Lleoliad: Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP ac o bell. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Julie Owens 01267 224088
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd G.B. Thomas. |
|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd datganiadau o fuddiant personol. |
|
I LOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFODYDD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR:- Dogfennau ychwanegol: |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 22 Ebrill 2024 gan eu bod yn gywir. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 30 Ebrill 2024 gan eu bod yn gywir. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR SAFONAU 2023-2024 PDF 137 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried ei Adroddiad Blynyddol drafft 2023/24 a oedd yn manylu ar y gwaith yr oedd wedi'i wneud yn ystod y cyfnod hwnnw. Os caiff ei gymeradwyo, byddai'r adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod o'r Cyngor Sir yn y dyfodol yn unol â'r gofynion a nodir yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
Mewn ymateb i ymholiadau, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y byddai'r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â'r g?yn ar ffurf datgelu camarfer a oedd dal heb ei datrys a gwybodaeth am nifer y cynlluniau hyfforddi a gyhoeddwyd gan Gynghorau Tref a Chymuned yn cael ei darparu i'r Pwyllgor yn ei gyfarfod nesaf.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu a chyflwyno Adroddiad Blynyddol drafft y Pwyllgor Safonau 2023/24 i'r Cyngor. |
|
CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD ANJULI FAYE DAVIES PDF 95 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Cymuned Anjuli Faye Davies am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a phleidleisio ac i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â busnes y cyngor yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llangathen ynghylch y cynigion ar gyfer peilonau trydan yn y Sir (Cynllun Bute Energy). Dywedwyd y byddai gan y Cynghorydd Davies fuddiant personol a rhagfarnol yn y busnes hwn gan ei bod yn byw ac yn ffermio ger llwybr arfaethedig y peilonau.
Dywedwyd bod y Cynghorydd Davies yn gofyn am ollyngiad yn rhinwedd y canlynol:
Rheoliad 2(2)(d) – mae natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai cyfraniad yr aelod i'r busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd o ran cynnal busnes yr awdurdod perthnasol,
Rheoliad 2(2)(e) mae'r buddiant yn gyffredin i'r aelod a chyfran sylweddol o'r cyhoedd yn gyffredinol a;
Rheoliad 2(2)(f) mae cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef wedi'i gyfiawnhau gan rôl neu arbenigedd penodol yr aelod.
Dywedwyd wrth y pwyllgor pe bai'n caniatáu cais y Cynghorydd Davies, y byddai angen iddo benderfynu ar hyd y gollyngiad hwnnw hefyd.
Yn dilyn trafodaeth,
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2(2)(d), 2(2)(e) a 2(2)(f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Anjuli Faye Davies i siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig ond NID pleidleisio ar fusnes y cyngor yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llangathen ynghylch y cynigion ar gyfer peilonau trydan yn y Sir (Cynllun Bute Energy) a bod y gollyngiad yn ddilys tan ddiwedd y tymor etholiadol presennol. |
|
CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD ELIZABETH ANN DAVIES PDF 114 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Cymuned Elizabeth Ann Davies am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a phleidleisio a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â busnes y cyngor yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llangathen ynghylch trosglwyddo trydan o Barc Ynni Nant Mithil i'r cysylltiad grid yn Sir Gâr.
Dywedwyd y byddai gan y Cynghorydd Davies fuddiant personol a rhagfarnol mewn busnes o'r fath gan fod llwybr arfaethedig y peilonau trydan yn effeithio ar ei heiddo hi ac eiddo ei chymdogion.
Dywedwyd bod y Cynghorydd Davies yn gofyn am ollyngiad yn rhinwedd y canlynol:
Rheoliad 2(2)(d) – mae natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai cyfraniad yr aelod i'r busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd o ran cynnal busnes yr awdurdod perthnasol a;
Rheoliad 2(2)(e) mae'r buddiant yn gyffredin i'r aelod a chyfran sylweddol o'r cyhoedd yn gyffredinol.
Dywedwyd wrth y pwyllgor pe bai'n caniatáu cais y Cynghorydd Davies, y byddai angen iddo benderfynu ar hyd y gollyngiad hwnnw hefyd.
Yn dilyn trafodaeth,
PENDERFYNWYD YN UNFRODOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2(2)(d) a 2(2)(e) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Elizabeth Ann Davies i siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig ond NID pleidleisio ar fusnes y cyngor yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llangathen ynghylch trosglwyddo trydan o Barc Ynni Nant Mithil i'r cysylltiad grid yn Sir Gâr a bod y gollyngiad yn ddilys tan ddiwedd y cyfnod etholiadol presennol. |
|
CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD EIRYL REES PDF 97 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais gan y Cynghorydd Cymuned Eiryl Rees am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a phleidleisio a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â busnes y cyngor yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llangathen ynghylch trosglwyddo trydan o Barc Ynni Nant Mithil i'r cysylltiad grid yn Sir Gâr.
Dywedwyd y byddai gan y Cynghorydd Rees fuddiant personol a rhagfarnol mewn busnes o'r fath gan ei bod yn bosibl bod llwybr arfaethedig y peilonau trydan yn effeithio ar ei heiddo.
Dywedwyd bod y Cynghorydd Rees yn gofyn am ollyngiad yn rhinwedd y canlynol:
Rheoliad 2(2)(d) – mae natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai cyfraniad yr aelod i'r busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd o ran cynnal busnes yr awdurdod perthnasol;
Rheoliad 2(2)(f) mae cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef wedi'i gyfiawnhau gan rôl neu arbenigedd penodol yr aelod.
Dywedwyd wrth y pwyllgor pe bai'n caniatáu cais y Cynghorydd Rees, y byddai angen iddo benderfynu ar hyd y gollyngiad hwnnw hefyd.
Yn dilyn trafodaeth,
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2(2)(d) a 2(2)(f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Eiryl Rees i siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig ond NID pleidleisio ar fusnes y cyngor yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llangathen ynghylch trosglwyddo trydan o Parc Ynni Nant Mithil i'r cysylltiad grid yn Sir Gâr a bod y gollyngiad yn ddilys tan ddiwedd y tymor etholiadol presennol. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gr?p a gyflwynwyd gan y clerc i Gyngor Cymuned Llandyfaelog mewn perthynas â phob un o 11 aelod y cyngor hwnnw am ollyngiad o dan ddarpariaethau Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a phleidleisio mewn perthynas â busnes y cyngor ynghylch ymgyngoriadau cynllunio mewn perthynas â chysylltiadau Tywi - Wysg a Thywi - Teifi o Barciau Ynni Nant Mithil a Lôn Fawr i'r cysylltiad grid yn Sir Gâr.
Dywedwyd y byddai gan y Cynghorwyr Nicola Jones, Philip Davies, Eifion Jones, Jenny Jones, Shan Rees, Carys Thomas, Rheinallt Jones, Janet Knott, Elfryn Williams, Viv Davies a Meinir James fuddiannau personol a rhagfarnol mewn busnes o'r fath fel y manylir yn y cais. Nodwyd hefyd y byddai maint y prosiectau arfaethedig yn golygu y byddai effaith ar lesiant a/neu sefyllfa ariannol cysylltiadau personol agos y cynghorwyr, neu y byddai'r effaith yn debygol.
Gofynnwyd am y gollyngiadau yn rhinwedd y canlynol:
Rheoliad 2(2)(a) - nid llai na hanner aelodau'r awdurdod perthnasol y mae'r busnes i gael ei ystyried ganddo sydd â buddiant mewn perthynas â'r busnes hwnnw.
Rheoliad 2(2)(d) – mae natur buddiant yr aelod yn golygu na fyddai cyfraniad yr aelod i'r busnes y mae'r buddiant yn ymwneud ag ef yn niweidio hyder y cyhoedd o ran cynnal busnes yr awdurdod perthnasol a;
Rheoliad 2(2)(e) mae'r buddiant yn gyffredin i'r aelod a chyfran sylweddol o'r cyhoedd yn gyffredinol.
Dywedodd yr adroddiad fod y cais yn cyfeirio at y sail yn Rheoliad 2(2) (c) - cydbwysedd gwleidyddol, ond dim ond i Gynghorau Sir a Bwrdeistref Sirol y byddai'r sail hon yn berthnasol ac felly ni fyddai'n berthnasol i'r cais hwn.
Dywedwyd wrth y pwyllgor pe bai'n caniatáu'r cais, y byddai angen iddo benderfynu ar hyd y gollyngiad hwnnw hefyd.
Yn dilyn trafodaeth
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiadau o dan Reoliadau 2(2)(a), 2(2)(d) a 2(2)(e) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorwyr Nicola Jones, Philip Davies, Eifion Jones, Jenny Jones, Shan Rees, Carys Thomas, Rheinallt Jones, Janet Knott, Elfryn Williams, Viv Davies a Meinir James i SIARAD A PHLEIDLEISIO yng nghyfarfodydd Cyngor Cymuned Llandyfaelog mewn perthynas ag ymgyngoriadau cynllunio mewn perthynas â chysylltiadau Tywi - Wysg a Thywi - Teifi o Barciau Ynni Nant Mithil a Lôn Fawr i'r cysylltiad grid yn Sir Gâr a bod y gollyngiadau'n ddilys tan ddiwedd eu tymhorau presennol yn y swydd. |