Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr S.M. Allen, I.W. Davies, D.M. Jenkins [yr Aelod Cabinet dros Adnoddau], M.J. Lewis, J. Tremlett [yr Aelod Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol].

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif(au) y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Ken Lloyd

4. Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf 2021/22

Buddiant personol -  cysylltiad agos â rhywun sy'n ofalwr yn y Cynllun Cysylltu Bywydau.

Gollyngiad wedi'i ganiatáu gan y Pwyllgor Safonau i siarad ond nid i bleidleisio ar faterion penodol yn ymwneud â'r Cynllun Cysylltu Bywydau.

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch unrhyw chwip waharddedig.

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

4.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2021/22 pdf eicon PDF 244 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorydd K. Lloyd wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, ac arhosodd yn y cyfarfod wrth i'r Pwyllgor ei hystyried. Roedd y Cynghorydd Lloyd wedi cael gollyngiad gan y Pwyllgor Safonau i siarad ond nid i bleidleisio ar faterion penodol yn ymwneud â'r Cynllun Cysylltu Bywydau.]

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Hydref 2021, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2021/22.

 

Rhagwelid y byddai'r Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn gorwario £168k o ran y gyllideb refeniw ac y byddai -£65k o amrywiant net yn erbyn y gyllideb gyfalaf oedd wedi'i chymeradwyo ar gyfer 2021/22.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol wrth y Pwyllgor fod rhai meysydd yn dangos amrywiannau sylweddol o'u cymharu â'r gyllideb a bennwyd fis Chwefror diwethaf a bod yr amrywiannau hyn yn deillio o’r ffaith bod y pandemig yn effeithio ar weithgareddau. Sicrhawyd y Pwyllgor bod perfformiad yn parhau i gael ei fonitro a bod cyllid brys yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd orau i sicrhau bod cynifer o wasanaethau â phosibl yn cael eu darparu.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         Mynegwyd pryder bod y gyllideb yn dal i ddangos gorwariant er nad oedd llawer o wasanaethau wedi'u darparu yn ystod y pandemig.

·         Gofynnwyd am eglurhad yngl?n â'r gwariant cyfalaf ar gyfer Cartref Cynnes. 

Dywedodd swyddogion fod yr arian wedi bod yno ers dechrau'r cynllun ac y byddai'n aros yn y gyllideb gyfalaf nes bod y cytundeb prydles gyda Tai Teulu wedi'i lofnodi.

·         Gofynnwyd ai'r gostyngiad mewn pecynnau gofal cartref dau ofalwr i 18% erbyn diwedd 2021/22 o 25.4% yn 2018/19 oedd y ffordd orau ymlaen. Mynegwyd pryder y byddai hyn yn cael effaith negyddol ar unigolion a theuluoedd.

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig y byddai adolygiad cynhwysfawr yn cael ei gynnal ar y cyd â'r darparwr ac ar y cyd â'r unigolyn a'i deulu. Yn amlach na pheidio, byddai'n golygu newid syml megis defnyddio offer a fyddai'n galluogi unigolyn i fod yn fwy annibynnol yn hytrach na bod angen dau berson i roi cymorth iddo.  Dywedwyd bod yr Awdurdod yn adolygu pecynnau gofal dau ofalwr fel mater o drefn ac yn ystyried ffyrdd eraill o ddarparu'r offer cywir.  Byddai'r adolygiadau fel arfer yn cael eu harwain gan therapyddion galwedigaethol a byddai gofal dau ofalwr yn cael ei leihau dim ond pe bai'n cael ei ystyried yn ddiogel i wneud hynny.

·         Gofynnwyd am eglurhad ynghylch lleihau nifer y cleientiaid sy'n derbyn pecynnau gofal cartref am lai na 5 awr yr wythnos yn unol ag argymhellion yr Athro Bolton.

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod yr Athro Bolton yn cael ei ystyried yn arbenigwr yn ei faes a'i fod wedi ysgrifennu nifer o bapurau academaidd ynghylch egwyddorion hyrwyddo annibyniaeth.  Dywedwyd bod yr Athro Bolton wedi gweithio gydag Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd ledled Cymru, gan adolygu'r ffordd yr oedd pecynnau gofal  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2022/23 TAN 2024/25 pdf eicon PDF 242 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Strategaeth y Gyllideb Refeniw 2022/23 - 2024/25 a oedd wedi ei hystyried a'i chymeradwyo gan y Cabinet yn ei gyfarfod ar 17 Ionawr 2021.  Nodwyd hefyd fod aelodau'r Pwyllgor wedi mynychu digwyddiadau ymgynghori ar y gyllideb yn ddiweddar, a oedd yn rhoi cyfle iddynt ofyn cwestiynau a chael eglurhad ynghylch gwahanol agweddau ar y gyllideb.

 

Roedd yr adroddiad yn cyflwyno'r sefyllfa bresennol i'r Aelodau ynghylch y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2022/23, ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2024/25.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth gyllidebol fanwl ganlynol a oedd wedi'i hatodi i'r Strategaeth ac a oedd yn berthnasol i'w faes gorchwyl.

 

·         Atodiad A - Strategaeth Cyllideb Gorfforaethol 2022/23 - 2024/25

·         Atodiad A(i) – Crynodeb effeithlonrwydd ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

·         Atodiad A(ii) – Crynodeb o'r Pwysau Twf ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

·         Atodiad B – Adroddiad monitro'r gyllideb ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

·         Atodiad C – Crynhoad Taliadau ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

 

Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol grynodeb o'r adroddiad.   Roedd y pwyntiau allweddol dan sylw yn cynnwys:

 

·         Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod yr adroddiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am y cynigion effeithlonrwydd diweddaraf. Roedd yn ystyried y gwaith dilysu angenrheidiol o ran y gyllideb, y wasgfa ar wasanaethau a'r setliad cyllideb dros dro a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru i Awdurdodau ar 21 Rhagfyr 2021.

·         Er bod y setliad dros dro yn uwch nag a gynlluniwyd, roedd maint y pwysau gwariant ar lefel na welwyd ei thebyg o'r blaen.  O ystyried hyn, byddai angen i'r Awdurdod barhau i gyflawni arbedion effeithlonrwydd drwy'r gyllideb hon a chyllideb y blynyddoedd nesaf.

·         O edrych ar Gymru gyfan, roedd y setliad dros dro llywodraeth leol wedi cynyddu 9.4% ac roedd setliad Sir Gaerfyrddin wedi cynyddu 9.2%.  Roedd y Cyllid Allanol Cyfun wedi cynyddu i £311.957 miliwn yn 2022/23.  Byddai hyn yn helpu i ddarparu ar gyfer ffactorau chwyddiant, demograffeg a newidiadau i'r galw am wasanaethau, yn enwedig o ran gofal cymdeithasol.

·         Roedd Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi manylion Grantiau Gwasanaethau Penodol ochr yn ochr â'r setliad dros dro ar 21 Rhagfyr 2021 ar lefel Cymru gyfan.  Roedd yn bryder bod llawer wedi aros ar lefel debyg i flynyddoedd blaenorol o ystyried effaith dyfarniadau cyflog a chwyddiant cyffredinol.

·         Dywedwyd na fyddai'r setliad terfynol yn cael ei gyhoeddi tan 1 Mawrth 2022.

·         Roedd llythyr y Gweinidog a ddaeth gyda'r setliad yn nodi’n glir bod Llywodraeth Cymru yn disgwyl i'r Cyngor dalu cost unrhyw ddyfarniadau cyflog yn y dyfodol o'r setliad gwell.

·         Tynnwyd sylw at y ffaith mai £3.8m oedd y gostyngiadau yn y gyllideb yr oedd eu hangen ar gyfer 2022/23 a fyddai'n sicrhau, yn seiliedig ar yr amcanestyniadau presennol, y gellid darparu gwasanaethau hanfodol o hyd.

·         Gan ystyried y setliad dros dro, y cynnydd arfaethedig yn y Dreth Gyngor y flwyddyn nesaf oedd 4.39%. 

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

·         Gofynnwyd a oedd yr adolygiad o wasanaethau trafnidiaeth yn cynnwys gwneud gwell defnydd o'r  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

CYNLLUN BUSNES ADRANNOL ADRAN CYMUNEDAU 2022/23 pdf eicon PDF 410 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn ystyried Cynllun Busnes 2022/23 yr Adran Cymunedau mewn perthynas â'r gwasanaethau hynny sydd o fewn ei faes gorchwyl:

 

·         Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel (yr elfen Cartrefi Gofal yn unig)

·         Comisiynu a Chymorth Busnes

·         Gofal Cymdeithasol i Oedolion

·         Gwasanaethau Integredig

 

Nodwyd bod effaith y pandemig a BREXIT wedi creu ansicrwydd o ran cynllunio yn y dyfodol ac y gallai'r cynllun newid.

 

Tynnodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel sylw at y ffaith bod y deuddeg mis diwethaf wedi bod yn eithriadol ar draws yr holl wasanaethau yn gyffredinol, ond ei fod yn gyfnod arbennig o unigryw ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         Mynegwyd pryder ynghylch recriwtio a chadw staff a phrinder gweithwyr cymdeithasol a gofalwyr cartref.

Ailadroddodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod cynllun 10 mlynedd yn cael ei lunio a fyddai'n canolbwyntio ar staffio ac adnoddau.  Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod gwaith eisoes wedi'i wneud o ran recriwtio a bod pob ffordd o recriwtio yn cael ei hystyried, gan gynnwys recriwtio dramor.

·         Gofynnwyd a oedd digon o adnoddau yn y timau i reoli'r gwaith ychwanegol, yn enwedig y tîm Comisiynu.

Dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod yr Adran Gomisiynu yn cael ei had-drefnu ar hyn o bryd i adlewyrchu'r newidiadau mewn comisiynu.

 

PENDERFYNWYD derbyn Cynllun Busnes Adrannol yr Adran Cymunedau 2022/23.

7.

ADOLYGIAD GORCHWYL A GORFFEN AR UNIGRWYDD YN SIR GAERFYRDDIN - ADRODDIAD DIWEDDARU pdf eicon PDF 223 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Diweddaru yr Adolygiad Gorchwyl a Gorffen ar Unigrwydd yn Sir Gaerfyrddin      

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd o ran yr argymhellion a ddeilliodd o'r Adolygiad Gorchwyl a Gorffen a gynhaliwyd yn ystod blwyddyn y cyngor 2018/19.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod y pandemig wedi arafu'r cynnydd gan mai'r flaenoriaeth oedd cynnal y gwaith o ddarparu gwasanaethau gweithredol.  Er gwaethaf hyn, gwnaed camau cadarnhaol gan gynnwys y Strwythur Gwasanaeth Integredig newydd a oedd wrthi'n cael ei gwblhau. 

 

Fel rhan o'r cynlluniau ar gyfer ad-drefnu'r Gwasanaethau Integredig, cynigiwyd bod Uwch-reolwr Atal yn cael ei benodi a fyddai'n cefnogi'r gwaith o gydgysylltu'r dull atal ar gyfer y Sir.  Yr Uwch-reolwr hwn fyddai'r arweinydd gweithredol strategol ar gyfer atal a datblygu Strategaeth Atal gyffredinol ar gyfer Sir Gaerfyrddin a byddai'n arwain y gwaith sy'n gysylltiedig â'r argymhellion gorchwyl a gorffen.  Byddai Gr?p Atal hefyd yn cael ei sefydlu yn gynnar yn 2022 a fyddai'n goruchwylio'r gwaith o ddatblygu'r Strategaeth Atal a rhoi Cynllun Gweithredu ar waith. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.  

8.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 226 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad diweddaru ynghylch Awtistiaeth.

 

PENDERFYNWYD nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad.

9.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 228 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 10 Mawrth 2022.

10.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 20FED RHAGFYR 2021 pdf eicon PDF 225 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 20 Rhagfyr 2021 gan eu bod yn gywir.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau