Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd - Dydd Mawrth, 22ain Rhagfyr, 2020 2.00 yp

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr A. L. Fox a K. Madge.

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATED I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch buddiannau personol na chwip waharddedig.

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

4.

AROLYGIAD AROLYGIAETH GOFAL CYMRU (AGC) O WASANAETHAU INTEGREDIG; Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM YR ARGYMHELLION SY'N DEILLIO O'R AROLYGIAD pdf eicon PDF 203 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am hynt cynllun gweithredu Cyngor Sir Caerfyrddin a ddatblygwyd yn dilyn arolygiad Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).

 

Fe wnaeth Arolygiaeth Gofal Cymru gynnal arolygiad pythefnos o wasanaethau pobl h?n yn Sir Gaerfyrddin ym mis Mai 2019 o dan y thema "Atal a Hybu Annibyniaeth”.  Cadarnhaodd yr adroddiad, a gyhoeddwyd ym mis Awst 2019, nifer o gryfderau a meysydd arferion da a ddangoswyd gan yr Awdurdod. Tynnodd yr adroddiad sylw hefyd at rai meysydd i'w gwella. O ganlyniad, datblygodd Gwasanaethau Integredig Cyngor Sir Caerfyrddin gynllun gweithredu, a ddechreuodd ym mis Gorffennaf 2019, i fynd i'r afael â meysydd lle gallai wneud gwelliannau.  Cymeradwyodd y Pwyllgor y cynllun yn ei gyfarfod ar 21 Tachwedd 2019.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wrth y Pwyllgor, er gwaethaf y pandemig, fod camau gweithredu yn parhau i gael eu rhoi ar waith a bod cynnydd da wedi'i wneud mewn perthynas â'r cynllun.  Cafwyd gwelliant o ran monitro achosion yn sgil defnyddio Eclipse (rhaglen feddalwedd newydd).  Byddai cyflwyno Eclipse ym mis Mawrth 2021 hefyd yn helpu i wella gwaith monitro achosion. 

 

Dywedwyd y byddai Arolygiaeth Gofal Cymru yn cynnal archwiliad sicrwydd yn gynnar yn 2021 i adolygu cynnydd mewn perthynas â'r cynllun yn ffurfiol.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol:

 

·         Mynegwyd pryder, oherwydd y defnydd o'r system TG ar gyfer cofnodi achosion, efallai na fydd yr Awdurdod yn clywed stori lawn y cleient. 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig mai'r hyn a oedd yn wirioneddol bwysig oedd bod y staff yn cael sgyrsiau 'beth sy'n bwysig' ac y gallai rhai aelodau o staff gael gwybod y stori'n well nag eraill.  Roedd goruchwylwyr yn gweithio gyda'r staff i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chofnodi a'i mynegi'n gywir yn y systemau.

  • Mynegwyd pryder ynghylch swyddi gwag.

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod llawer o'r swyddi gwag wedi'u llenwi a bod nifer o geisiadau'n cael eu derbyn pan hysbysebir swyddi.

·         Nodwyd bod 80% o'r staff wedi dweud bod modd rheoli'r llwyth gwaith.

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod llwythi achosion yn heriol.  Ar ddechrau'r pandemig roedd llawer o waith wedi'i ohirio ond, ers diwedd yr haf, bu mewnlifiad o atgyfeiriadau a oedd wedi cynyddu llwythi achosion. Roedd achosion yn cael eu blaenoriaethu er mwyn osgoi gorlwytho staff. Cafodd yr holl asesiadau eu llofnodi gan Uwch-reolwyr a fyddai'n sicrhau bod y lefel gywir o gymorth yn cael ei darparu a, lle bo angen, bod gwaith yn cael ei ailddosbarthu.

·         Mewn ymateb i ymholiad, eglurwyd mai Eclipse yw’r system newydd yn lle'r system reoli Care First.  Ystyriwyd bod y dyddiad gweithredu, sef 1 Mawrth 2021, yn realistig a byddai cofnodion achosion oedolion yn cael eu gweithredu yn gyntaf ac yna cofnodion achosion plant ychydig fisoedd yn ddiweddarach.

·         Dywedwyd ei bod yn aml yn anodd sicrhau pecynnau gofal yn yr ardaloedd mwy gwledig a bod yr adroddiad wedi tynnu sylw at yr angen am wasanaethau teg ar draws y sir gyfan.

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod y sefyllfa wedi bod yn wahanol dros  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 113 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 27 Ionawr, 2021.

6.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 19EG TACHWEDD, 2020 pdf eicon PDF 236 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 19 Tachwedd, 2020 gan eu bod yn gywir.

7.

PENDERFYNIADAU A WNAED pdf eicon PDF 186 KB

Dogfennau ychwanegol: