofalu

·         Cynorthwyo gofalwyr i gael mynediad i gyfleoedd addysg, hyfforddiant a chyflogaeth

·         Cefnogi gofalwyr i gael eu cynnwys yn ddigidol

 

Nododd yr adroddiad fod rôl a phwysigrwydd gofalwyr di-dâl wedi dod yn fwy amlwg yn ystod pandemig Covid. Roedd Gr?p Datblygu Gofalwyr Gorllewin Cymru wedi gweithio i sicrhau bod gofalwyr yn parhau i gael cymorth, gwybodaeth a chyngor.

 

Tynnodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd sylw at y ffaith bod tua 47,000 o ofalwyr di-dâl yng Ngorllewin Cymru yn ôl data o'r Cyfrifiad

 diwethaf, sy'n cynrychioli 12.5% o'r trigolion.  Yn ogystal â'r ffigurau hynny, roedd yn hysbys bod nifer o ofalwyr 'cudd'.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         Gofynnwyd faint o ofalwyr yn Sir Gaerfyrddin sydd wedi elwa ar y grant caledi o £300 sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru. Cadarnhaodd y Pennaeth Comisiynu Strategol fod nifer sylweddol wedi derbyn y grant.  Nid oedd yr union ffigurau wrth law ond byddent yn cael eu dosbarthu i'r pwyllgor ar ôl y cyfarfod.

·         Mynegwyd pryder ynghylch y gwahaniaeth posibl o ran y gofalwyr sy'n cael y brechiad.  Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod gofalwyr yng ngr?p blaenoriaeth 6 yn y rhaglen frechu.  Rhoddwyd sicrwydd bod y Bwrdd Iechyd wrthi'n nodi gofalwyr di-dâl ac y byddai apwyntiadau yn cael eu cynnig i ofalwyr yn ystod y mis neu ddau nesaf.

·         Gofynnwyd am eglurhad am y term Saesneg 'respitality’.  Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor mai hwn oedd y term a ddefnyddir lle'r oedd darparwyr lletygarwch yn barod i roi neu ddarparu gostyngiadau i ofalwyr di-dâl a'u teuluoedd.  Gallai hyn gynnwys gwestai; llety gwyliau neu brydau bwyd. 

·         Nododd y Pwyllgor nad oeddent wedi clywed am 'Hafan Glyd' a gofynnwyd am eglurhad ynghylch ble yr oedd y ganolfan wedi'i lleoli a sut y gallai gofalwyr gael mynediad i'r gwasanaeth. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig y byddai Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion yn gallu rhoi rhagor o fanylion.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

7.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 10 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor esboniad dros beidio â chyflwyno'r adroddiadau craffu canlynol:

 

·         Strategaeth Anableddau Dysgu

·         Cynllun Gweithredu Dementia

 

PENDERFYNWYD nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad.

 

8.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 113 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 20 Ebrill, 2021.

 

9.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 27AIN IONAWR, 2021 pdf eicon PDF 325 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau