Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224029
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr A.L Fox, K. Madge a D.T. Williams. |
|||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATED I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig. |
|||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd. |
|||||||
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2020/21 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2020, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2020/21.
Rhagwelid y byddai'r Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn gorwario £789k o ran y gyllideb refeniw ac y byddai -£149k o amrywiant net yn erbyn y gyllideb gyfalaf oedd wedi'i chymeradwyo ar gyfer 2020/21.
Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:
· Gofynnwyd a fyddai’r gorwariant ar y gyllideb Anableddau Corfforol ac Iechyd Meddwl wedi digwydd pe na bai pandemig Covid wedi digwydd. Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau ei bod yn anodd rhagweld a fyddai wedi digwydd ond rhoddodd sicrwydd bod y gyllideb dan reolaeth. · Gofynnwyd a oedd y gorwariant amcanol wedi lleihau ers i'r adroddiad gael ei lunio. Dywedodd Cyfrifydd y Gr?p fod y cyfrifon yn dal i gael eu cwblhau, ond roedd incwm yn dod i law felly'r gobaith oedd y byddai'r sefyllfa'n gwella rhywfaint.
PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn. |
|||||||
CYNLLUN BUSNES ADRANNOL ADRAN CYMUNEDAU 2021/22 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor Gynllun Busnes 2021/22 yr Adran Cymunedau mewn perthynas â'r gwasanaethau hynny sydd o fewn ei faes gorchwyl:
· Cymorth Busnes a Chomisiynu · Gwasanaethau Integredig · Gofal Cymdeithasol i Oedolion · Cartrefi Gofal (rhan o Gartrefi a Chymunedau Mwy Diogel)
Nodwyd bod hwn yn gynllun cryno oherwydd pandemig COVID-19. Fel arfer, byddai'n cynnwys adolygiad ond roedd hwnnw eisoes wedi'i gynnwys yn yr asesiadau o effaith COVID-19 ar wasanaethau a gyflwynwyd yn flaenorol i'r Pwyllgor ym mis Ionawr a mis Mawrth.
Rhoddwyd sylw i'r materion/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
· Gofynnwyd am y wybodaeth ddiweddaraf o ran rhoi'r Trefniadau Amddiffyn Rhyddid ar waith. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod y Llywodraeth wedi gohirio rhoi'r trefniadau ar waith. Fodd bynnag, fel Awdurdod, roedd gwaith paratoi yn parhau ac roedd cynlluniau cynhwysfawr yn cael eu datblygu rhwng y tri Awdurdod a'r Bwrdd Iechyd. Rhoddwyd sicrwydd bod yr Awdurdod yn cynnal cydymffurfiaeth â'r Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid. · Mynegwyd pryder ynghylch y gwelyau gwag mewn cartrefi gofal. Dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod nifer y gwelyau gwag wedi lleihau. · Cyfeiriwyd at y rhaglen fuddsoddi arloesol ar gyfer cartrefi gofal a thai gwarchod. Dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod rhai o'r cartrefi gofal wedi dyddio a bod angen eu moderneiddio, ac mai'r bwriad oedd cael cyllid drwy'r Gronfa Gofal Integredig a Bargen Ddinesig Bae Abertawe a'i ddefnyddio i fuddsoddi mewn technoleg.
PENDERFYNWYD derbyn Cynllun Busnes Adrannol yr Adran Cymunedau 2021/22. |
|||||||
STRATEGAETH ANABLEDDAU DYSGU 2020-2025 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Strategaeth Anableddau Dysgu (2020-2025). Roedd y Pwyllgor wedi ystyried y strategaeth ddrafft o'r blaen yn ei gyfarfod ar 19 Ebrill 2018.
Nodwyd y cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu yn 2019 wrth ddatblygu'r strategaeth derfynol. Hwyluswyd y rhain gan Mencap a Phobl yn Gyntaf Sir Gaerfyrddin, gyda chymorth swyddogion y Cyngor. Rhoddodd y strategaeth llawer o wybodaeth i'r rhiant/gofalwr a'r defnyddiwr gwasanaeth am gyfeiriad pendant o ran anableddau dysgu yn Sir Gaerfyrddin.
Rhoddwyd sylw i'r materion/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
· Gofynnwyd ynghylch y cynnydd a ragwelir yn y boblogaeth ag anableddau dysgu. Dywedodd y Pennaeth Comisiynu Strategol ar y Cyd fod y ffigurau a ragwelir wedi'u nodi gan ddefnyddio'r wybodaeth ddemograffig o gronfa ddata StatsCymru a ddefnyddir ledled Cymru. · Gofynnwyd a oedd gan yr Awdurdod gynllun ar waith ar gyfer y cynnydd yn y galw ar y gwasanaethau awtistiaeth. Rhoddwyd gwybod bod Strategaeth Ranbarthol ar gyfer awtistiaeth ac y byddai'r Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion yn gallu rhoi rhagor o wybodaeth. · Mewn ymateb i sylw ynghylch y bylchau yn y gwasanaethau sydd ar gael gyda'r nos ac ar benwythnosau, dywedodd y Pennaeth Comisiynu Strategol ar y Cyd fod gwelliannau eisoes wedi'u gwneud. Yn ystod y broses ymgynghori ac ymgysylltu, roedd yn amlwg bod angen sicrhau bod cymorth ar gael pan oedd ei angen fwyaf. Roedd gwaith yn parhau i fynd i'r afael â'r anghenion hyn ac i wneud cymunedau'n fwy cynhwysol. · Mynegwyd pryder ynghylch y diffyg trafnidiaeth. Cydnabuwyd, yn anffodus, bod hyn yn broblem barhaus a bod gwaith yn parhau i gefnogi pobl i gael mynediad i wasanaethau lleol yn y gymuned. Hefyd, penodwyd hyrwyddwr trafnidiaeth a oedd yn gynrychiolydd defnyddwyr ar y Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol. · Mynegwyd pryderon ynghylch y diffyg argaeledd y gwasanaeth Ceir Cefn Gwlad mewn rhai ardaloedd. Dywedwyd efallai y gallai'r Pwyllgor gysylltu â'r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol i drafod y pryderon hyn. · Holwyd sut oedd y broses o newid taliadau uniongyrchol yn rhai mewnol yn mynd yn ei blaen. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y prosiect wedi mynd rhagddo'n dda a bod yr adborth gan y defnyddwyr gwasanaeth wedi bod yn gadarnhaol.
PENDERFYNWYD bod Strategaeth Anableddau Dysgu (2020-2025) yn cael ei derbyn. |
|||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a fanylai ar y cwynion a'r ganmoliaeth ynghylch Gofal Cymdeithasol i Oedolion, a oedd wedi dod i law ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/21. Roedd yr adroddiad yn crynhoi nifer y cwynion a'r ganmoliaeth oedd wedi dod i law ac yn cynnwys gwybodaeth am y math o g?ynion a'r maes gwasanaeth sy'n ymwneud â chwynion a chanmoliaeth.
Pwysleisiodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol fod nifer y canmoliaethau a gafwyd wedi mwy na dyblu yn ystod y cyfnod adrodd a bod nifer y cwynion wedi lleihau.
Dywedwyd, er bod nifer y cwynion wedi lleihau, ei bod yn bwysig eu cael fel bod modd dysgu gwersi.
PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn. |
|||||||
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 21 Mai 2021. |
|||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 11EG MAWRTH 2021 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 11 Mawrth 2021 gan eu bod yn gywir. |