Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224029
Media
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr K. Davies a B.A.L. Roberts. |
|||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig. |
|||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd. |
|||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Perfformiad Chwarter 2. Roedd yr adroddiad yn dangos cynnydd y camau a'r mesurau oedd yn gysylltiedig â'r Strategaeth Gorfforaethol a'r 13 Amcan Llesiant fel roedd ar ddiwedd Chwarter 2 - 2021/22.
Nododd y Pwyllgor mai 2021/2022 oedd y flwyddyn gyntaf y byddai'r Awdurdod yn hunanarfarnu ac yn adrodd ar hynny, o dan delerau Deddf newydd Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, yn enwedig Rhan 6 o'r Ddeddf ar Berfformiad a Llywodraethu.
Tynnodd yr Aelod Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol sylw'r pwyllgor at y ddau amcan nad oeddent yn cydymffurfio â'r targed. · Amcan Llesiant 13 – Gwell Llywodraethu a Defnyddio Adnoddau yn well – roedd oedi wrth gyflwyno system eclipse hyd at fis Mawrth wedi effeithio ar y gwaith hwn. · Amcan Llesiant 07 – Helpu pobl i fyw bywydau iach – roedd cyfyngiadau covid wedi cael effaith ar y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS), ond roedd y sefyllfa wedi gwella ers i'r cyfyngiadau gael eu llacio.
Gofynnwyd nifer o gwestiynau ac ymatebodd y swyddogion iddynt. Dyma'r prif faterion:
· Mynegwyd pryder cymaint o ordewdra oedd yn bodoli ymhlith plant a sut roedd yr ymyriadau a'r cynlluniau atgyfeirio fel pe baent yn methu. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod y Cynllun Cenedlaethol i Wneud Ymarfer Corff yn rhad ac am ddim i bawb oedd yn rhan ohono. Roedd y cynllun ar gael i oedolion yn dilyn atgyfeiriad gan weithiwr proffesiynol fel meddyg teulu. Roedd y cynllun wedi'i dargedu at yr unigolion h?n a mwy bregus. Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol fod gan ysgolion fentrau amrywiol megis rhaglenni bwyta'n iach, clybiau brecwast a cherdded milltir bob dydd i helpu i leihau gordewdra ymhlith plant. · Gofynnwyd a oedd ffigurau a/neu dystiolaeth anecdotaidd ar gael ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn perthynas ag Amcan Llesiant 8 - Cefnogi cydlyniant cymunedol, cydnerthedd a diogelwch. Dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel nad oedd ganddo'r ffigurau uniongyrchol, ond byddai'r rhain yn cael eu darparu i'r pwyllgor yn ddiweddarach. Cadarnhawyd bod ceisiadau gwasanaeth o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi cynyddu ers llacio cyfyngiadau covid. Nodwyd nad oedd unrhyw broblemau o sylwedd yn Sir Gaerfyrddin, fodd bynnag, roedd y Tîm Cydlyniant Cymunedol yn monitro'r sefyllfa'n ddyddiol. · Mewn perthynas ag Amcan Llesiant 9 Cefnogi pobl h?n er mwyn iddynt heneiddio'n dda a chadw'u hurddas a'u hannibyniaeth wrth wneud hynny, gofynnwyd a oedd dulliau ar waith i fonitro a oedd pobl yn hawlio'r budd-daliadau roedd ganddynt hawl iddynt. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod Llesiant Delta yn gweithio gydag unigolion ac yn eu cyfeirio at yr asiantaethau perthnasol i gael cyngor ar fudd-daliadau. · Mynegwyd pryder ynghylch adennill dyledion sy'n weddill a'r effaith byddai hyn yn ei chael ar unigolion a oedd eisoes yn dioddef caledi ariannol. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod gwasanaethau gofal cymdeithasol yn destun prawf modd er mwyn penderfynu faint y gallai unigolyn fforddio ei dalu. Rhoddwyd sicrwydd nad oedd y tâl a godwyd ar neb tu hwnt i'r paramedrau cenedlaethol, ac ar ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|||||||
EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU PDF 9 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor esboniad dros beidio â chyflwyno'r adroddiadau craffu canlynol:
· Diweddariad Iechyd Meddwl · Gwasanaethau a Chymorth i Blant a Phobl Ifanc
Mynegwyd pryder ynghylch peidio â chyflwyno'r Diweddariad Iechyd Meddwl ac ynghylch faint o adroddiadau oedd heb eu cyflwyno yn gyffredinol.
PENDERFYNWYD nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad. |
|||||||
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL PDF 107 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 26 Ionawr 2022. |
|||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 29AIN TACHWEDD, 2021 PDF 226 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 29ain Tachwedd, 2021 gan eu bod yn gywir. |
Cyngor a Democratiaeth
Y Cyngor
Cynghorwyr, ACau ac ASau
- Eich Cynghorydd Sir
- Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd a'r Cynllun Deiseb
- Lwfansau a buddiannau cynghorwyr
- Cynghorwyr Tref a Chymuned
- Aelodau Senedd Cymru
- Aelodau Seneddol
- Sut mae bod yn Gynghorydd
Adrannau'r Cyngor
Dweud eich dweud
- Ymgynghoriad ar y gyllideb 2024Gyllideb
- Prif Gynllun Teithio Llesol Y Tymbl
- Strategaeth Hamdden 2023-33 ymgynghoriad cymunedol
- Trwyddedu Bridio Cŵn yn Sir Gaerfyrddin
- Cynnig i ffedereiddio Ysgol Rhys Prichard ac Ysgol Llangadog o 1 Medi 2024.
- Polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol
- Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol
- Strategaeth Leol ar gyfer Perygl Llifogydd 2024-2030
- Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg
- Strategaeth Cyfleusterau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin
- Creu Sir Gaerfyrddin Ddigidol
- Holiadur Preswylwyr Sir Gâr 2023
- Ymgynghoriad ynghylch Polisi Plant sy'n Codi'n 4 Oed Ysgolion Cynradd 2025/26
- Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033
- Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033
Pwyllgorau a Chyfarfodydd
- Agendâu a chofnodion
- Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
- Dyddiadur y Cyngor
- Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
- Y Cabinet
- Penderfyniadau swyddogion
- Blaengynlluniau Waith
- Pwyllgor Cynllunio
- Craffu
- Pwyllgor Safonau
- Cyngor Ymgynghorol Sefydlog dros Addysg Grefyddol (CYSAG)
Strategaethau a chynlluniau
- Cynllun Cyflenwi Tai Fforddiadwy 2016 - 20
- Datganiad Gweledigaeth y Cabinet 2022 - 2027 (Gorffennaf 2022)
- Strategaeth Drawsnewid Cyngor Sir Caerfyrddin
- Polisi Diogelu Corfforaethol
- Strategaeth Ddigidol ar gyfer Ysgolion 2018 - 2021
- Strategaeth Technoleg Ddigidol 2018 - 2021
- Strategaeth Trawsnewid Digidol
- Cymorth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin 2018-23
- Gwybodaeth ddiweddaraf am wasanaeth Llyfrgelloedd - Symud ymlaen 2017 - 2025
- Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg (1)
- Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen
- Cynllun Cydraddoldeb Strategol
- Cynllun Trechu Tlodi 2023
- Strategaeth Hybu’r Gymraeg
- Safonau’r Gymraeg
- Adroddiad Blynyddol y Gymraeg
Y Cyllideb y Cyngor
Cyllideb y Cyngor
- Crynhoad Cyllideb
- Datganiad Cyfrifon
- Cronfa Bensiwn Dyfed
- Ein Rhanbarth ar Waith (ERW)
- Bargen Ddinesig Bae Abertawe
- Ffyrdd syml i arbed arian i'r Cyngor
Perfformiad y Cyngor
- Rheoli Perfformiad
- Archwiliadau, Arolygiadau ac Adroddiadau
- Y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
- Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2022-23
Hysbysiadau cyhoeddus
Canllawiau Brexit
Iaith Gymraeg
Carbon Sero-net
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cyfamod Lluoedd Arfog
Etholiadau a Phleidleisio
- Etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu 2024
- Etholiad Cyffredinol Seneddol y Deyrnas Unedig
- Pleidleisio
- Bod yn gymwys i bleidleisio
- Sut mae pleidleisio?
- Newidiadau i bleidleisio drwy'r post a phleidleisio drwy ddirprwy
- Cofrestru i bleidleisio
- Diweddaru eich manylion ar y Gofrestr Etholiadol
- Sut i optio allan o'r gofrestr agored
- Gweld y Gofrestr Etholiadol
- Is-etholiadau
- Fy Un Agosaf - Gwybodaeth etholiadol
- Help i Bleidleiswyr Anabl
- Prawf Adnabod Pleidleisiwr
- Recriwtio ar gyfer etholiadau
Mwy ynghylch Cyngor a Democratiaeth