Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Emma Bryer 01267 224029
Rhif | eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Amanda Fox, Kevin Madge a Louvain Roberts. |
|||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig. |
|||||||
CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.
|
|||||||
ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2020/21 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorydd Lloyd wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach].
Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Hydref 2020, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2020/21.
Rhagwelid y byddai'r Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn gorwario £933k o ran y gyllideb refeniw ac y byddai -£157k o amrywiant net yn erbyn y gyllideb gyfalaf oedd wedi'i chymeradwyo ar gyfer 2020/21.
Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:
· Mewn ymateb i'r defnydd o'r amrywiant cyfalaf o £157k, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol nad oedd hyn yn anarferol a chadarnhaodd nad oedd unrhyw bryderon cyfrifyddu o ran hynny. · Mynegwyd pryder y byddai'r gorwariant wedi bod yn uwch pe na bai rhai gwasanaethau wedi cau. Dywedwyd bod amgylchiadau anodd, yn anffodus, wedi cyfrannu at effaith gadarnhaol ar y gyllideb ac wrth i wasanaethau ddychwelyd byddai'n rhaid monitro hyn yn ofalus. · Gofynnwyd a fyddai gweithwyr cartrefi gofal yn derbyn ail daliad gan Lywodraeth Cymru. Dywedwyd wrth y Pwyllgor mai penderfyniad Llywodraeth Cymru oedd taliadau yn y dyfodol ond y byddai'r cwestiwn yn cael ei ofyn drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. · Dywedwyd y cafwyd cwynion bod rhai wedi bod yn gymwys i gael y taliad gofalwyr er mai dim ond awr yr oeddent wedi gweithio. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod y meini prawf cymhwysedd o ran derbyn y taliad wedi cael eu pennu gan Lywodraeth Cymru. · Gofynnwyd am eglurhad ynghylch ystyr y term 'rightsizing' yn yr adroddiad. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod hyn yn sicrhau bod y pecynnau gofal a'r cymorth a ddarperir ar y lefel gywir. · Mynegwyd pryder ynghylch argaeledd cyllid i ateb y galw cynyddol am wasanaethau Iechyd Meddwl. Dywedwyd bod y Pennaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion yn monitro'r sefyllfa'n ofalus er mwyn sicrhau bod cyllid yn cael ei ddyrannu i'r meysydd cyllideb cywir i wasanaethu'r galw cynyddol. · Mynegwyd pryder ynghylch y swyddi gwag yn y tîm Therapi Galwedigaethol a lefelau staffio yn gyffredinol. Dywedwyd wrth y Pwyllgor mai ychydig iawn o swyddi gwag oedd ar gael a bod dwy swydd wag yn y tîm Therapi Galwedigaethol wedi'u llenwi'n ddiweddar. Dywedwyd hefyd, pan ddangosir tanwariant ar ddechrau'r flwyddyn, y byddai'n aros am weddill y flwyddyn ariannol gan nad oes ôl-daliad yn deillio o gost cyflog. Dywedodd Cyfrifydd y Gr?p y gellid cynnwys gwybodaeth ychwanegol yn yr adroddiad i egluro'r sefyllfa. · Dywedwyd mai dyma'r amser i edrych ar lunio strategaeth i ddatblygu'r gweithlu. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod yr Adran Cymunedau eisoes yn datblygu strategaeth a bod rhaglenni amrywiol ar waith yn rhoi cyfleoedd i brentisiaid ennill cymwysterau wrth weithio. Roedd yr adran hefyd yn awyddus i gysylltu ag amrywiol golegau i ddatblygu cyrsiau newydd. Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd y byddai Pentre Awel hefyd yn darparu cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant ar y safle. · Gofynnwyd am y wybodaeth ddiweddaraf am Gwm Aur a ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|||||||
YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2021/22 TAN 2023/24 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: [SYLWER: Roedd y Cynghorydd Lloyd wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach].
Bu'r Pwyllgor yn ystyried Strategaeth Cyllideb Refeniw 2021/22 hyd at 2023/24 a oedd wedi cael ei hystyried gan y Bwrdd Gweithredol yn ei gyfarfod ar 18 Ionawr 2021. Nodwyd hefyd fod aelodau'r Pwyllgor wedi mynychu digwyddiadau ymgynghori ar y gyllideb yn ddiweddar, a oedd yn rhoi cyfle iddynt ofyn cwestiynau a chael eglurhad ynghylch gwahanol agweddau ar y gyllideb.
Roedd yr adroddiad yn cyflwyno'r sefyllfa bresennol i'r Aelodau ynghylch y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2021/22, ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2023/24.
Bu'r Pwyllgor yn ystyried y wybodaeth gyllidebol fanwl ganlynol a oedd wedi'i hatodi i'r Strategaeth a oedd yn berthnasol i'w faes gorchwyl.
· Atodiad A - Strategaeth Cyllideb Gorfforaethol 2021/22 - 2023/24 · Atodiad (i) – Crynodeb effeithlonrwydd ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd · Atodiad (ii) – Crynodeb o'r Pwysau Twf ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd · Atodiad B – Adroddiad monitro'r gyllideb ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd · Atodiad C – Crynhoad Taliadau ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol grynodeb o'r adroddiad. Dywedodd mai 3.8% oedd y cynnydd yn y setliad dros dro a bod y Cyllid Allanol Cyfun (AEF) wedi cynyddu i £284.820 miliwn yn 2021/22. Roedd hyn yn cynnwys £244k mewn perthynas â chyflog Athrawon.
Roedd grant y gweithlu gofal cymdeithasol wedi cynyddu o £40m i £50 miliwn ledled Cymru. Amcangyfrifwyd bod y cynnydd yn £600k ar gyfer Sir Gaerfyrddin.
Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod llythyr y Gweinidog a oedd yn cyd-fynd â'r setliad dros dro yn nodi y dylai Awdurdodau Lleol dalu unrhyw ddyfarniadau cyflog yn y dyfodol o'u cyllidebau. Dywedwyd hefyd er bod £500K wedi'i neilltuo yn y gyllideb yn benodol ar gyfer gwasanaethau Iechyd Meddwl, dywedwyd y byddai'n anodd rhagweld y galw.
Oherwydd oedi gyda ffigurau'r setliad, ni fyddai'r setliad terfynol yn cael ei gyhoeddi tan 2 Mawrth.
Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:
· Oherwydd pryderon ynghylch Iechyd Meddwl, gofynnwyd a oedd unrhyw gynllunio wedi'i wneud ar gyfer y cyfnod ar ôl Covid ac a oedd trafodaethau wedi'u cynnal gyda gwasanaethau statudol eraill a'r trydydd sector. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod y timau iechyd meddwl cymunedol wedi'u hintegreiddio'n llawn a bod seilwaith clir o ran gweithio wedi'i sefydlu drwy gydol y pandemig. Roedd gweithgorau penodol ar waith yn edrych ar y ffordd ymlaen a byddent yn llywio newidiadau i'r gwasanaethau comisiynu gan sicrhau y gellid diwallu'r angen. Dywedwyd nad oedd y trawsnewid mewn rhaglenni iechyd meddwl wedi dod i ben ond roedd cydnabyddiaeth bod y gofynion yn wahanol oherwydd y pandemig. · Gofynnwyd pa effaith allai Brexit ei chael ar y Strategaeth. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol ei bod yn rhy gynnar i fesur hyn ond y byddai effaith ar symud nwyddau yn ddirwystr a chynnydd pellach posibl mewn lefelau chwyddiant.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
|
|||||||
STRATEGAETH GORFFORAETHOL 2018/23 - DIWEDDARIAD EBRILL 2021 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedwyd wrth y Pwyllgor bod Strategaeth Gorfforaethol 2018/23 - Diweddariad Ebrill 2021 wedi'i thynnu'n ôl ac y byddai'n cael ei hystyried yn y Pwyllgor Craffu nesaf ar 11 Mawrth 2021.
|
|||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Monitro Perfformiad ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill a 30 Medi 2020, a oedd yn canolbwyntio ar y mesurydd perfformiad a oedd wedi'i gynnwys yn y Strategaeth Gorfforaethol.
Roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod yr Asesiad Effaith Cymunedol Covid-19 hanner blwyddyn wedi'i gynhyrchu i alluogi gwasanaethau i ganolbwyntio ar ddelio ag argyfyngau yn hytrach na'r camau a osodwyd yn flaenorol.
Roedd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd wedi tynnu sylw at y ffaith nad oedd y canlynol wedi cyrraedd y targed sef, gordewdra ymhlith oedolion, y cynllun atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff a'r rhaglen 16 wythnos sy’n atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff. Roedd hyn oherwydd Covid a chau'r Canolfannau Hamdden, ond y gobaith oedd y byddai'r rhain yn ailddechrau'n fuan.
Mynegwyd y sylwadau/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
· Gofynnwyd a oedd unrhyw ymchwil wedi’i wneud i'r potensial o ddarparu dosbarthiadau adsefydlu ar-lein. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod yr adran hamdden yn darparu nifer gynhwysfawr o ddosbarthiadau ymarfer corff ar-lein ond na fyddai rhai o'r rhain yn addas i bobl a oedd yn dilyn y cynllun atgyfeirio.
PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn. |
|||||||
EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor esboniad dros beidio â chyflwyno'r adroddiadau craffu canlynol:
· Cynllun Adfer Gwasanaethau Dydd i Bobl H?n · Gwasanaethau a Chymorth i Blant a Phobl Ifanc (y diweddaraf am y Fforwm Aml-asiantaeth) · Cynllun Gweithredu Dementia · Cynllun Busnes Adrannol
PENDERFYNWYD nodi'r eglurhad am beidio â chyflwyno'r adroddiad.
|
|||||||
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNWYD nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 11 Mawrth 2021.
|
|||||||
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 22AIN RHAGFYR, 2020 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 22 Rhagfyr 2020 gan eu bod yn gywir.
|