Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd - Dydd Iau, 19eg Tachwedd, 2020 10.00 yb

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod,. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Nodyn: Virtual Meeting. Members of the public can view the meeting live via the Authority's website. If you require Welsh to English simultaneous translation during the meeting please telephone 0330 336 4321 Passcode: 25283570# (For call charges contact your service provider) 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd D.T. Williams.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATED I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif(au) y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Ken Lloyd

4. Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf 2020/21.

Mae aelod agos o'r teulu yn ofalwr yn y Cynllun Cysylltu Bywydau.

Louvain Roberts

4. Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf 2020/21.

Perthynas yn weithiwr cymdeithasol i'r Awdurdod.

Kevin Madge

4. Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf 2020/21.

Ei ferch yn weithiwr cymdeithasol i'r Awdurdod.

Darren Price

5. Effaith Covid-19 ar Wasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion Sir Gaerfyrddin.

Ei fam-gu yn un o ddefnyddwyr gwasanaeth yr Awdurdod.

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

4.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2020/21 pdf eicon PDF 243 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorwyr K. Madge a B.A.L. Roberts wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach].

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31ain Awst 2020, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2020/21.

 

Rhagwelid y byddai'r Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn gorwario £898k o ran y gyllideb refeniw ac y byddai -£155k o amrywiant net yn erbyn y gyllideb gyfalaf oedd wedi'i chymeradwyo ar gyfer 2020/21.  Roedd £100K o'r swm hwn wedi'i drosglwyddo i brosiect Canolfan Hamdden Caerfyrddin yn yr Adran Cymunedau.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau wrth y Pwyllgor fod yr adroddiad yn ystyried yr arian ychwanegol a gafwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

Codwyd nifer o gwestiynau/sylwadau wrth drafod yr adroddiad. Dyma'r prif faterion:

·         Mewn ymateb i gais am ragor o wybodaeth am y £100K i Ganolfan Hamdden Caerfyrddin, cadarnhawyd mai cyllid prosiect a danwariwyd oedd hwn, a fyddai'n cael ei drosglwyddo'n ôl i Ofal Cymdeithasol.

·         Mynegwyd pryder ynghylch y swyddi gwag yn y tîm Therapi Galwedigaethol.  Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod wastad oedi o 2 – 3 mis oherwydd y broses recriwtio, ac nad oedd oedi wedi bod o ran recriwtio o achos cyfyngiadau ariannol.

·         Gofynnwyd a oedd y cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru yn ateb y galw cynyddol oedd ar wasanaethau.  Dywedwyd bod hawliadau chwarterol wedi'u cyflwyno ar gyfer gwariant cysylltiedig â Covid a bod y rhan fwyaf o'r hawliadau wedi'u talu hyd yn hyn.  Nodwyd mai dim ond £100K (a gadarnhawyd wedyn fel £184k) oedd wedi'i ystyried yn anghymwys hyd yn hyn, a bod unrhyw ymholiadau ynghylch cymhwysedd yn cael eu trafod â Llywodraeth Cymru yn rheolaidd.

·         Mewn ymateb i bryderon yngl?n ag effaith Covid ar iechyd meddwl yn y tymor hir, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod yr Awdurdod yn ymwybodol iawn o'r effaith a bod adroddiad i'w gyflwyno i'r Tîm Rheoli Corfforaethol cyn bo hir. 

·         Gofynnwyd a fyddai'r Gwasanaethau Gofal Dydd yn ailagor yn gynt na'r disgwyl bellach, gan fod brechlyn ar fin cael ei gyflwyno. Dywedwyd na fyddai'r broses o roi'r brechlyn mor syml â'r hyn oedd yn cael ei gyfleu gan y cyfryngau, a bod nifer o ffactorau i'w hystyried. Fodd bynnag, cytunwyd y byddai ailagor y Canolfannau Dydd yn flaenoriaeth pe bai'r brechlyn priodol ar gael.  Cadarnhawyd hefyd y byddai adroddiad y Canolfannau Dydd yn cael ei gyflwyno i'r Bwrdd Gweithredol ym mis Ionawr a byddai'r Pwyllgor yn gallu craffu arno.

·         Mynegwyd pryder ynghylch sut roedd yr achosion diweddar o Covid wedi cael eu rheoli yn Ysbyty Dyffryn Aman.  Rhoddwyd sicrwydd fod y sefyllfa'n cael ei rheoli a bod y gweithdrefnau cywir ar gyfer rheoli heintiau a defnyddio cyfarpar diogelu personol (PPE) yn cael eu dilyn.   

·         Mewn ymateb i gwestiynau am y rhaglen frechu, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig wrth y Pwyllgor ei bod hi'n gweithio'n agos gyda Bwrdd Iechyd Hywel Dda ac yn rhan o'r broses ynghylch sut y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

EFFAITH COVID-19 AR WASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL I OEDOLION YN SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 396 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER: Roedd y Cynghorydd D. Price wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach].

 

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn rhoi datganiad sefyllfa ynghylch effaith pandemig Covid-19 ar Ofal Cymdeithasol i Oedolion gan gynnwys Gwasanaethau Integredig a Chomisiynu.

 

Roedd yr adroddiad yn disgrifio sut y rheolodd yr Awdurdod gam cyntaf y pandemig, y gwersi a ddysgwyd, a sut roedd y gwersi hynny'n dylanwadu ar flaenoriaethau gwasanaeth y dyfodol.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd mai'r flaenoriaeth oedd parhau i roi cymorth i'r rhai oedd yn derbyn gwasanaethau a chymorth gan yr Awdurdod.  Roedd cynnal ymweliadau â Chartrefi Gofal wedi bod yn heriol, ond roedd y polisi yn sicrhau bod hawl gan deuluoedd ymweld i fod yno i'w hanwyliaid ar ddiwedd eu hoes. Roedd atebion digidol hefyd yn helpu i sicrhau bod pobl dal yn gallu cyfathrebu.

 

Codwyd nifer o gwestiynau/sylwadau wrth drafod yr adroddiad. Dyma'r prif faterion:

·         Mewn ymateb i sylw ar y defnydd o ofal annibynnol a gomisiynwyd, dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd fod rôl gan ddarpariaeth fewnol a darpariaeth sector preifat, a'i bod yn bwysig cael y cydbwysedd cywir.

·         Gofynnwyd a oedd yr Awdurdod yn ystyried profion diagnostig cyflym a fyddai'n golygu y gellid cynnal rhagor o ymweliadau â chartrefi gofal. Dywedwyd bod Llywodraeth Cymru yn cynnig treialu'r dull hwn gyda thri Awdurdod Lleol.  Dywedwyd wrth y Pwyllgor hefyd y byddai ymweliadau'n dechrau eto yr wythnos nesaf mewn cartrefi oedd heb yr haint, ac y byddent yn cael eu trefnu mewn modd oedd yn sicrhau rheolaeth gadarn ar heintiau.

·         Gofynnwyd am sicrwydd bod digon o PPE ar gael. Cadarnhaodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod cyflenwadau digonol ar gael.

·         Gofynnwyd i'r swyddogion faint oedd yr Awdurdod yn ei ddysgu gan ranbarthau eraill.  Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod yr Awdurdod yn cadw golwg ar yr hyn oedd yn digwydd yn Lloegr a rhannau eraill o Gymru. Roedd trafod cyson rhwng Penaethiaid Gwasanaeth i gymharu syniadau a rhannu'r gwersi a ddysgwyd.

·         Dywedwyd er ein bod wedi gorfod addasu a gwneud mwy o ddefnydd o dechnoleg yn ystod y pandemig, nad oedd hwn yn opsiwn addas i bawb.  Dywedodd swyddogion wrth y Pwyllgor fod yr Awdurdod wrthi'n gweithio gyda Chymunedau Digidol Cymru a phartneriaid yn y trydydd sector i wneud adolygiad strategol o atebion digidol i gefnogi pawb.  Roedd cyllid hefyd wedi bod ar gael drwy gais cyfalaf y Gronfa Gofal Integredig. Er bod technoleg wedi bod yn ddefnyddiol, nodwyd hefyd bod dal angen cynnal asesiadau wyneb yn wyneb mewn llawer o achosion.

·         Mynegwyd pryder ynghylch effaith gweithio drwy'r pandemig ar staff rheng flaen.  Sicrhawyd y Pwyllgor fod lles staff yn cael ei ystyried yn rhywbeth pwysig ac roedd cydnabyddiaeth pa mor anodd oedd pethau wedi bod. Roedd yr adran wedi bod yn gweithio gydag Iechyd Galwedigaethol i ddatblygu dulliau cymorth, ac roedd gwahanol atebion wedi'u rhoi ar waith a amrywiai o drafod pryderon ar 'teams' i gynnal picnics a chwisiau rhithwir. Roedd cyfarfodydd goruchwylio rheolaidd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL 2019/20 PWYLLGOR CRAFFU GOFAL CYMDEITHASOL AC IECHYD pdf eicon PDF 302 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol ynghylch ei waith yn ystod blwyddyn y cyngor 2019/20 . Roedd yr adroddiad wedi'i baratoi'n unol ag Erthygl 6.2 o Gyfansoddiad y Cyngor sy'n ei gwneud yn ofynnol i Bwyllgorau Caffael baratoi adroddiad blynyddol sy'n egluro gweithgareddau'r Pwyllgor dros y flwyddyn flaenorol.

 

Roedd yr adroddiad yn bwrw golwg gyffredinol ar raglen waith y Pwyllgor a'r materion allweddol a ystyriwyd yn ystod y flwyddyn.  Yn ogystal, roedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth am sesiynau datblygu ac am ymweliadau safle a oedd wedi'u trefnu ar gyfer y Pwyllgor, yn ogystal â data am bresenoldeb.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Craffu - Gofal Cymdeithasol ac Iechyd 2019/20.

 

 

 

7.

BLAENRAGLEN WAITH Y PWYLLGOR CRAFFU GOFAL CYMDEITHASOL AC IECHYD AR GYFER 2020/21 pdf eicon PDF 309 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried ei Flaenraglen Waith ar gyfer 2020/21 a baratowyd yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor sy'n ei gwneud yn ofynnol i Bwyllgorau Craffu ddatblygu a chyhoeddi blaenraglen waith bob blwyddyn gan glustnodi materion ac adroddiadau sydd i'w hystyried mewn cyfarfodydd yn ystod blwyddyn y cyngor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gadarnhau Blaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu - Gofal Cymdeithasol ac Iechyd ar gyfer 2020/21.

 

8.

LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFODYDD A GYNHALIWYD AR Y 5ED MAWRTH, 2020 pdf eicon PDF 328 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi ei gynnal ar 5 Mawrth 2020 gan eu bod yn gywir.